Dim sedd yn 2021 - 34 yn 2026: Pa newid ddaw yn sgil llwyddiant Reform?

Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru (ail o'r dde) yn ystod y cyfrif yn etholaeth Casnewydd Islwyn Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru (ail o'r dde) yn ystod y cyfrif yn etholaeth Casnewydd Islwyn, ble llwyddodd ei blaid i sicrhau'r nifer fwyaf o bleidleisiau a dwy sedd

  • Cyhoeddwyd

Yn yr wythnosau cyn y bleidlais i ethol aelodau Senedd nesaf Cymru, roedd y polau piniwn yn awgrymu bod hi'n agos eithriadol rhwng Plaid Cymru a Reform UK.

Plaid Cymru sy'n paratoi i lywodraethu ar ôl cipio 43 o seddi - chwech yn brin o fwyafrif clir ond naw yn fwy na Reform.

Serch hynny, roedd sicrhau 34 o seddi a gorffen yn ail clir uwch ben Llafur Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn dipyn o gamp i blaid a fethodd â sicrhau'r un sedd o gwbl yn etholiad 2021.

Doedd y blaid - na'i rhagflaenydd Plaid Brexit - yn bodoli hyd yn oed adeg etholiad 2016.

Roedd ehangu maint y Senedd - o 60 aelod i 96 - ynghyd â system bleidleisio newydd, yn ffactor.

Eu neges yn ystod yr ymgyrch oedd bod pobl wedi cael digon ar y drefn bresennol ac yn sicr fe gafodd y blaid lwyddiant yn rhai o gadarnleoedd y Blaid Lafur.

Llyr Powell
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Llyr Powell yn cynrychioli etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni ym Mae Caerdydd

"Beth ni 'di gweld yw lot o bobol yn troi i'r blaid," dywedodd Llyr Powell, un o'r tri AS Reform fydd yn cynrychioli etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni.

"Ni 'di gweld, yn fy marn i, diwedd plaid Llafur, plaid Toriaid a ni'n mynd i mewn i rywbeth gwahanol.

"Dyna beth mae pobol wedi pleidleisio [drosto] - maen nhw mo'yn gweld change a dyna beth y'n ni'n mynd i weld ar ôl heddiw."

Helen Jenner
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Jenner yn un o'r ddau ymgeisydd Reform sydd nawr yn cynrychioli etholaeth Bangor Conwy Môn

Roedd ennill hanner y seddi mewn ambell etholaeth yn enghraifft o'r "petha' gwych" sydd wedi digwydd yn sgil eu hymgyrch, meddai'r dirprwy arweinydd yng Nghymru, Helen Jenner.

"Dwi'n eitha' hyderus bydd rhywbeth cyffrous yn gallu digwydd."

Ond a fyddai'r Blaid wedi gobeithio gwneud ychydig yn well eto, o ystyried bod rhai o'r arolygon barn wedi eu rhoi nhw ar y blaen?

"Fysan ni wedi licio 'neud yn well," dywedodd Cai Parry-Jones.

"Yr unig reswm pam dwi 'di dod i fewn i wleidyddiaeth a'r rhan fwya' o'r bobol yn Reform ydi dod i fewn i grym a trwsio petha'.

"'San ni 'di licio mwy o seti ond dwi'n meddwl efo 34 sêt yn y Senedd, 'dan ni'n gallu 'neud llawer iawn mwy o betha' na ma' pobol yn meddwl 'dan ni'n gallu 'neud."

Cai Parry-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ceisio llywodraethu yn y dyfodol yw'r nod, medd Cai Parry-Jones

Dadansoddiad y sylwebydd gwleidyddol Huw Lewis

Yn etholiad diwethaf y Senedd yn 2021, safodd Reform ym mhob etholaeth ond methodd wneud unrhyw argraff wirioneddol, gan ennill dim ond 1% o'r bleidlais.

Mae'r sefyllfa'n edrych yn dra gwahanol y tro hwn.

Cipiodd Reform 34 o seddi a sicrhau 29.3% o'r bleidlais ar draws Cymru – hi nawr fydd y brif wrthblaid yn y Senedd newydd.

Gosodwyd sail ar gyfer hyn yn etholiad San Steffan 2024 pan ddaeth y blaid yn ail mewn 13 o etholaethau.

O ble y mae'r gefnogaeth i Reform wedi dod felly?

Mae gwaith ymchwil Astudiaeth Etholiad Cymru 2026, sy'n cael ei arwain gan dîm o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe, yn awgrymu bod dirywiad y blaid Geidwadol yn allweddol.

Tra bo rhai o'r bobl sydd wedi troi at Reform yn gyn-bleidleiswyr Llafur, mae cyfran llawer mwy yn bobl a fyddai wedi pleidleisio i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad diwethaf i'r Senedd yn 2021.

Dan Thomas yn areithio gyda logo Reform o'i flaenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan Thomas oedd y cyntaf o'r blaid i sicrhau sedd ym Mae Caerdydd wrth i'r cyfri pleidleisiau fynd rhagddo ar draws Cymru ddydd Gwener

Cyn yr etholiad, roedd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, yn datgan yn hyderus y byddai'r blaid yn ennill yr etholiad.

Ni ddaeth Reform yn agos at gyrraedd y nod hwn.

Mewn gwirionedd wrth i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi, roedd y blaid yn tueddu i danberfformio rhagamcanion nifer o'r arolygon barn.

Y nod nawr i Reform fydd gwneud ei marc fel gwrthblaid gan fanteisio ar ei statws newydd yng Nghymru er mwyn hybu prif nod y blaid, sef sicrhau bod Nigel Farage yn cyrraedd 10 Downing Street ar ôl etholiad San Steffan 2029.

Fodd bynnag, i hynny ddigwydd bydd angen i'r holl ASau newydd gyd-dynnu'n effeithiol, ac o gofio grŵp natur ranedig y grŵp UKIP fu'n eistedd yn y Senedd rhwng 2007 a 2011, bydd hi'n ddiddorol gweld sut fydd pethau'n mynd.