Teuluoedd cleifion Alzheimer's: 'Anodd gwybod pa gymorth sydd ar gael'

Bu Megan yn gofalu am Pete gartref am flynyddoedd ond mae mewn cartref gofal bellach
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd sy'n gofalu am anwyliaid sydd ag Alzheimer's yn dweud bod aros am fisoedd am ddiagnosis yn ei gwneud hi'n anodd gwybod pa gymorth sydd ar gael.
Mae'r Gymdeithas Alzheimer's yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targed o 12 wythnos ar gyfer diagnosis gyda chynllun gofal a thriniaeth yn gyflym wedyn.
Yn ôl arolwg diweddar gan yr elusen roedd bron i hanner y bobl gafodd eu holi wedi aros dros chwe mis am ddiagnosis.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gwybod "bod angen gwneud mwy i wella gofal dementia yng Nghymru".
"Fe wnaethom ymgynghori'n ddiweddar ar ein Strategaeth Ddementia Ddrafft, a byddwn yn cyhoeddi'r strategaeth derfynol yn gynnar yn 2027," medd llefarydd.
'Dim byd yn nodi pa gymorth oedd ar gael'
Un sydd wedi profi'r her o ofalu am rywun ag Alzheimer's ydy Megan Jones Roberts o Aberystwyth.
Mae ei gŵr Pete yn byw mewn cartref gofal yn Llanrhystud ers pedair blynedd.
Ar ôl iddo gael diagnosis o Alzheimer's, Megan oedd yn gofalu amdano gartref am flynyddoedd, ond bedair blynedd yn ôl, fe wnaeth hi'r penderfyniad anodd i'w symud i gartref gofal.
Mae Pete bellach yn gaeth i'w wely ac angen gofal drwy'r amser.
Er iddo gael diagnosis yn weddol gyflym, dywedodd Megan nad oedd hi'n sylweddoli ar y pryd pa gymorth oedd ar gael.
"Odd e wedi bod yn y clinig cof yn yr ysbyty, a oedden nhw wedi ei ddeiagnosio, a rhoi ffurflenni i chi yn gweud am y salwch.
"Roedd digon o bethau i sôn am y salwch ei hun, ond dim byd yn gweud pa gymorth oedd ar gael, a hwnnw o' ni eisiau fwyaf."

Mae Megan ei hun yn mynd trwy gyfnod anodd ac yn cael triniaeth canser ar hyn o bryd
Dywedodd Megan fod y cymorth meddygol adeg diagnosis Pete yn dda, ond bod pethau wedi newid pan gafodd ei drosglwyddo i ofal cymdeithasol.
"Oni'n siarad gyda 'Mrs Jones', gweithiwr cymdeithasol, un mis, ac wedyn mewn rhyw ddeufis o'dd 'Mrs Evans' yn ffonio fi, ac o'dd hi'n gofyn yr un cwestiynau ag oedd yr un arall wedi eu gofyn ddeufis yn gynt!
"Yna rhagor o ffurflenni a phethau. Roedd e'n ddiddiwedd.
"Doedd dim dilyniant i'w gael o gwbl yn beth dyle fod yn digwydd a'r gefnogaeth o'n i fod i'w gael."
Gofal 'ffantastig'
Yng nghanol y gofal am ei gŵr Pete, mae Megan ei hun hefyd yn mynd trwy gyfnod anodd ac yn cael triniaeth canser.
"Mae'r gofal dwi wedi ei gael, dyw e' ddim byd tebyg i'r amser gafodd Pete yn cael ei ddeiagnosio efo Alzheimer's," meddai.
"Ers bron i dair blynedd nawr, maen nhw wedi bod yn gofalu ar fy ôl i yn ffantastig.
"O'n i'n gorfod mynd yn erbyn pobol o hyd i gael beth oedd Pete i fod i'w gael. A hwnna oedd yn bwysig i mi, fod Pete yn cael popeth oedd e i fod i gael."

Mae Pete bellach yn gaeth i'w wely ac angen gofal drwy'r amser
Ar ôl gorfod ffeindio'i ffordd ei hun drwy'r system, mae Megan bellach yn awyddus i rannu ei phrofiadau yn y gobaith o wneud y daith ychydig yn haws i deuluoedd eraill.
"Wi'n gweud wrthyn nhw - ydych chi yn sylweddoli bo' chi'n cael treth y cyngor? Ydych chi'n sylweddoli bo chi'n gallu cael attendance fee?
"Odych chi'n sylweddoli bo' chi yn cael badge glas? O'dd neb wedi gweud wrthof i allen ni gael badge glas i Pete, ond mor gynted a ges i fy neiagnosio o'dd y tîm Macmillan yn gweud 'ie' dyma chi fathodyn glas."
Mae Megan yn ddiolchgar am y gofal mae ei gŵr yn ei gael yn nghartref preswyl Plas Gwyn yn Llanrhystud: "Dwi ddim yn gorfod gwneud dim byd nawr, achos mae Pete mewn dwylo diogel fan hyn."
Ond mae effaith y Alzheimer's ar eu bywyd gyda'i gilydd, wedi bod yn enfawr.
"Ma fe'n salwch creulon iawn amser ma' fe'n dod i lle mae Pete nawr - methu siarad, methu cyfathrebu, sa'm byd, dyw e' ddim yn adnabod fi na neb arall, hwnna sydd waethaf.
"Just colli ei gwmni fe yn fwy na dim," meddai Megan.
Diagnosis cynnar yn 'hanfodol'
Mae gofal cymdeithasol wedi bod yn bwnc trafod mawr yr wythnos yma, gyda phrif weinidog Prydain, Andy Burnham yn addo gwasanaeth gofal cenedlaethol newydd i Loegr.
Yng Nghymru, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod diagnosis cynnar yn "hanfodol i bobl sy'n byw gyda dementia".
"Rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy i wella gofal dementia yng Nghymru.
"Fe wnaethom ymgynghori'n ddiweddar ar ein Strategaeth Ddementia Ddrafft, a byddwn yn cyhoeddi'r strategaeth derfynol yn gynnar yn 2027.
"Bydd hon yn pwysleisio pwysigrwydd diagnosis amserol," medd llefarydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst

