Galaru am golli tad yn arwain at ddyfeisio gêm newydd i S4C

Gavin ar set Y Deis gyda'i blant Florence a Benjamin
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn delio efo galar mewn ffyrdd gwahanol a phersonol. Rhan o'r broses i Gavin Cox oedd chwilio am hen beiriant fruit machine oedd ei dad wedi ei ddyfeisio, teithio i Loegr i'w chwarae ac ennill y jacpot arno'n syth - ddwywaith.
Ac fe gafodd ei ysbrydoli gan atgofion o'i ddiweddar dad i greu gêm gwis newydd – sydd wedi ei chomisiynu gan S4C - yn y gobaith o greu atgofion i'w blant ei hun.
Roedd Richard Cox, tad Gavin, yn arfer trwsio jiwcbocsys mewn tafarndai a chaffis wedi iddo astudio electroneg yng Ngholeg Technegol Caerdydd. Aeth yn ei flaen i weithio gyda pheiriannau gamblo poblogaidd – y fruit machines.
Erbyn yr 1990au roedd yn uwchraddio hen gemau a chreu gemau newydd i gwmni Crystal Leisure. Roedd y tîm roedd o'n ei arwain yn dyfeisio'r gemau, creu dyluniad atyniadol a gweithio allan sut i wneud yn siŵr bod y chwaraewr yn cael profiad da ac yn dod 'nôl dro ar ôl tro.
Roedden nhw hefyd yn adeiladu prototeip a'u profi – gan gynnwys gêm ddaeth yn boblogaidd o'r enw Frank'n'Stein. Dim syndod felly bod Gavin wrth ei fodd pan oedd o'n blentyn ac yn cael mynd i leoliad gwaith ei dad.

Poster hyrwyddo'r gêm Frank'n'Stein a cherdyn gwaith tad Gavin, Richard Cox
"O'n i'n cael chwarae ar y prototypes o'r gemau a dwi'n cofio chwarae ar un Frank'n'Stein," meddai. "Roedd yr art design wedi cael ei wneud - ond ar bapur wedi ei sticio gyda masking tape, a goleuadau tu ôl iddo fe a fi'n cael gwasgu'r botymau i roi credit a chwarae'r gêm – felly dwi'n cofio'r development process yn iawn."
Yn ystod y cyfnod roedd gemau fel hyn yn boblogaidd iawn, ond erbyn heddiw gemau ar sgrin a meddalwedd cyfrifiadur sydd i'w gweld mewn tafarndai.
Ar ôl rhoi'r gorau i'w yrfa gyda fruit machines fe aeth Richard yn ei flaen i wneud gwaith gwahanol cyn ymddeol.
Rai blynyddoedd yn ôl fe ddechreuodd waelu a threulio cyfnod yn yr ysbyty cyn mynd i gartref gofal.
"Roedd e'n mynd yn waeth gyda'r Parkinson's a wnaethon ni ddechrau ei golli i ddementia hefyd," meddai Gavin. "Wedyn ddaeth Covid yn 2020 ac aeth e i'r ysbyty ac wedyn cael ei symud i care home adeg lockdown.
"Roedde ni'n gallu mynd i weld e yn y care home ond roedde ni i gyd fel teulu yn ffeindio hynny rili anodd."

Gavin yn blentyn gyda'i dad, ac ar ddiwrnod ei briodas
Ond yn ystod y cyfnod anodd fe gafodd Gavin hwb annisgwyl i'w ysbryd oedd yn cryfhau'r atgofion o'i blentyndod: daeth ar draws ap oedd yn ail-greu'r hen gêm Frank'n'Stein oedd yn golygu ei fod yn gallu ei chwarae ar ei ffôn.
"O'n i'n meddwl bod e'n incredible, roedd e jest fel chwarae y machine – gyda'r nudge a hold a'r un synau a bob dim," meddai Gavin.
"Nes i yrru e-bost i'r dyn wnaeth yr ap a dweud 'mae hyn yn amazing' a sôn am fy stori ac am Dad a dweud 'alli di ddim credu faint mae hyn yn golygu i fi'."
Yn fuan wedyn, yn 2022, bu farw Richard Cox.
Yng nghanol ei alar ac wrth gofio am ei dad, fe ddatblygodd ddau uchelgais.
"O'n i'n hell bent i ffeindio Frank'n'Stein machine a'i brynu i'w gael yn y tŷ," meddai.
"Mae pawb yn prosesu grief yn wahanol a dyna o'n i angen gwneud, ac os o'n i methu prynu un o'n i am ffeindio un i'w chwarae.
"Mae community o bobl sy'n hoffi chwarae'r classic machines ac yn gwybod lle mae 'na rai. Maen nhw fel classic cars i bobl wnaeth dyfu fyny gyda nhw, ac maen nhw eisiau dal i chwarae nhw a gyda lot o atgofion melys o fruit machines, fel fi."
Felly fe gysylltodd unwaith eto efo crëwr yr ap a chael gwybod ganddo fod un mewn arcêd yn Weston-super-Mare, y dref glan môr ger Bryste.

