Eluned Morgan: Y prif weinidog na allai atal y llanw

Eluned Morgan yw'r prif weinidog cyntaf i golli ei sedd yn hanes Prydain fodern
- Cyhoeddwyd
Eluned Morgan yw'r prif weinidog cyntaf i golli ei sedd yn hanes Prydain fodern.
Mae'n ddigynsail yn hanes datganoli yng Nghymru i brif weinidog golli ei sedd. Ond yn dilyn canlyniad etholaeth Ceredigion Penfro, dyna gamp anffodus Eluned Morgan.
Roedd hi eisoes wedi rhybuddio yn ystod yr ymgyrch mai Plaid Cymru fyddai'n ennill yr etholiad yn ei hetholaeth, a'i bod mewn perygl o golli ei sedd.
Bydd yn parhau yn brif weinidog tan y bydd pleidlais yn siambr y Senedd i benodi'r prif weinidog nesaf.
Dechreuodd Eluned Morgan ei chyfnod fel prif weinidog benywaidd cyntaf Cymru yn haf 2024.
Aeth ati i wella clwyfau dwfn o fewn grŵp Llafur Bae Caerdydd ar ôl misoedd o ffraeo mewnol niweidiol.
Roedd aelodau o'r Senedd y blaid wedi'u rhannu'n chwerw yn dilyn ymddiswyddiad ei rhagflaenydd, Vaughan Gething, a fu yn y swydd am 139 diwrnod yn unig.
Tasg uniongyrchol Morgan oedd ail-sefydlu Llafur Cymru, gyda dim ond 19 mis tan etholiad y Senedd a oedd bob amser yn debygol o fod yn anodd.
Roedd cadw pŵer ar ôl 27 mlynedd di-dor mewn llywodraeth eisoes yn edrych yn her aruthrol.
Roedd rhai yn gobeithio y gallai dychweliad Llafur i Downing Street o dan Syr Keir Starmer roi hwb.
'Pleidleisiwch Plaid Cymru' medd Eluned Morgan trwy gamgymeriad
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
Plaid Cymru fydd yn ennill yr etholiad yn fy etholaeth - Morgan
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
Yr Arweinwyr: Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
Yn ystod wythnosau olaf ymgyrch etholiad y Senedd, ceisiodd Morgan dynnu sylw at fanteision llywodraeth Lafur y DU: addewid o gyllid ar gyfer gorsafoedd rheilffordd newydd, cefnogaeth i orsaf bŵer niwclear newydd ar Ynys Môn, ac ymrwymiadau buddsoddi eraill.
Ond cafodd y rhain eu gorbwyso gan hinsawdd wleidyddol a oedd yn suro'n gyflym.
Cyfunodd penderfyniadau cynnar dadleuol gan Starmer a'i dîm, yr etifeddiaeth anodd a adawyd gan y Ceidwadwyr, ansefydlogrwydd byd-eang a brwydr Starmer i gyfathrebu'n effeithiol i wneud Llafur yn frand amhoblogaidd gyda chyflymder syfrdanol.
Roedd amhoblogrwydd Llafur y DU yn llesteirio Llafur Cymru.

Gwnaeth amhoblogrwydd Keir Starmer etholiad anodd hyd yn oed yn anoddach i Eluned Morgan
Lansiodd Morgan ei harweinyddiaeth gyda "thaith wrando" haf o amgylch Cymru.
Arweiniodd yr ymarfer at addewid i ganolbwyntio'n ddi-baid ar flaenoriaethau pleidleiswyr.
Roedd rhestrau aros ysbytai a thyllau yn y ffordd yn uchel ar yr agenda.
Cafodd llawer o dyllau eu llenwi yn y ffordd, ac roedd cyllid ychwanegol i ganolbwyntio ar gyrraedd tri tharged allweddol amser aros y gwasanaeth iechyd cyn yr etholiad.
Er gwaethaf cynnydd sylweddol, methwyd â chyrraedd y targedau yn y pen draw.
Hyd yn oed pe baen nhw wedi'u cyrraedd, mae'n amheus a fyddai'r effaith wleidyddol wedi bod yn amlwg.
Erbyn i'r etholiad ddod, roedd y llanw gwleidyddol yr oedd Llafur Cymru wedi'i herio am fwy na chwarter canrif wedi dod yn amhosibl i'w wrthsefyll i'w chweched prif weinidog.

