20 October 2022

Available for over a year

BETI A’I PHOBOL

Mae Bethan Wyn Jones yn awdures llyfrau natur, ac mae colofn natur gyda hi bob wythnos yn yr Herald Gymraeg sydd yn rhan o’r Daily Post. Hi oedd gwestai Beti George wythnos diwetha a yma hi’n sôn am yr adeg pan fuodd ei gŵr hi farw…

Cyflwyniad - Introduction

Galar - Bereavement

Gwlad Pŵyl - Poland

Gofal dwys - Intensive care

Go lew - Ddim yn ddrwg

Meddygon - Doctors

Canmol - To praise

Amodau - Conditions

Sioc enbyd - Devastating shock

Anghredinedd - Disbelief

ALED HUGHES

Maggie Ogunbanwo o Benygroes ger Caernarfon fuodd yn siarad efo Aled Hughes fore Mercher, ar ôl iddi hi ennill Gwobr Mentergarwch yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg 2022...

Gwobr Mentergarwch - Entrepreneur Award

Ysbrydoli - To inspire

Rhan fwyaf - Mainly

Pres - Arian

Goro - Gorfod

IFAN EVANS

Mae Alun Rees, yn dod o Sir Gaerfyrddin, neu Sir Gar, yn wreiddiol ond erbyn hyn mae e’n byw yn Nashville, America ac yn gweithio efo’r rhaglen deledu “American Pickers”. Mae e’n teithio ar draws y wlad gyda’i waith – o Nashville i Kansas i Mount Rushmore – tua 14 awr yn ei fan!

Adnabyddus - Enwog

Llanw lan â thanwydd - Fill up with fuel

Cerddorol - Musical

Antur - Adventure

Yn ddiweddar - Recently

Rhaglen ddogfen - Documentary

Darlledu - To broadcast

Deuawd - Duet

Amrywiol - Varied

Unigryw - Unique

DROS GINIO

Mewn pum wythnos bydd Cymru yn chwarae pêl-droed yn erbyn Unol Daleithiau America yn Qatar. Dyma fydd y tro cynta i Gymru fod yn nghystadleuaeth Cwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd. Pa fath o le yw Qatar? Pa fath o groeso caiff cefnogwyr Cymru yno? Mae Rhodri Ogwen yn byw yno ers tua 10 mlynedd a dyma fe’n siarad ar Dros Ginio…

Cynnwrf - Excitement

Canolbwyntio - To concentrate

Rhwydwaith - Network

Gwelliannau bach - Small improvements

Cefnogwyr - Fans

Cyfweliad - Interview

Pwyllgor Trefnu - Organising Committee

Llysgennad - Ambassador

Gradd - Degree

Diogel - Safe

CARYL PARRY JONES

Un sydd yn sicr o fod yn Qatar ydy Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Pêl-droed Cymru. Fe oedd gwestai Caryl nos Fercher a buodd yn sôn am daith emosiynol yn ddiweddar i Ypres, Gwlad Belg. Roedd taid Ian Gwyn Hughes, Lewis Valentine, yn y Rhyfel Byd Cyntaf a llwyddodd Ian i ddod o hyd i gofeb ym mynwent Tyne Cot, gydag enw ffrind ei daid arni. Dyma Ian yn dweud yr hanes...

Rhyfel Byd Cyntaf - First World War

Mynwent - Cemetary

Cofeb - Monument

Bedd Hedd Wyn - The grave of Hedd Wyn ( a Welsh poet)

Croesoswallt - Oswestry

Cafodd ei saethu - Was shot

Corff - Body

Ymchwil - Research

Almaenig - German

COFIO

Trysor oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy ac yn ôl 2009 buodd e’n sgwrsio gyda David Clement o Ffynnon Taf ger Caerdydd am y dyddiadur buodd e’n ei gadw ers 1957. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Sylw - Attention

Cofnodi - To note

Cyflawni - To achieve

Amcangyfrif - Estimate

Pori - To browse

Yr ifanca - Y fenga

Menyw - Dynes

Llefain - Crïo

Erchyll - Terrible