Llafur Cymru'n wynebu 'argyfwng dirfodol', yn ôl cyn-Weinidog

Lee Waters
Disgrifiad o’r llun,

Doedd "dim un rheswm unigol" dros berfformiad Llafur Cymru yn etholiad y Senedd ym mis Mai, medd Lee Waters

  • Cyhoeddwyd

Mae Llafur Cymru'n wynebu "argyfwng dirfodol" ac mae angen i'r blaid ddysgu gwersi o'i pherfformiad gwael yn etholiad y Senedd, yn ôl cyn-weinidog.

Roedd gweld y blaid yn sicrhau naw sedd yn unig ym Mae Caerdydd "yn brofiad poenus a rhwystredig" medd y cyn-weinidog trafnidiaeth o fewn y llywodraeth Lafur ddiwethaf yn y Senedd, Lee Waters.

Daeth Llafur yn drydydd y tu ôl i Blaid Cymru (43 o seddi) a Reform (34 o seddi) a hynny ar ôl ennill pob etholiad Senedd ers dechrau datganoli yn 1999.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Roedd y rhain yn ganlyniadau trychinebus i ni ac mae angen i ni gymryd amser i gadarnhau beth aeth o'i le."

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd Waters bod "dim un rheswm unigol pam y cwympodd Llafur" ac mai "mynd i'r afael â hyd a lled y golled yw'r peth cyntaf" i'w wneud.

"Mae hwn yn argyfwng dirfodol ac rwy'n meddwl bod angen i Lafur nawr ddychwelyd i'w hegwyddorion gwreiddiol ac ailfeddwl beth yw ei phwrpas.

"Daethon ni o fewn 4,000 o bleidlais y Ceidwadwyr- dyna pa mor ddrwg oedd e - ac felly rwy'n meddwl bod trafodaeth iach yn angenrheidiol."

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Wrth fethu â sicrhau sedd yn etholaeth Ceredigion Penfro, Eluned Morgan oedd arweinydd cyntaf unrhyw lywodraeth yn y DU i golli ei sedd tra yn y swydd

Mae Waters yn fwyaf adnabyddus fel y gweinidog oedd yn gyfrifol am y polisi terfyn cyflymder 20mya dadleuol.

Dywedodd bod y polisi hwnnw "yn bendant... wedi achosi cryn drafferth".

"Cawsom ein taro am hynny - 'sa i'n gwadu hynny.

"Mae wedi cyflawni pethau gwych, ond roedd pris i'w dalu amdano."

Arwyddion 20mya a 30myaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gostwng y cyflymder gyrru o 30 mya i 20 mya mewn ardaloedd trefol yn dal yn destun dadlau, er bod ystadegau'n awgrymu gostyngiad yn niferoedd damweiniau ers y newid

Ychwanegodd bod Plaid Cymru'n wynebu sawl penderfyniad anodd wrth lywodraethu am y tro cyntaf ym Mae Caerdydd wedi blynyddoedd ar y meinciau cefn.

Mae'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth wedi gwneud addewid i ddod o hyd i ddatrysiad i dagfeydd yr M4, gydag ateb "yn seiliedig ar ffyrdd", wedi i'r llywodraeth Lafur gefnu ar gynllun ffordd liniaru yn 2019.

"A fydd yn hawdd i'w gyflawni? Na fydd, a fydd e ddim yn rhad 'chwaith," dywedodd Mr Waters.

"Fel gwrthblaid, eich gwaith yw ceisio sicrhau gymaint o gynghreiriaid ag y gallwch chi.

"Does dim gorfodaeth arnoch i ddewis, nag i gyfaddawdu."

Mewn ymateb i'w sylwadau dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn glir bod mawr angen i fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd, ochr yn ochr â gwelliannau i'n rheilffyrdd a dulliau trafnidiaeth eraill."

Traffig ar yr M4Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd £114m ei wario ar gynllunio ar gyfer y ffordd liniaru, cyn i'r prosiect gael ei atal

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Cododd etholwyr bryderon difrifol ynghylch mynediad i'r GIG, ffyrdd, gwasanaethau lleol, costau byw ac ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth.

"Mae'r rhain yn faterion ym mywydau pobl bob dydd ac roedden nhw'n teimlo nad oedden ni'n gwneud dim y helpu gyda'r rheiny.

"Ni allwn ni anwybyddu hynny. Mae'r canlyniadau yma'n adlewyrchiad arnom oll ac mae'n rhaid i ni gyd ddysgu'n gwersi ohonyn nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.