Tîm pêl-droed Cymru dros 70 oed yn ennill Cwpan y Byd

- Cyhoeddwyd
Mae tîm pêl-droed Cymru dros 70 oed wedi ennill Cwpan y Byd 2026 yn dilyn y gystadleuaeth yn Queensland, Awstralia, yn ddiweddar.
Dyma'r trydydd tro yn olynol i Gymru ennill Cwpan y Byd, gan guro'r Almaen yn y rownd derfynol ar 16 Hydref.
Un o aelodau'r garfan oedd y golwr 72-mlwydd-oed, Alan Meacham. Siaradodd Cymru Fyw gydag Alan am lwyddiannau'r tîm a chefndir y garfan.

Alan yn dathlu buddugoliaeth i Gymru
"Rwy' 'di bod gyda'r garfan yma (dros 70) ers tair blynedd," medd Alan, "gan fynd i gystadleuaeth Cwpan y Byd ar dri achlysur. Ond dwi 'di bod yn rhan o garfanau hŷn Cymru ers tua 15 mlynedd."
Daw Alan o Sir Benfro'n wreiddiol, ond mae'n byw yn Abertawe ers blynyddoedd lawer.
"Mae pedwar tîm yng nghynghrair Veterans Cymru - Abertawe, Y Barri, Casnewydd a Merthyr - ond mae 'na chwaraewyr sy'n teithio o Sir Benfro, canolbarth Cymru a hefyd o'r gogledd i chwarae."

Alan Meacham (ar y dde) gyda rheolwr y tîm, Jon Ross
Mae'r timau hŷn yn cael eu rhannu o ran oedran ac yn mynd i fyny pob pum mlynedd, gan ddechrau gyda'r dros 40, yna dros 45, dros 50, yr holl ffordd fyny i'r tîm hynaf, sef dros 70.
"Mae chwaraewyr yn gallu chwarae dros 'dîm iau', ond ddim y ffordd arall a chwarae i dîm hŷn," esbonia Alan.
"Rwy'n chwarae i Abertawe dros 70, ond hefyd i Abertawe dros 65, ac yn achlysurol i Abertawe dros 60. Wrth gwrs, ma'n mynd anoddach i ni'r bois hŷn i redeg ar ôl y bois 50 oed!
"Mae'n anrhydedd i chwarae dros ein gwlad yn ein hoed ni, a 'dyn ni mor ddiolchgar i'r gymdeithas, y Wales Veterans Football Association, am y cyfle. Mae'r gymdeithas yn gwthio'r ffiniau pan ma'n dod i fois ein hoed ni i allu chwarae, sy'n gwbl wych."

Capten carfan Cymru, Phil Gibb, gyda'r amddiffynwr, Paul Young
Ymunodd Alan â chlwb pêl-droed Abertawe yn 1973, gan chwarae ochr-yn-ochr â rhai o fawrion y clwb, fel Alan Curtis, Robbie James a Nigel Stevenson.
Wedi ei gyfnod gydag Abertawe aeth ymlaen i chwarae yn y Southern League dros Ferthyr, ac yng Nghynghreiriau Cymru dros Rydaman, Llansawel a Phort Talbot. Chwaraeodd dros 1,000 o gemau cyn rhoi'r gorau i chwarae yn 46 oed.
Roedd Alan yn gweithio i Brifysgol Abertawe am dros 25 mlynedd cyn iddo ymddeol.
'Yr awch i chwarae'
Yn siarad am aelodau eraill carfan Cymru, dywed Alan:
"Mae 'na amryw sydd wedi chwarae i safon uchel ym mhêl-droed Cymru. Ond dydi hynny ddim o bwys i ddweud gwir, achos sut mae rhywun yn chwarae heddiw sy'n bwysig.
"'Nes i ddim dechrau chware pêl-droed veterans nes o'n i'n 59, a dwi'n meddwl bod llawer o'r bois eraill yr un peth; mae'r awch i chwarae yn ail-afael ynddoch chi'n hwyrach 'mlaen mewn bywyd."

