Topper yn ail-ffurfio i dalu teyrnged i Dyfrig Evans

Topper
Disgrifiad o’r llun,

Topper, gyda Dyfrig Evans ar y chwith

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r band Topper yn ail-ffurfio i berfformio am y tro cyntaf ers marwolaeth eu prif leisydd Dyfrig Evans.

Fe fydd brodyr a ffrindiau'r cerddor talentog yn dod yn ôl at ei gilydd i dalu teyrnged iddo yn ei bentref genedigol a rhywle oedd yn agos iawn at ei galon, Pen-y-groes.

Y gig yng Ngŵyl Maes D fydd y tro cyntaf ers degawd i'r band chwarae a bydd gwestai arbennig yn canu'r caneuon.

Dywedodd y trefnwyr: "Mae dychwelyd yn ôl i wreiddiau Dyfrig gyda Topper yn gwneud ymddangosiad arbennig gyda'i gilydd yng nghae Clwb Pêl Droed Nantlle Vale am y tro cyntaf ers blynyddoedd yn hollol emosiynol ac yn gyfraniad arbennig iawn i Wŷl Maes D.

"Mi rydan ni gyd wedi cyffroi ac yn edrych ymlaen yn arw i ddiddanu gyda chlasuron Dyfrig."

Dywedodd Yws Gwynedd wrth BBC Cymru Fyw ei fod wedi dechrau ymddiddori mewn cerddoriaeth Gymraeg oherwydd Topper a bod yr ymateb i'r newyddion yn dangos y cariad sydd gan bobl tuag at gerddoriaeth Dyfrig Evans.

Un o fandiau mwyaf poblogaidd eu cyfnod

Topper oedd un o fandiau Cymraeg mwyaf poblogaidd diwedd yr 1990au a dechrau'r 2000.

Mae eu caneuon fel Gwefus Melys Glwyfus, Hapus a Dim yn dal yn boblogaidd heddiw.

Ar ôl chwarae ym Miri Madog yn 2005, wnaeth y band o Ben-y-groes roi'r gorau iddi am 11 mlynedd cyn ail-ffurfio i chwarae yng Ngŵyl Rhif 6, Portmeirion yn 2016.

Bu farw Dyfrig Evans, prif leisydd a sylfaenydd y band, yn 43 oed yn 2022.

Yn ddiweddar fe wnaeth 'Byw i'r Funud', enw cân boblogaidd ganddo, gael ei naddu ar lawr y stryd fawr ym Mhen-y-groes.

Yn ogystal â bod yn gerddor amryddawn roedd yn actor a ddaeth yn adnabyddus yn Rownd a Rownd, Talcen Caled a Darren Drws Nesa.

Bydd Gŵyl Maes D yn cael ei chynnal ar 31 Mai ac ymysg y perfformwyr eraill fydd Celt, Bwncath, Cordia, Fleur de Lys, Bryn Fôn a Daniel Lloyd a Mr Pinc.

Gwyl Maes DFfynhonnell y llun, Gŵyl Maes D
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gŵyl Maes D yn cael ei chynnal ar gae pêl-droed Nantlle Vale - Maes Dulyn

Un sydd wedi croesawu'r newyddion ydi Yws Gwynedd.

"Gwefus Melys Glwyfus oedd y gân wnaeth sbarcio'r dychymyg i fi," meddai.

Mae'r cerddor wedi gwneud sawl cyfyr o ganeuon Topper yn ystod ei yrfa gyda Frizbee ac Yws Gwynedd.

Meddai: "Wnaeth Dyfs ganu Hapus efo ni yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon, rhwng Dolig a'r Flwyddyn Newydd tua 10 mlynedd yn ôl ag roedd o'n anhygoel cael y fraint o neud hynny.

"Nes i erioed gael y cyfle i weld nhw'n fyw yn cyfnod cynta' Topper, ond ro'n i yna yn Gŵyl Rhif 6 pan wnaethon nhw ail ffurfio am gyfnod.

"Mae'r ymateb i'r teyrnged yn Maes D yn dangos poblogrwydd y band a'r cariad oedd gan gymaint tuag at Dyfs a'i gerddoriaeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol