Talu staff cartref gofal i ddysgu Cymraeg er mwyn 'cysylltu â'r preswylwyr'

Mair Rees o Brifysgol Bangor a Meryl Welsby, y perchennog, gyda'r staff ar y cwrsFfynhonnell y llun, Rick Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Mair Rees o Brifysgol Bangor a Meryl Welsby, y perchennog, gyda'r staff ar y cwrs

GanGwydion Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Cartref Bryn yr Eglwys ym Mhentrefoelas yn talu staff i ddysgu Cymraeg ar eu dyddiau rhydd, fel y gall preswylwyr dderbyn gofal yn eu mamiaith.

Caiff y staff sy'n rhoi o'u hamser i fynychu dosbarthiadau - gwersi dwy awr sy'n cael eu cynnal yn y cartref ar brynhawniau Gwener - eu talu gan y perchennog, Meryl Welsby.

Dywedodd y perchennog fod y buddsoddiad yn hanfodol, gan fod 90% o'r 30 o breswylwyr yno yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.

Mae llawer ohonyn nhw'n ei chael hi'n haws mynegi eu hunain yn Gymraeg yn ôl Ms Welsby, yn enwedig pan yn sâl, mewn poen, neu'n profi problemau cof.

Mae'r tîm yn un o'r rhai cyntaf i gymryd rhan yn y fenter newydd o dan arweiniad Prifysgol Bangor.

Yn ôl Sandhya Dahal, sy'n nyrs yn y cartref gofal ers dwy flynedd ac yn wreiddiol o Nepal, mae'r cwrs yn ei helpu o ran dod i adnabod y preswylwyr yn well ac "i integreiddio â diwylliant Cymru".

Neethu RajFfynhonnell y llun, Rick Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Mae dysgu Cymraeg yn bwysig i Neethu Raj, "oherwydd fy mod i'n gweithio yng Nghymru"

Cafodd y cartref ei agor gan Meryl Welsby yn 1990 ac mae 28 o staff yno, ond dim ond pump ohonyn nhw sy'n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.

Gan fod recriwtio'n lleol wedi bod yn anodd, meddai Ms Welsby, mae yno weithwyr o Nepal, lndia, Ynysoedd y Ffilipîn, Romania, Zimbabwe, De Affrica, Sri Lanka, Fietnam, Gwlad Pwyl, Lloegr a'r Alban.

Helpu'r aelodau staff i ffurfio cysylltiadau cryfach hefo'r preswylwyr a'r gymuned y maen nhw bellach yn ei alw'n gartref ydy'r nod.

Daeth y perchennog i gofrestru'r cartref ar gyfer y dosbarthiadau ar ôl bod mewn cyswllt gyda'r tiwtor Mair Rees, sy'n byw ym Mhentrefoelas a'i dwy nain wedi derbyn gofal gan Fryn yr Eglwys.

Gweithia Ms Rees fel tiwtor iechyd a gofal cymdeithasol i Dysgu Cymraeg - Gogledd Orllewin (DCGO), sef y darparwr dysgu i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

'Cwrs ffurfiol go iawn'

Esboniodd Ms Welsby eu bod yn cymryd rhan "oherwydd bod y brifysgol yn deall bod llawer o weithwyr gofal cymdeithasol tramor yng Nghymru a byddai'n fuddiol iddyn nhw ddysgu Cymraeg".

"Mae'n gwrs wyth wythnos, mae'n gwrs ffurfiol go iawn, ac rydym ymhlith y cyntaf i gymryd rhan yn y fenter," meddai.

"Mae gennym gymysgedd o weithwyr yn mynychu'r cwrs gan gynnwys cogyddion, glanhawyr, gweinyddwyr, gofalwyr a nyrsys."

Canolbwyntio ar ryngweithio llafar yn hytrach na geirfa ac ysgrifennu y mae'r cwrs, yn ôl Ms Welsby ac mae "wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer amgylchedd gofal cymdeithasol".

Y dosbarthFfynhonnell y llun, Rick Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cartref Bryn yr Eglwys yn un o'r rhai cyntaf i gymryd rhan yn y fenter newydd o dan arweiniad Prifysgol Bangor

Mae Sandhya Dahal wedi gweithio fel nyrs yn y cartref gofal ers dwy flynedd ac mae'n yn wreiddiol o Nepal.

"Rwy'n mwynhau'r cwrs oherwydd rwy'n hoffi dysgu pethau newydd a bydd hyn yn fy helpu i ryngweithio gyda'r preswylwyr a dod i'w hadnabod yn well.

