Aeron Pughe a'r ŵyl sy'n dathlu canu gwlad ym Machynlleth

MachynllethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tref farchnad hynafol Machynlleth, yng ngogledd Powys

GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bydd tref farchnad Machynlleth yn croesawu gŵyl gerddorol newydd sbon ddydd Sadwrn 24 Hydref pan fydd Gŵyl y Tarw Gwyllt yn cael ei chynnal yno.

Mae'r ŵyl yn digwydd ar dir Neuadd Y Plas yn y dref ac yn llwyfannu'r gorau o'r byd canu gwlad, gyda'r mwyafrif o'r perfformwyr yn dod o Gymru.

Un o drefnwyr yr ŵyl, a rhywun fydd yn perfformio yno, yw Aeron Pughe.

Cafodd BBC Cymru Fyw sgwrs efo Aeron am y cynlluniau ar gyfer yr ŵyl a'i gariad tuag at ganu gwlad.

Aeron PugheFfynhonnell y llun, Aeron Pughe
Disgrifiad o’r llun,

Aeron Pughe yn perfformio gyda'i fand

"Mae'n ŵyl i Sir Drefaldwyn gyfan i ddweud gwir," meddai Aeron.

"Mae 'na sawl gŵyl wedi bod yn yr ardal dros y blynyddoedd, fel Gŵyl Cann Office a Gŵyl Maldwyn, ond yn anffodus mae'r rheiny 'di dod i ben.

"Dwi 'di bod efo rhywbeth yn fy mynwes erioed i ddechrau gŵyl canu gwlad; dwi'n ffan anferthol o ganu gwlad a 'di teithio i America sawl tro ar gyfer y pwrpas yna."

Gŵyl i'r dref

Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i'r ardal flwyddyn nesa', dywed Aeron ei fod wedi meddwl am ffyrdd i godi arian tuag ato a gadael gwaddol, a bod yr ŵyl yma'n caniatáu hynny. Roedd Aeron hefyd yn sicr ei fod am gynnal yr ŵyl yn y dref ei hun.

"Yn hytrach 'na mynd â hi allan i ryw fferm neu marquee, o'n i'n meddwl 'swn i'n mynd â hi i dref Machynlleth. Achos 'dyn ni 'di gweld Gŵyl Gomedi Machynlleth yn dod i'r dref; mae hi'n llwyddiant ysgubol, ond mae rhyw deimlad bo' ni heb berchnogi hi gan fod 'na lot o docynnau'n cael eu gwerthu cyn bod pobl leol 'di cael cynnig.

"Felly, o'n i'n meddwl 'dwi isio cynnal gŵyl, a'i gosod hi yng nghanol Dyffryn Dyfi' - a dyma hi."

Gŵyl y Tarw GwylltFfynhonnell y llun, Gŵyl y Tarw Gwyllt
Disgrifiad o’r llun,

Amserlen Gŵyl y Tarw Gwyllt ar 24 Hydref

Yn perfformio yn yr ŵyl bydd artistiaid lleol a setiau acwstig yn y prynhawn, gyda Katie West, John ac Alun, Aeron ei hun, Taff Rapids ac eraill yn chwarae fel mae'r dydd yn mynd yn ei flaen.

O ran ei chwaeth cerddoriaeth bersonol dywed Aeron "dwi'n hoffi'r hen ganu gwlad, yr outlaw movement, a Waylon Jennings ydi'n ffefryn mawr i."

Mae Aeron hefyd yn enwi Gram Parsons a Townes Van Zandt fel artistiaid mae'n gwrando arnyn nhw ar hyn o bryd.

Artistiaid Cymraeg

Yn Gymraeg y bydd y rhan fwyaf o'r gerddoriaeth yn yr ŵyl, fel esbonia Aeron.

"Mae gennym ni ambell eithriad, fel DJ Bystach a fydd yn chwarae caneuon canu gwlad cyfoes, a hefyd yn perfformio bydd Katie West, sydd yn fy mand i, sydd o America yn wreiddiol.

"Mae Katie 'di teithio'r byd gyda'i band, ond mae hi'n pwysleisio mai cerddoriaeth Americanaidd-Gymreig ma' hi'n chwarae, felly bydd hi'n ŵyl mwy neu lai uniaith Gymraeg."

