31 May 2023

Available for over a year

Rhaglen Caryl Parry Jones

Ar ei rhaglen wythnos diwethaf, mi gafodd Caryl sgwrs efo Ieuan Mathews o Gwmni Theatr Pontypridd. Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn llwyfannu y sioe gerdd Grease. Mi ofynnodd Caryl iddo fo‘n gynta, faint o sioeau maen nhw‘n arfer perfformio bob blwyddyn...

Llwyfannu - To stage

Sioe gerdd - Musical

Cymeriadau - Characters

Iesgob annwyl! - Good grief!

Y brif ran - The main part

Rhaglen Bore Sul

Yn 1963 recordiwyd Cymanfa Ganu arbennig yn Neuadd Albert Llundain gyda dros 5,000 o gantorion yn cymryd rhan. Mi roddodd Alun Thomas, cyflwynydd y rhaglen, apêl ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw un oedd yn bresennol yn y recordiad hwnnw i gysylltu efo fo. Ac yn wir, mi gafodd ymateb gan Non Thomas, sy’n dod o Ferthyr yn wreiddiol, ond sy'n byw yn Hirwaun yng Nghwm Cynon erbyn hyn...

Cymanfa Ganu - A hymn singing festival

Cyflwynydd - Presenter

Cyfryngau cymdeithasol - Social media

Ymateb - Response

Ymuno â - To join

Gwasanaeth sifil - Civil Service

Dipyn o fenter - Quite a venture

Profiad - Experience

Dych chi’n gallu dychmygu - You can imagine

Y wefr - The thrill

Rhaglen Trystan ac Emma

Mi fuodd Casi ac Elen o Ysgol Treganna, Caerdydd yn ddigon lwcus yn ddiweddar i dderbyn llythyr arbennig iawn yn y post. Roedden nhw wedi anfon llythyr at y naturiaethwr a’r darlledwr enwog David Attenborough. Mi ofynnodd Trystan ag Emma i’r ddwy pam penderfynon nhw anfon llythyr ato fo...

Darlledwr- Broadcaster

Yn ddiweddar - Recently

Arwr - Hero

Cyflwyniad - Presentation

Brathu - To bite

Sefydlu - To establish

Baswn i’n tybio - I would assume

Rhaglen Ar Blât

Y ddarlledwraig Siân Thomas oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar ei chyfres yr wythnos diwethaf. Dyma Sian yn sôn am wyliau gwahanol iawn gafodd hi yn y gorffennol...

Mis mêl - Honeymoon

Sa i’n gwybod - Dw i ddim yn gwybod

Wedi gweini ar iâ - Served on ice

Trwchus - Thick

Amrwd - Raw

Cig carw - Venison

Anhygoel - Incredible

Pert - Pretty

Yn go gloi - Quite quickly

Rhaglen Aled Hughes

Mae Tegan Rees o Gwm Rhondda yn fyfyrwraig newyddiaduraeth, ond mae hi hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn Bowlio Lawnt. Wythnos diwethaf ar raglen Aled Hughes mi ofynnodd Nia Parry (a oedd yn cyflwyno yn lle Aled Hughes) i Tegan, pryd dechreuodd hi chwarae bowls...

Newyddiaduraeth - Journalism

Cynrychioli - To represent

Wastad - Always

Chdi - Ti

Pryderus - Concerned

Cyffro - Excitement

Braslun - Outline

Rhaglen Caryl Parry Jones

Ar Ynys Môn mae na griw o ferched yn nofio’n gyson yn y môr drwy’r flwyddyn hyd yn oed yng nghanol y gaeaf. Maen nhw’n nofio dan faner Nofwyr Titws Tomos Môn!! Dyma un ohonyn nhw, Sian, i sôn mwy wrth Caryl Parry Jones…

Yn gyson - Regularly

Hyd yn oed - Even

Baner - Flag

Titw Tomos - Blue Tit

Calon - Heart

Trochiad - Ducking

Canmol - Praise