Yn 27 oed, daeth Eluned Morgan yn aelod ieuengaf Senedd Ewrop
Ganwyd Morgan, mewn sawl ffordd, i wleidyddiaeth.
Wedi'i magu yn Nhrelái yng Nghaerdydd, tyfodd i fyny mewn cartref wedi'i drwytho mewn diwylliant Llafur.
Roedd ei thad, y Parchedig Bob Morgan, yn arweinydd Cyngor Sir De Morgan ac roedd ei mam, Elaine, hefyd yn gynghorydd.
Roedd Rhodri Morgan a Mark Drakeford, prif weinidogion y dyfodol, yn ymwelwyr rheolaidd â'r ficerdy.
Daeth Eluned Morgan yn ysgrifennydd ei changen Lafur leol yn ei harddegau.
Addysgwyd hi yn Ysgol Glantaf, ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg yr Iwerydd ym Mro Morganwg cyn astudio ym Mhrifysgol Hull.
Ar ôl gweithio ym myd teledu, aeth i mewn i wleidyddiaeth y rheng flaen yn gynnar, gan ddod yr aelod ieuengaf erioed o Senedd Ewrop pan gafodd ei hethol yn 27 oed ym 1994.
Fe benderfynodd roi'r gorau iddi fel ASE yn 2009 a symudodd i'r sector ynni gydag SSE, cyn dychwelyd i wleidyddiaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi yn 2011. Fel y Farwnes Morgan o Drelái, gwasanaethodd fel llefarydd ar Gymru.
Yn 2016 cafodd ei hethol i'r hyn oedd yn cael ei alw bryd hynny yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ei henwebu gan y cyn-brif weinidog, Carwyn Jones, i sefyll yng ngystadleuaeth arweinyddiaeth Llafur.
Gorffennodd yn drydydd, y tu ôl i Mark Drakeford a Vaughan Gething. Yn ddiweddarach, daeth Drakeford â hi i'r llywodraeth, gan ei phenodi yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Cafodd ei phenodi yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 13 Mai 2021.
Etifeddodd Morgan effeithiau Covid, rhestrau aros oedd yn codi'n sydyn, gweithredu diwydiannol, a'r penderfyniad dadleuol i ddychwelyd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i fesurau arbennig.
Roedd cywilydd personol yn 2022 pan gafodd ei gwahardd rhag gyrru am droseddau goryrru, ac arweiniodd hynny at gerydd swyddogol gan y Senedd.

Daeth Eluned Morgan yn brif weinidog ym mis Awst 2024
Yng nghystadleuaeth arweinyddiaeth Llafur yn 2024, cefnogodd hi Gething yn hytrach na Jeremy Miles.
Pan chwalodd arweinyddiaeth Gething fisoedd yn ddiweddarach, daeth Morgan i'r amlwg fel rhywun a oedd yn gallu sefydlogi'r blaid.
Heb fod yn gysylltiedig â'r naill garfan fewnol na'r llall, fe wnaeth argraff yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar brynhawniau Mawrth yn siambr y Senedd.
Ond profodd y grymoedd ehangach ar waith - plaid flinedig, llywodraeth Lafur ar yr un pryd yn San Steffan, a gorfod amddiffyn bron i dair degawd mewn pŵer - yn ormod.
Mae hi'n gadael y swydd gyda Llafur Cymru yn llai o lawer ac yn wynebu realiti anghyfarwydd bod yn wrthblaid mewn Senedd fwy.
Fel chweched prif weinidog, byddai'n dadlau iddi wneud yr hyn a allai mewn cyfnod cyfyngedig ac amgylchiadau anodd.