"Bydd hefyd yn fy helpu i integreiddio â diwylliant Cymru, ac mae'r cwrs yn llawer o hwyl ac mae ein tiwtor yn ardderchog."

Ychwanegodd ei bod yn falch o ychwanegu Cymraeg at yr ieithoedd yr oedd hi'n eu siarad eisoes, sy'n cynnwys Nepali, Saesneg, Hindi a Pwnjabi.

Dywedodd y gofalwr Neethu Raj, sydd wedi gweithio yn y cartref ers bron i bedair blynedd ac yn hanu'n wreiddiol o India, ei bod yn "hapus iawn i ddysgu iaith newydd".

"Mae'n bwysig oherwydd fy mod i'n gweithio yng Nghymru.

"Bydd dysgu Cymraeg yn ddefnyddiol iawn er mwyn cyfathrebu â'r preswylwyr a'u teuluoedd," ychwanegodd.

'Cam mawr, mawr ymlaen'

Mae llawer o'r staff ar y cwrs yn gwybod "cryn dipyn o Gymraeg" yn barod, meddai'r perchennog.

"Oherwydd rydym yn eu hannog i ddefnyddio'r ap Dweud Rhywbeth yn Gymraeg, fel y gallan nhw gyfarch pobl a phethau felly, ond mae hyn yn mynd â nhw ymhellach.

"Rwyf eisoes wedi gweld gwelliant yn eu Cymraeg.

"Dw i'n eu clywed nhw'n cyfarch pobl wrth y drws ffrynt yn Gymraeg rŵan, sy'n hyfryd iawn, ac maen nhw'n ateb y ffôn yn Gymraeg, sy'n gam mawr, mawr ymlaen.

"Mae'n gwrs wedi'i ariannu, ond rydyn ni hefyd yn talu'r holl staff i ddod i mewn ar eu gwyliau a'u diwrnodau i ffwrdd."

Mair ReesFfynhonnell y llun, Rick Matthews
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd yn braf gallu cynnig rhywbeth yn ôl" am y gofal y cafodd ei dwy nain, meddai Mair Rees

Eglurodd Ms Welsby fod ei staff tramor bob amser yn awyddus i setlo yn y gymuned a bod y gwersi Cymraeg yn helpu hynny.

"Yn ddelfrydol wrth gwrs byddem yn recriwtio'n lleol, felly Gymraeg fyddai eu hiaith gyntaf beth bynnag, ond yn anffodus mae cyflogi pobl leol yn parhau i fod yn heriol iawn, mae'n ymddangos nad oes ganddyn nhw lawer o ddiddordeb mewn gwaith gofal.

"Rydym yn hysbysebu'n lleol ond does gan neb ddiddordeb felly dyna pam rydym yn cael ein gorfodi i edrych dramor ac rydym yn noddwr efo'r Swyddfa Gartref, felly rydym yn noddi nyrsys a gofalwyr i ddod drosodd.

"Mae tipyn o'r staff wedi bod yma ers cryn amser bellach, gyda rhai ohonyn nhw wedi bod yma ers pum mlynedd, ac maen nhw yma i aros.

"Maen nhw'n byw yn y pentref ac maen nhw'n deall pa mor bwysig yw integreiddio efo'r gymuned, a rhan o hynny yw deall a siarad Cymraeg.

"I lawer o'r rhai ar y cwrs, Cymraeg yw eu pedwaredd neu eu pumed iaith," ychwanegodd.

Defnyddio'r iaith 'yn uniongyrchol'

Yn ôl Mair Rees, roedd hi'n falch iawn o helpu'r staff i wella eu Cymraeg.

"Mae fy nwy nain wedi derbyn gofal yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly roedd yn braf gallu cynnig rhywbeth yn ôl am y gofal maen nhw wedi'i gael."

Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd y staff yn derbyn tystysgrif sy'n cael ei chydnabod gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

"Mae'r cyrsiau hyn yn benodol ar gyfer gweithleoedd ac yn addysgu'r mathau o batrymau ymadrodd y gall y gweithwyr eu defnyddio'n uniongyrchol yn eu gwaith ar unwaith.

"Maen nhw wedi bod yn dysgu sut i gyflwyno eu hunain, pwy ydyn nhw, beth yw eu rôl, ble maen nhw'n gweithio, beth maen nhw'n ei hoffi, beth nad ydyn nhw'n ei hoffi," ychwanegodd Mair.

"Ac maen nhw'n dysgu gofyn beth mae preswylwyr yn ei hoffi, a beth nad ydyn nhw'n ei hoffi, sy'n bwysig iawn o ran gofal personol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.