Y Plas, MachynllethFfynhonnell y llun, Gŵyl y Tarw Gwyllt
Disgrifiad o’r llun,

Y Plas ym Machynlleth, lleoliad Gŵyl y Tarw Gwyllt 2026

Dydi Aeron ddim am i'r ŵyl fod yn achlysur un-tro, ac mae'n gobeithio ei weld yn dychwelyd i'r dre am flynyddoedd i ddod.

"'Dan ni ddim yn siŵr am y lleoliad wrth symud ymlaen, ond yn sicr 'dan ni isio fo lwyddo 'leni fel gallwn ni gychwyn rhywbeth hirdymor."

Nid cerddoriaeth yn unig fydd yn rhan o'r ŵyl, fel esbonia Aeron.

"Bydd gennym ni rodeo bull (peiriant reidio tarw mecanyddol), lassos 'dan ni' 'di casglu o America dros y blynyddoedd, fydd 'na darw plastig a rhyw gystadleuaeth cornhole, a chystadleuaeth rodeo gyda belt rodeo yn cael ei roi i'r enillydd."

John ac Alun
Disgrifiad o’r llun,

Y cantorion gwlad adnabyddus o Ben Llŷn, John ac Alun

Mae Sesiwn Fawr Dolgellau wedi hawlio ei lle ym myd canu gwerin, Gŵyl Jazz Aberhonddu yn gwneud yr un peth gyda jazz, a'r gobaith ydy y bydd yr ŵyl yma ym Machynlleth yn llwyfannu canu gwlad am flynyddoedd i ddod.

"Yn sicr," medda Aeron. "Mae gen i bwyllgor a ffrindiau sydd 'di ymuno yn y syniad 'ma, a sydd 'di dod fel rhyw reality check i ddweud gwir.

"A'r gobaith ydi i dyfu o a chynnal gigs drwy Fachynlleth i gyd - mae 'na gymaint o leoliadau gwych ym Mach erbyn hyn, fel Bar 33, y lle beics, y Wynnstay... mae 'na lwyth o lefydd ac mae'r ŵyl gomedi wedi profi be' sy'n bosib gwneud.

"Efallai bydden ni'n defnyddio'r lle o gwmpas y Plas fel y prif lwyfan, efallai cychwyn o ar nos Wener a bod modd campio yma hefyd.

"Dwi'n sylweddoli y bydd angen lot o bres a chefnogaeth y boblogaeth leol, ond dyma'r dechreuad."

Mari Fychan
Disgrifiad o’r llun,

Mari Fychan, cantores leol a oedd yn gystadleuydd ar Y Llais yn gynharach eleni

Mae yna ragfarn tuag at ganu gwlad yn ôl Aeron.

"Mae 'na stigma mawr dwi'n meddwl, ac mae'n eitha' rhwystredig. Ti'n clywed John ac Alun ar nos Sul ar Radio Cymru ac mae Terwyn ar raglen Ifan yn frwd iawn dros ganu gwlad hefyd.

"Ond oherwydd y rheol iaith mae'n eitha' cyfyngedig ac mae pobl sydd ddim fewn i'w canu gwlad yn meddwl, gyda phob parch, am genhedlaeth Dylan a Neil, Iona ac Andy, John ac Alun. Maen nhw'n wych, ond mae gen ti lot o fandiau eraill hefyd, ac mae canu gwlad yn dod yn fwyfwy poblogaidd.

Y galw am ganu gwlad

Dywed Aeron bod pobl efallai'n cael y syniad anghywir o ganu gwlad, ac bod eu barn yn newid wedi iddynt ei glywed.

"Pan mae pobl yn mynd i gig canu gwlad ma' 'na dueddiad i feddwl bod o outside the box, ond wedyn mae pobl yn cael rhyw lighbulb moment ble maen nhw'n meddwl 'o ia ma' hwn yn dda', ac o fewn dim maen nhw i gyd yn dawnsio.

"Mae 'na ryw ddelwedd weithiau bod canu gwlad yn rhywbeth tywyll, ond mae 'na fandiau allan 'na, ac mae 'na alw am fwy. Allwn i fod yn gigio - dwi'n fawr o ganwr - ond mae gen i fand sy'n fwyafrif yn Americanwyr sydd 'di teithio'r byd ers chwarter canrif yn gwneud cerddoriaeth."

Gobaith Aeron yw y bydd Gŵyl y Tarw Gwyllt yn gam pwysig, hirdymor, i gefnogi canu gwlad Cymraeg, gyda Machynlleth yn ganolbwynt i'r cyfan.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig