Pobol y Cwm yn ffarwelio ag Anita ar ôl 27 mlynedd

- Cyhoeddwyd
RHYBUDD: Mae'r erthygl hon yn cynnwys spoilers i bennod Hydref 22 o Pobol y Cwm.
Ar ôl chwarter canrif a mwy ar strydoedd Cwmderi, mae'n bryd ffarwelio ag Anita.
Am y ddwy flynedd ddiwethaf mae gwylwyr Pobol y Cwm wedi gwylio'r cymeriad lliwgar yn dirywio wrth iddi wynebu Lewy body dementia. Nawr mae'r stori honno wedi cyrraedd ei phenllanw mewn pennod sy'n hollol wahanol i unrhyw beth a welwyd ar y gyfres o'r blaen.
I Nia Caron, sydd wedi chwarae Anita ers 1999, mae'r diwedd yn dod â chymysgedd o deimladau.
"Mae wedi bod yn gyfnod hir iawn a mae'r diwedd wedi dod," meddai. "Alla i ddim dweud cyffrous, ond mae fe wedi bod yn heriol, ac yn stori bwysig iawn i'w dweud hefyd, dwi'n meddwl. Mae Anita wedi bod trwy lot a mae'n amser dweud hwyl fawr."
Dechreuodd y gwaith o lunio'r bennod olaf bron i bum mlynedd yn ôl, dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Branwen Williams.
"Oedden ni wir isio 'neud rhywbeth gwahanol," eglurodd. "Oedden ni'n awyddus iawn i roi teilyngdod i stori dementia Anita, ond hefyd i neud yn siŵr bod ni'n dathlu cyfraniad Anita i'r gyfres, a hefyd cyfraniad Nia, sydd wedi bod yn anhygoel dros y chwarter canrif diwetha'."

Kelly (Lauren Phillips) yn ffarwelio ag Anti 'Nit
Y nod gyda'r bennod arbennig hon oedd mynd i mewn i ben Anita ei hun. "Dydyn ni ddim yn deall dementia yn dda iawn, a ti ddim yn gwybod sut mae'r person sy'n delio efo'r cyflwr yn teimlo a be' sy'n mynd trwy'u meddyliau nhw," meddai Branwen.
"Oedden ni'n awyddus hefyd i weld Anita fel oedden ni gyd yn ei chofio hi: yr Anita efo'i cholur ymlaen a'i dillad lliwgar, sydd mor wahanol i'r hyn 'dyn ni'n ei weld ar y sgrin ar hyn o bryd."

Mae'r bennod arbennig wedi'i ffilmio fel un daith i Anita
Yn y bennod, prin y gwelwn ni Anita o gwbl. Yn hytrach, mae'r camera'n chwarae ei rhan hi.
"Mae'r camera yn gallu symud yn gyflym, mynd â chi o un lle i'r llall," meddai Nia.
"Am y tro cyntaf mae'r bennod am un cymeriad, so mae hwnna'n reit newydd i'r gyfres. Munudau olaf Anita yw e, a chi'n cael ei gweld hi'n cofio am y bywyd hyfryd gafodd hi yn y cwm. Mae hi'n gadael mewn cwmwl o hapusrwydd yn hytrach na mewn düwch."

Anita'n hel atgofion o'i chyfnod efo Meic Pierce
Torri ffiniau
Roedd y dull yn golygu cryn waith i'r tîm cynhyrchu. "Mae'n hollol wahanol i bennod arferol o Pobol y Cwm," meddai Branwen. "Oedden ni'n torri ffiniau, o ran setiau, dydyn ni ddim wedi'u gweld ar y rhaglen o'r blaen. Oedden ni isie'r llif yna, efo cyn lleied o cuts â phosib.
"Oedd gennym ni gamerâu gwahanol, ac oedd sain yn bwysig iawn i greu'r awyrgylch. Roedd sawl cyfnod pan o'n i'n meddwl nad oedd e'n mynd i weithio, ond dw i'n falch iawn efo'r bennod fel mae hi. Mae'r tîm i gyd wedi gwneud gwyrthiau."
Mae cerddoriaeth hefyd yn chwarae rhan amlwg, rhywbeth anarferol mewn opera sebon.
"Mae'n mynd yn erbyn y cyfrwng rhyw ychydig bach, ond o'n i ishe chwarae o gwmpas efo hwnna," meddai Branwen. "Oedd e'n grêt meddwl pa ganeuon fyddai'n adlewyrchu bywyd Anita a'i chyfnod hi yn y gyfres."
I Nia, roedd y cyfle i dreulio mwy o amser ar bob golygfa yn newid i'w groesawu. "Fel arfer, mewn, saethu, allan, nesa yw hi. Felly oedd modd i ni chwarae o gwmpas tamaid bach, ac oedd hwnna'n neis i bawb. Mae rhywbeth newydd yn gwneud lles."
Wynebau cyfarwydd a dagrau

