Storm Boelo yn dod â mwy o wyntoedd cryfion a rhybuddion llifogydd

Tonnau gwyllt AberystwythFfynhonnell y llun, Tegwen Morris
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tonnau'n wyllt yn Aberystwyth fore Sul

GanGwydion Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r rhybudd melyn am wynt yn parhau i fod mewn grym i rannau o ogledd Cymru ddydd Sul ac mae yno rybuddion llifogydd hefyd mewn lleoliadau yn y de.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd, dolen allanol fod y storm am ddod â chyfnod gwyntog a gwlyb iawn dros y penwythnos, gyda rhywfaint o darfu ar gynlluniau yn debygol.

Mae'r rhybudd melyn yn effeithio ardaloedd fel Pen Llŷn, Bangor, Ynys Môn, Blaenau Ffestiniog ac ar draws i'r Wyddgrug.

Mae anafiadau a pherygl i fywyd yn bosib, meddai'r swyddfa, wrth i'r gwynt chwythu pethau gan achosi iddyn nhw hedfan, a thonnau'r môr yn tasgu ar arfordiroedd. Gallai teithio gael ei effeithio hefyd.

Effeithio ar y de ddwyrain y mae'r rhybuddion llifogydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac mae'n bosib canfod mwy o wybodaeth am y rhain ar y wefan, dolen allanol.

Mae ganddyn nhw sawl rhybudd mewn grym i 'fod yn barod' am lifogydd mewn lleoliadau eraill hefyd.

Coeden wedi disgyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd coeden wedi disgyn yn y Rhath, Caerdydd, ben bore Sul

Mae'r rhybudd am wynt wedi bod mewn grym ers amser cinio ddydd Sadwrn ac yn parhau tan 21:00 nos Sul.

Mi gafodd chwyth gwynt o 84mya ei gofnodi yng Nghapel Curig ac ar fore Sul roedd nifer o bobl yn dal heb drydan ar draws Cymru.

Rhannodd yr heddlu ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi bod yn delio gyda digwyddiadau llifogydd mewn sawl lleoliad, gan gynnwys yr A473, Trefforest, Pontypridd, a Chaerdydd.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod yno "swm sylweddol o lanast a choed wedi disgyn ar yr A470 rhwng cylchfan y 'Black Cat' a Llanrwst" ac i bobl gymryd gofal yn yr ardal honno.

Mae bysiau'n gweithredu yn lle nifer o drenau Trafnidiaeth Cymru oherwydd llifogydd a thywydd garw.

Dywedodd y Grid Cenedlaethol fod dwsinau o drenau wedi'u canslo ac mae'n bosib gweld mwy o fanylion am y teithiau yma, dolen allanol.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn delio â nifer o adroddiadau am goed wedi disgyn hefyd.

Mi ganslodd cwmni Stena y fferi oedd yn fod i fynd o Gaergybi i Ddilyn am 10:00 fore Sul a dywedon nhw y gallai gwasanaethau eraill gael eu gohirio oherwydd y tywydd hefyd.

Mae Irish Ferries hefyd wedi canslo dwy fordaith rhwng Caergybi a Dulyn ddydd Sul, ac y gallai gwasanaethau'r prynhawn adael yn gynnar.

Cafodd y fferi o Benfro i Rosslare ei chanslo fore Sul hefyd, ond roedd disgwyl i fordeithiau diweddarach fynd yn eu blaenau.

Criccieth, GwyneddFfynhonnell y llun, BBC WEATHER WATCHERS/katyt
Disgrifiad o’r llun,

Y dŵr yn tasgu yng Nghriccieth

Mae miloedd o gartrefi wedi colli trydan am gyfnodau dros y penwythnos, o ganlyniad i effaith stormydd Austen a Boelo.

Ym Mhorth Amlwch, mi gafodd gwaith adnewyddu hen Adeilad y Derfynfa Forol ei atal dros dro ar ôl i'r storm ddifrodi trawst newydd yn y to.

Mi ganslodd Stena Line rai teithiau fferi hefyd rhwng Caergybi a Dulyn.

Penderfynodd trefnwyr Marathon Eryri i ganslo'r ras eleni, oedd yn fod i gael ei chynnal ddydd Sadwrn

Dywedodd y trefnwyr fod asesiad o'r cwrs wedi dangos nad oedd yn ddiogel, oherwydd gwyntoedd cryfion, coed ar y ffyrdd a llifogydd ar hyd y llwybrau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.