Yr ymosodwr, Graham Miles, yn rheoli'r bêl
Felly, beth yw'r heriau sy'n wynebu chwaraewyr hŷn o'i gymharu â phan oeddent yn iau?
"Yr her fwyaf yw trio osgoi anafiadau. Mae'n gallu bod yn anodd chwarae 11-bob-ochr ar gae maint llawn yn ein hoed ni, felly mae angen gweithio ar gyflyru i allu gwneud hynny.
"Mae'r rhan fwyaf o'r bois dwi'n chwarae gyda, yn enwedig y rhai yn eu 70au, yn hynod o ffit am eu hoedran, ac yn chwarae'n rheolaidd, sy'n helpu wrth gwrs.
"Mae'n rhaid i chi fod â ffitrwydd sylfaen cryf i wneud hyn - allwch chi ddim jest dechrau dros nos. Mae'n gallu bod yn heriol ond mae'r bois yn edrych ar ôl eu hunain ac yn gweithio'n galed."
Tair coron yn olynol
Enillodd Cymru Gwpan y Byd yn 2024, gyda Chaerdydd yn llwyfannu'r bencampwriaeth. Y llynedd fe enillodd y garfan y gystadleuaeth yn Tokyo, gan chwarae yn y Stadiwm Olympaidd.
"Dyma'r trydydd tro yn olynol i ni ennill Cwpan y Byd sy'n dipyn o gamp, ac mae'n anrhydedd i mi chwarae gyda grŵp mor ysbrydoledig.
"Eleni, fe chwaraeon ni wyth gêm, gan ennill saith a chael un gêm gyfartal. Sgorion ni 13 gôl ac ildio dim ond dwy. Mae'n rhaid sôn am Peter Morgan a sgoriodd saith o'n goliau ni!"

Peter Morgan yn dathlu ei gôl yn erbyn Yr Almaen yn y rownd derfynol
Roedd 17 aelod yng ngharfan Cymru ac mae wyth ohonynt bellach wedi ennill Cwpan y Byd deirgwaith.
"Roedd y safon yn y bencampwriaeth eleni'n uwch na'r timau dwi wedi chwarae mewn pencampwriaethau blaenorol. Roedd yr Awstraliaid yn hynod o gryf yn y gêm gyntaf, yn ffit a chyflym, a 0-0 oedd y sgôr yn eu herbyn nhw.
"'Naethon ni ddim chwarae'n dda yn y gêm yna i fod yn onest, ond fe wellodd y perfformiadau'n fawr wedi hynny."

Cafodd y rownd derfynol ei chynnal yn stadiwm Redlands United FC yn Cleveland, ger Brisbane
Yn dilyn y gêm gyfartal yn erbyn Awstralia aeth Cymru ymlaen i ennill saith gêm yn olynol, gan guro'r Almaen yn y rownd derfynol.
"Roedd Yr Almaen bron fel tîm cwbl broffesiynol - cyn y bencampwriaeth aethon nhw ar training camp arbennig i baratoi. Roedd ganddyn nhw physios, staff cynorthwyol, y cyfarpar proffesiynol i gyd, ac fe gyrhaeddon nhw'r ffeinal drwy guro timau 4-0, 5-0 neu 6-0, felly oedden ni bach yn nerfus o beth oedd i ddod.
"Ond i ddweud y gwir, 'naethon ni reoli'r gêm gan sgorio cic o'r smotyn hanner ffordd drwy'r ail hanner ac ennill 1-0. Rwy'n eitha' siŵr oedd 'na gyn-chwaraewyr o'r Bundesliga yn eu carfan nhw.
"Dwi'n gwybod oedd gan UDA gyn-chwaraewyr o'r MLS yn eu carfan hefyd - o glybiau fel y Dallas Tornados.
"Roedden ni'n chwarae yn erbyn y chwaraewyr gorau o'r oedran yma yn y byd, felly 'dyn ni'n falch iawn o allu fod wedi mynd i'r bencampwriaeth 'ma a churo nhw."

Dim ond un gôl oedd ynddi yn y rownd derfynol rhwng Cymru a'r Almaen
Cyngor i rywun yn eu 70au
"Beth fyddwn i'n ei ddweud ydi peidiwch bod ofn estyn am y bŵts pêl-droed a rhoi cynnig arni ac ewch i un o'r clybiau ar gyfer pobl hŷn.
"Does 'na ddim lot o glybiau ar gyfer dros 70, ond mae 'na dipyn ar gyfer y dros 65. Profwch pa mor anodd yw hi a gweld sut ma'r corff yn ymateb, a chymryd pethau un cam ar y tro."
Y flwyddyn nesa' bydd Cwpan y Byd yn cael ei chynnal yn Dallas, Texas, gydag Alan yn obeithiol o fod yn rhan o'r garfan unwaith eto.
"Dyna'r freuddwyd! Ond does dim sicrwydd o gael lle yn y garfan wrth gwrs, achos bydd mwy o gystadleuaeth gyda rhai o griw'r dros 65 yn dod yn gymwys i chwarae. Ond cyn hynny bydd cystadleuaeth Ewropeaidd yn digwydd yn Yr Almaen yr haf nesaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd9 Hydref

- Cyhoeddwyd3 Hydref 2025