Mae rhai o hen wynebau'r gyfres wedi dychwelyd i ddweud hwyl fawr wrth Anita
Mae sawl wyneb o'r gorffennol yn dychwelyd i ffarwelio ag Anita, ac yn ystod y ffilmio y daeth realiti'r ymadawiad yn amlwg i Nia.
"Wrth bod fi'n saethu'r olygfa hir ac yn dweud ffarwél wrthyn nhw, dyna pryd nes i sylweddoli: 'Wow, fi yn dweud hwyl fawr fan hyn,'" meddai.
"Roedd lot fawr o ddagrau. A reit ar y diwedd, mae'r cymeriad mae hi'n hoffi'n fwy na neb, heblaw am ei phlant, sef Meic, yno. Oedd hwnna'n sbesial."
Roedd dros 20 o bobl yn gwylio wrth i'r olygfa olaf gael ei ffilmio, meddai.
"Pan gerddodd Gareth a fi o'r set i fynd atyn nhw, oedd pawb yn llefen," meddai Nia. "Oedd e'n ddiwrnod sbesial iawn, iawn, iawn. Gobeithio bydd e'n dod drosodd fel pennod sbesial hefyd."
Pobol y Cwm yn ffarwelio ag Anita ar ôl 27 mlynedd
'Cyfrifoldeb enfawr'
Roedd Branwen yn ymwybodol iawn o'r pwysau oedd ar y tîm wrth ddweud y stori hon.
"Mae'r stori wedi bod mor bwerus i'r gyfres dros y ddwy, tair blynedd diwethaf, ac oedd gennym ni gyfrifoldeb enfawr i roi teilyngdod i'w diwedd hi," meddai.
"Mae dementia wedi effeithio ar lot ohonon ni ar y tîm, o'r awduron i'r tîm cynhyrchu, ac mae pawb wedi bod mor agored am eu profiadau. Dyna sydd wedi gwneud y stori mor bwerus."

Mae stori Anita wedi bod yn mynd rhagddi ar sgrin ers dwy flynedd
Bu'r gyfres yn cydweithio'n agos ag Alzheimer's UK o'r cychwyn cyntaf, gan gyfarfod â phobl sy'n byw gyda'r cyflwr. "Roedden nhw mor hael efo'u hamser," meddai Branwen.
Mae'n credu bod hi'n hollbwysig i ddramâu fel Pobol y Cwm fynd i'r afael â straeon o'r fath. "Dyna'n swyddogaeth ni, adlewyrchu bywyd bob dydd. Mae rhyw 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw efo'r cyflwr ar hyn o bryd. Dydy Pobol y Cwm erioed wedi bod ofn straeon mawr sy'n ein herio ni fel cynhyrchiad ac yn herio'r gynulleidfa."
Mae'r ymateb wedi bod yn eithriadol eglurodd. "Alla i ddim cofio'r un stori arall sydd wedi ennyn gymaint o ddiddordeb," meddai.
"Efallai nad mwynhau ydy'r gair, ond mae pobl yn gwerthfawrogi'r gwirionedd sy'n dod allan o'r stori, ac yn teimlo bod eu bywydau nhw'n cael eu hadlewyrchu ar y sgrin."
Bydd angen hances neu ddwy
Mae ganddi rybudd i'r gwylwyr. "Peidiwch â disgwyl pennod arferol o Pobol y Cwm. Mae'n bennod unigryw, heriol ac emosiynol iawn, felly byddwch yn barod efo tissue neu ddau. Ac er mai hon yw pennod olaf Anita, dydy ei stori hi'n sicr ddim ar ben. Bydd lot o gyfrinachau, a lot o effaith ar ein cymeriadau ni i gyd."
I Nia, diolchgarwch fydd yn aros efo hi.
"Fi wedi bod yn ffodus iawn, iawn i gael pobl arbennig yn cydactio gyda fi: Lauren, Iestyn, Gareth, Huw Euron a Paul Morgan pan oedd e'n chwarae Dwayne. Chi ond yn gallu actio cystal â'r bobl sydd o'ch cwmpas chi. Bydd hwnna'n aros yn fy nghof i: pa mor lwcus fues i."

Trigolion hen a newydd y Cwm yn ffarwelio ag Anita ar ei thaith olaf
Gallwch wylio pennod olaf Anita ar BBC iPlayer ac S4C Clic nawr neu ar S4C am 20:00, nos Iau 22 Hydref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd12 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