Gavin gyda'r gêm Frank'n'Stein yn Weston-super-Mare, a gyda'i wraig Rachel a'u plant yn casglu arian i elusen clefyd Parkinson's
O fewn dim roedd Gavin wedi mynd yno efo'i wraig am benwythnos. Yn syth ar ôl cyrraedd aeth draw i'r arcêd, dod o hyd i'r Frank'n'Stein a rhoi arian yn y peiriant.
"Roedd e'n rili od a rili emosiynol," meddai. "Nes i roi £5 i mewn ac o fewn pump neu chwech go, 'nes i wasgu'r start button ac ennill y jacpot – roedd e'n freaky.
"Ac yn y gêm yna os ti'n ennill y jackpot ti'n cael chance i gael un arall – a ges i'r double jackpot. Os oes 'na arwydd bod rhywun yn edrych drosto fi – hwnna oedd e."
Yn ystod y cyfnod yma hefyd roedd yr atgofion hapus am ei fagwraeth wedi ei ysbrydoli i efelychu ei dad.
Roedd y person wnaeth greu'r ap o'r gêm wedi dweud wrtho mai uchafbwynt ei hafau pan oedd o'n blentyn oedd mynd i barc gwyliau lle'r oedd o'n chwarae Frank'n'Stein – er ei fod dan oed – a bod y gêm yn rhan bwysig o'i atgofion o'i blentyndod.
"Wnaeth hynny wneud fi feddwl," meddai Gavin. "Roedd rhywbeth oedd Dad wedi gwneud wedi cael effaith fel yna ar complete stranger.
"Wel, be' os ydw i'n gallu gwneud gêm fyddai plant fi'n gallu cofio'n ôl gydag atgofion neis amdana i, fel dwi'n gwneud gyda Dad? Dyna oedd y sbarc i fi."

Tair cenhedlaeth gyda'i gilydd
Golygydd fideo efo cwmni Slam Media ydi Gavin wrth ei waith bob dydd, ac wrth sgwrsio dros beint gyda'i gyd-weithwyr fe benderfynodd geisio dilyn yn ôl troed ei dad a chreu gêm gwis ei hun ar gyfer y teledu.
Fe ddefnyddiodd ei wybodaeth o fruit machines a chyfuno'r elfen o siawns a sgil i greu gêm newydd.
Ar ôl dipyn go lew o waith yn datblygu'r rheolau, creu edrychiad a naws i'r gêm, cael cyngor ar welliannau, a lot fawr o chwarae'r gêm, aeth â'r syniad at S4C – ac ennill comisiwn.
"Roedd e'n rili od [cael y comisiwn] – roedd e fel y cliché, 'pinch me, is this real?!' Hyd yn oed ar ôl mynd trwy'r holl ddatblygu, a'r software yn cael ei adeiladu a'r set design – ro'n i ar y set ar fin recordio o'n i'n meddwl 'ydi hyn yn digwydd go iawn?'"

Benjamin yn rhoi cynnig ar Y Deis gyda'i dad
Mae'r Deis bellach yn ei hail gyfres – a'r uwch gynhyrchydd wrth gwrs ydi Gavin, sydd nawr yn creu atgofion newydd gyda'i blant ei hun.
Meddai: "Mae fy mhlant i yn dwli arno fe – maen nhw wedi cael mynd ar y set yn y stiwdio a chyfarfod James (Williams, y cyflwynydd).
"Ma' fe dal yn od i fi - weithiau dwi'n dal i feddwl 'ma hyn yn crazy'."
Gallwch wylio Y Deis am 20:25 bob nos Fercher 20.25 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd14 Hydref

- Cyhoeddwyd23 Medi
