Rhun ap Iorwerth yn honni nad oedd Reform am siarad ag ef ar ôl canlyniad etholiad y Senedd

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth roi araith y tu allan i'r Senedd ddydd Sadwrn wedi llwyddiant ei blaid yn etholiad y Senedd

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud ei fod wedi siarad ag arweinwyr y pleidiau eraill i gyd heb law am Reform UK, yn dilyn canlyniad etholiad y Senedd ddydd Gwener.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod wedi cynnig cael sgwrs gyda Dan Thomas ond nad oedd y blaid am siarad ag ef.

"Mi siaradais i'n syth ag arweinyddion y pleidiau eraill...nid bob un ohonyn nhw - doedd bob un ddim ar gael i siarad medde nhw," cyn esbonio ei fod wedi cynnig siarad â Reform "ond doedden nhw ddim am siarad".

Mae Reform yn gwadu'n gryf nad oedd Dan Thomas am siarad â Rhun ap Iorwerth.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid eu bod wedi sicrhau bod "sianel gyfathrebu glir" ar gael pe bai Rhun ap Iorwerth am gysylltu â Dan Thomas "ond dydy e ddim wedi gwneud hynny".

"Dywedodd Rhun nad oedd Dan eisiau siarad ag ef- dydy hynny ddim yn wir."

Bellach gyda 43 o'r 96 sedd yn y Senedd, mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud mai'r nod yw ffurfio llywodraeth leiafrifol, gan gydweithio â phleidiau eraill ar ddeddfwriaeth a chyllidebau unigol.

Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth ar Dros Frecwast

Yn siarad ar raglen Etholiad arbennig ar BBC Radio Cymru fore Sul, dywedodd: "Mi oeddwn i'n sicr yn gallu siarad ag arweinyddion Llafur, Gwyrddion, Democratiaid Rhyddfrydol, Ceidwadwyr...er mwyn gosod y tôn gobeithio ar gyfer y math o Brif Weinidog dwi am fod a'r math o gydweithio sydd angen bod yn digwydd rŵan.

"Mi gynigais (i siarad â Reform UK) ond doedden nhw ddim am siarad.

"Mae ganddyn nhw waith dwi'n siŵr o drio cael trefn ar eu tŷ eu hunain wedi'r etholiad.

"Mi fydda i yn canolbwyntio ar y rheiny sydd am gydweithio 'efo ni – y rhai sydd yn gweld beth mae ein system etholiadol ddemocrataidd o'r math yma yn gofyn amdano."

Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod yn gobeithio cael ei ddewis fel prif weinidog cyntaf Plaid Cymru ddydd Mawrth.

Mi fydd Rhun ap Iorwerth yn arwain y grŵp mwyaf ym Mae Caerdydd, gyda 43 o seddi, ond bydd dal angen ennill pleidlais aelodau'r Senedd i gael ei benodi'n brf weinidog.

Fe ymddangosodd Rhun ap Iorwerth hefyd ar Radio Wales fore Sul gydag arweinydd dros dro Llafur Cymru, Ken Skates.

Dywedodd Ken Skates ei fod yn annhebygol y bydd yn gwrthwynebu ap Iorwerth.

Dywedodd ap Iowerth ei fod "yn sicr mai dydd Mawrth yw'r hyn y byddem yn ei ffafrio" ond na fyddai unrhyw oedi yn oedi hir a bod Plaid yn awyddus i "ddechrau ar unwaith".

Dywedodd Skates fod y syniad o "ymuno ag aelodau Reform" i rwystro ap Iorwerth yn syniad "annymunol iawn" i aelodau Senedd Llafur ond y byddan nhw'n gwneud eu "penderfyniad terfynol" ddydd Llun.

Gwrthododd fanylu fore Sul ar bwy fydd yn ei gabinet yn y llywodraeth ac fe gydnabyddodd y bydd rhaid i'r blaid gydweithio ag eraill i basio deddfwriaethau.

"Mi fyddan ni'n bwrw ymlaen yn rhoi rhaglen mewn lle ond sydd yn effro iawn i'r angen i ddod ag eraill efo ni ar faterion o ddeddfwriaeth a chyllid," meddai.

"Pobl Cymru sydd wrth galon popeth dwi eisiau ei wneud mewn llywodraeth ac mae'n rhaid i wleidyddion fod digon aeddfed i ddod at ei gilydd i gofio am y bobl yna 'da ni'n eu gwasanaethu trwy gydweithio."

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Eluned Morgan y byddai'n sefyll i lawr fel arweinydd Llafur Cymru ar ôl iddi golli ei sedd yng Ngheredigion Penfro ddydd Gwener

Dywedodd mai sgwrs â'r cyn-brif weinidog, Eluned Morgan oedd un o'r sgyrsiau cyntaf gafodd e wedi'r etholiad.

"Dwi'n dymuno'n dda iawn i Eluned Morgan. Mae'r dyddiau diwethaf wedi bod yn anodd iawn iddi hi yn bersonol.

"Mae fy niolch i wastad i unrhyw un sy'n rhoi eu henwau ymlaen i fywyd cyhoeddus ac mi fydd Eluned Morgan wedi profi mewn ffordd galed iawn pa mor galed mae arweinyddiaeth yn gallu bod."

'Gyda'n gilydd mae cryfder hefyd'

Yn ddiweddarach, ddydd Sul wrth siarad ar raglen Laura Kuenssberg, cadarnhaodd Mr ap Iorwerth ei fod wedi siarad â phrif weinidogion yr SNP a Sinn Fein, yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a'i fod yn credu y gallen nhw i gyd "weithio a sefyll gyda'i gilydd" er mwyn cael bargen well i'w poblogaethau.

"Mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd," meddai.

"Y ffordd rydym yn defnyddio'r adnoddau naturiol oddi ar ein harfordiroedd, er enghraifft.

"Ond mae yna ymdeimlad dyfnach na hynny hefyd, o allu sefyll gyda'n gilydd i alw am lai o anghydraddoldeb o fewn yr ynysoedd hyn.

"Rydym yn Undeb sydd ddim yn undeb cyfartal, a pho gryfaf y gallwn sefyll gyda'n gilydd i gyflwyno'r achos i lywodraeth y DU dros ddull newydd o ddelio â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon [y gorau].

"Byddwn yn gwneud hynny ar wahân hefyd, byddwn yn ei wneud fel prif weinidog Cymru.

"Bydd fy nheyrngarwch bob amser i bobl Cymru, ond gyda'n gilydd mae cryfder hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.