Disgwyl i Lafur golli'r etholiad yn ôl ffynonellau, wrth i'r gorsafoedd pleidleisio gau

- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Lafur golli etholiad Senedd Cymru gan ddod â diwedd ar reolaeth 27 mlynedd yng Nghymru, meddai sawl ffynhonnell o fewn y blaid wrth BBC Cymru.
Mae Llafur wedi ennill etholiadau San Steffan a Bae Caerdydd yng Nghymru ers dros ganrif, ond mae arolygon barn yn dweud bod y blaid bellach yn wynebu colli, wrth i Blaid Cymru a Reform gystadlu i fod y blaid fwyaf.
Dywedodd Mick Antoniw, cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, os byddai'r canlyniadau "cyn waethed â'r hyn sy'n cael ei ragweld", yna y dylai Syr Keir Starmer ymddiswyddo fel prif weinidog y DU.
Daeth y pleidleisio i ben am 22:00 nos Iau a bydd y cyfrif yn cael ei gynnal ddydd Gwener.
Bydd sylw cynhwysfawr o'r canlyniadau ar draws BBC Cymru - ar-lein, ar deledu a radio - ddydd Gwener a thros y penwythnos.

Os yw'r dyfalu'n gywir, bydd yr etholiad yn dod â rhediad Eluned Morgan fel prif weinidog i ben
Mae Plaid Cymru a Reform wedi bod yn cyflwyno'r etholiad fel ras dau geffyl, mewn ymdrech i gynnal llywodraeth leiafrifol cyn hawsed â phosibl, neu wneud dêl gyda phleidiau eraill mor syml â phosibl.
Mae'n annhebygol y bydd unrhyw blaid yn cyrraedd mwyafrif o 49 o'r 96 sedd yn y Senedd, o dan y system bleidleisio gyfrannol newydd yng Nghymru, ond dywedodd arweinydd Reform Cymru, Dan Thomas, ddydd Mawrth ei fod yn credu ei bod hi'n bosibl i'w blaid gyflawni hynny.
Dywedodd Mr Antoniw wrth BBC Cymru mai'r etholiad oedd yr un anoddaf i Lafur "ers cof".
'Sicrhau llywodraeth flaengar a sefydlog'
Yn ôl Mr Antoniw, roedd yn ymddangos ei fod "yn ymwneud mwy gyda Downing Street a mewnfudo na Chymru".
"Yr hyn sy'n rhaid i ni ei sicrhau yw bod gan Gymru lywodraeth flaengar a sefydlog a bydd hynny bron yn sicr yn gofyn am bartneriaeth gyfrifol," meddai Mr Antoniw - nad oedd yn ymgeisio ddydd Iau.
Wrth gael ei holi os oedd yn credu y gallai Syr Keir Starmer barhau fel prif weinidog, dywedodd: "Os yw'r canlyniadau cyn waethed â'r hyn sy'n cael ei ragweld, yna bydd yn rhaid newid arweinyddiaeth.
"Nid ymadael ar unwaith ond trosglwyddiad wedi'i gynllunio, yn drefnus, yn agored â chystadleuaeth dryloyw."

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn pleidleisio gyda'i deulu yn Llangristiolus ddydd Iau
Mae sawl Aelod Seneddol (ASau) o Lafur Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru nad oeddent yn disgwyl her i'r prif weinidog, er gwaethaf i'r awyrgylch gael ei ddisgrifio fel un oedd negyddol gan un aelod blaenllaw.
Galwodd nifer am set o bolisïau mwy beiddgar ac i wersi gael eu dysgu.
Dywedodd y prif weinidog Eluned Morgan yn gyson yn ystod yr ymgyrch, nad oedd Syr Keir Starmer "ar y papur pleidleisio".
Ond pan gafodd Ms Morgan ei holi ddydd Mercher os y gallai Syr Keir Starmer aros pe bai Llafur yn colli yng Nghymru, dywedodd na fyddai hi'n cael ei denu i ddyfalu am y peth.
Dywedodd ffynonellau Llafur wrth BBC Cymru fod y prif weinidog (Keir Starmer), trwy gydol yr ymgyrch, wedi bod yn bwnc negyddol gyda phleidleiswyr ar garreg y drws.
Beth mae'r Senedd yn ei wneud? Ac ar beth mae £25bn yn cael ei wario?
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
Dechreuodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, yr ymgyrch gan ddweud bod yr etholiad yn "refferendwm ar Starmer".
Er bod disgwyl wedi bod yn eang y byddai Llafur yn colli ar ôl canlyniadau gwael mewn arolygon barn diweddar, byddai colled yng Nghymru o arwyddocâd gwleidyddol hanesyddol.
Roedd un o sylfaenwyr y blaid Lafur fodern, Keir Hardie, yn AS dros Ferthyr Tudful o 1900 i 1915 ac mae Llafur wedi dod i'r brig ym mhob etholiad cyffredinol fel plaid fwyaf Cymru ers 1922.
Mae Llafur wedi ennill pob etholiad ym Mae Caerdydd hefyd, ers sefydlu rhagflaenydd y Senedd - Cynulliad Cenedlaethol Cymru - ym 1999.
Mae'r blaid wedi arwain pob llywodraeth Gymreig ers hynny, gan reoli polisïau'r wlad ar iechyd, addysg, trafnidiaeth a llywodraeth leol, ymhlith pethau eraill.
Os caiff y golled ei chadarnhau, yna mae'n debygol y bydd y blaid yng Nghymru yn mynd trwy gyfnod o ddysgu gwersi ac ymgais i ddod o hyd i gyfeiriad newydd i ennill pleidleiswyr yn ôl.
Ond, gallai Llafur - yn dibynnu ar ganlyniad ddydd Gwener - fod mewn trafodaethau ynghylch cytundeb â Phlaid Cymru a phleidiau eraill i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.

Dan Thomas yw arweinydd Reform UK yng Nghymru
Mae'n debygol y bydd canlyniad Cymru hefyd yn cael effaith ar ddyfodol prif weinidog y DU wrth i Lafur ystyried cyfres heriol o etholiadau lleol yn Lloegr ac etholiad Senedd yr Alban.
Nos Iau dywedodd Plaid Cymru eu bod yn "yn falch o'r ymgyrch gadarnhaol a disgybledig yr ydym wedi'i chynnal ym mhob cwr o Gymru".
"Drwy gydol yr etholiad hwn, rydym wedi clywed awydd clir am newid.
"Mae pobl eisiau llywodraeth a fydd yn sefyll dros Gymru ac yn canolbwyntio'n ddi-baid ar y materion allweddol sy'n effeithio ar eu bywydau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.