Ydy pobl Caernarfon yn cofio pa ffordd mae'r cloc yn troi?

Pobl
GanAnna George ac Alun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n amser unwaith eto i droi'r clociau awr yn ôl.

Am 02:00 ar 25 Hydref byddwn ni'n symud o'r British Summer Time (BST) i'r Greenwich Mean Time (GMT).

Mae hynny'n golygu y cewch chi awr ychwanegol yn eich gwely fore Sul.

Bydd y machlud yn symud awr ymlaen hefyd, ac efallai y byddwch yn sylwi arni'n gwawrio'n gynt. Bydd y cloc yn cael ei droi awr ymlaen ar 28 Mawrth 2027.

Ond tybed a ydy pobl Caernarfon yn cofio pa ffordd i droi'r cloc yn yr hydref? Ac ydyn nhw'n deall pam? Gwyliwch y fideo.

Disgrifiad,

Pa ffordd mae’r clociau’n troi dydd Sul yma?

Pam troi'r cloc?

Mae troi'r cloc yn hen draddodiad, sy'n dyddio yn ôl i 1916, ond pam?

Yn 1916 fe ddechreuodd Yr Almaen droi'r cloc er mwyn arbed golau dydd. Mae trefn Yr Almaen o droi'r cloc yn cael ei alw'n DST (Daylight Saving Time).

Y bwriad oedd rheoli'r defnydd o danwydd yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd gwneud y mwyaf o olau dydd yn y gwanwyn a'r haf yn golygu bod llai o alw am olau a gwres.

Fe ddilynodd gwledydd eraill yr un drefn â'r Deyrnas Unedig, a'i alw'n British Summer Time (BST).

Ac mae'r traddodiad yn parhau, sy'n golygu bod mwy o olau ym moreau llwm yr hydref, a mwy o olau yn ystod y nosweithiau pan ddaw'r gwanwyn.

Felly dyna daflu goleuni ar pam ein bod ni'n troi y cloc.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig