'O'n i'n ei edmygu...fe oedd arweinydd y pac' a 'byddai fe'n dweud 'jest gwna fe''

Ellie, Heledd ac IoanFfynhonnell y llun, Lluniau cyfrannydd
GanLlion Higham
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Fy nghefnder oedd fy model rôl" a "'nes i dyfu lan yn ei edmygu" a bob tro "dwi'n gwneud chwaraeon i'r eithaf mae'n dod â fi nol at Ioan".

Cafodd Ioan Powell o Gaerdydd ddiagnosis o ganser yn 2022 a bu farw o diwmor yr ymennydd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 27 oed.

Pan glywodd y teulu'r newyddion "roedd e'n gyfnod anodd iawn" meddai ei gyfnither 24 oed, Heledd Powell, "ond beth 'nath sefyll allan drwy gydol popeth oedd pa mor wydn oedd Ioan".

"Roedd bob amser yn barod i ymladd" ac mae e'n "ysbrydoliaeth i fi bob dydd i fyw bywyd i'r eithaf".

Felly, er cof amdano ac i godi arian at Ymchwil Canser Cymru mae Heledd a'i ffrind Ellie Bamford, 25, yn ymgymryd â'u "her fwyaf" – Triathlon 70.3 yn Barcelona ddydd Sul.

Heledd ac EllieFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heledd (chwith) ac Ellie yn fyfyrwyr meddygaeth yn eu pumed blwyddyn ym mrhifysgol Queen's Belfast

"Mae mynd i fod yn anodd," ac "roeddwn i'n meddwl o'dd e'n beth gwyllt i 'neud" ond byddai Ioan fel "arweinydd y pac" mor browd.

Roedd e'n berson oedd wrth ei fodd yn gwneud pethau "anturus", meddai Heledd.

"Fe oedd wastad y dewraf, yn gwneud backflips o blatfformau yn Abereiddi, Sir Benfro," ond roedd ein diddordebau yn aml yn debyg," esbonia'i gyfnither iau.

Ddydd Sul mi fydd yr her yn cyfateb i bellter hanner Ironman – gan gynnwys 1.9km o nofio yn y môr, 88km ar gefn beic, a phellter hanner marathon o 21km o redeg i orffen.

"Byddai Ioan fel 'Jest gwna fe Hels!'"

Ioan yn ifanc a Heledd ac Ellie nawrFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ioan yn "caru anifeiliaid, teithio, beicio, coginio, rhedeg, unrhyw beth yn y goedwig neu ar lan y môr" meddai Heledd (yn y coch)

"Mae'r gefnogaeth wedi bod yn grêt," esboniodd Heledd gyda'r ddwy wedi bod yn codi arian at Ymchwil Canser Cymru.

"Ond mae'r ymateb ar y dudalen noddi jest 'di bod yn destament i Ioan," meddai - "ei bersonoliaeth, ei wydnwch a'r effaith a gafodd ar bawb".

Bob wythnos yng Nghymru mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser yn ôl Ymchwil Canser Cymru.

Mae Heledd ac Ellie'n gobeithio y bydd eu her yn tynnu sylw at driniaethau canser a thiwmor yr ymennydd yn benodol ac y bydd yr arian y maen nhw'n ei godi'n helpu'r achos.

"Dyw'r atebion na'r triniaethau am bopeth ddim gyda ni ond mae cael cyflwr bywyd da yn ystod y broses mor bwysig."

Felly er bod yr her am fod yr un anoddaf y mae'r ddwy wedi ei hwynebu "mae at achos mor dda," meddai Heledd.

Ioan PowellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ioan Powell o Gaerdydd ddiagnosis o ganser yn 2022

Fel myfyriwr meddygaeth fi hefyd yn "gweld pa mor bwysig ydy'r elusennau yma ar gyfer teuluoedd a chleifion".

Cafodd Ioan gyfnod o fod mewn remission, meddai a chyfle i "wir gyflawni popeth odd e eisiau cyflawni – 'nath e gyrsiau coginio achos odd e'n chef anhygoel - 'nath e weithio i Gordon Ramsey! A chafodd e gyfle i dreulio amser yn iawn gyda teulu."

"Maen nhw [Ymchwil Canser Cymru] yn 'neud gymaint," meddai.

Felly er bod hwn "yn un sialens bach" mae unrhyw arian yn "gallu bod yn bwysig iawn i bobl yn eu diwrnodau olaf" ac mae'n annog unrhyw un sy'n gallu i gyfrannu.

Erbyn hyn, dywedodd Heledd ei bod hi ac Ellie'n teimlo'n barod am yr her ddydd Sul.

"Ond fydda i'n meddwl am Ioan a phawb oedd yn lwcus i'w 'nabod, yr holl ffordd rownd y cwrs a siŵr neiff Ioan rhoi hwb o egni i ni pan 'da ni ei angen e fwyaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig