Rhaid i Blaid Cymru wneud 'mwy o waith cartref' ar annibyniaeth - Dafydd Wigley

- Cyhoeddwyd
Mae angen i Blaid Cymru wneud "llawer iawn mwy o waith cartref" ar oblygiadau annibyniaeth os ydyn nhw am berswadio pobl Cymru o fanteision gadael y Deyrnas Unedig, yn ôl cyn-arweinydd y blaid.
Yn siarad ar bodlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru, dywedodd yr Arglwydd Wigley fod angen i'r blaid baratoi ar gyfer gwahanol bosibiliadau cyfansoddiadol yn y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys y potensial y gallai'r Alban symud tuag at ail refferendwm annibyniaeth.
Byddai unrhyw newid mawr yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn cael "effaith uniongyrchol" ar Gymru, dywedodd.
Dywedodd Wigley fod cyfrifoldeb ar Blaid Cymru i gyfathrebu i'r cyhoedd sut y byddai Cymru annibynnol yn gweithredu.
Yn ôl Plaid Cymru, bydd sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru yn rhoi'r cyfle i bobl Cymru ystyried y gwahanol opsiynau ar gyfer dyfodol ein cenedl.
Mewn trafodaeth gyda Bethan Rhys Roberts, Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones, dywedodd yr Arglwydd Wigley: "Os 'dy'r Alban yn symud ymlaen yn sydyn tuag at ail refferendwm, yna yn amlwg mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer hynny, oherwydd tasa'r Alban yn tynnu allan o'r Deyrnas Gyfunol fel mae hi, fysa hynny 'efo effaith uniongyrchol ar Gymru."
Ychwanegodd fod angen i'r blaid wneud mwy o waith i egluro goblygiadau ymarferol annibyniaeth.
"Os 'dan ni'n parhau yn yr un sefyllfa 'dan ni rŵan, yr hyn sydd angen i ni wneud ydy llawer iawn mwy o waith cartref ar oblygiadau annibyniaeth.
"Dyw pobl Cymru ddim wedi cael y cyfle hyd yma i ddod i ddeall hyn yn llawn, ac mae hynny falle yn gyfrifoldeb arnon ni i sicrhau [hynny]."
Yn ôl yr Arglwydd Wigley, mae'n rhaid i'r blaid fod yn barod ar gyfer mwy nag un canlyniad gwleidyddol yn etholiadau nesaf y Senedd.
"Os y'n ni'n arwain llywodraeth neu… hyd yn oed os ydyn ni'n wrthblaid, ma' rhaid i ni roi mwy o sylw manwl i'r syniadau fel fod pobl Cymru yn dod i ddeall nhw."
'Ffin agored rhwng Cymru a Lloegr'
Yn ôl Wigley, gallai annibyniaeth weithio i Gymru pe bai trefniadau economaidd agored yn cael eu cynnal rhwng Cymru a Lloegr.
"I mi, ma' annibyniaeth yn cymryd yn ganiataol fod yna ffin agored rhwng Cymru a Lloegr oherwydd heb hynny dydy o ddim yn gweithio'n effeithiol iawn.
"Ond os oes gennyn ni farchnad rydd ar gyfer nwyddau, pobl ac arian dros yr ynysoedd yma ar ôl cael annibyniaeth, yna ma' pob rheswm yn dweud wrthoch chi fod hyn yn gallu gweithio, oherwydd bydd gennym ni lawer mwy o reswm i roi sylw, amser ac arian i ddatblygu ein gwlad ein hunain."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Bwriad Llywodraeth Plaid Cymru yw sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru i roi cyngor annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan adeiladu ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
"Bydd hyn yn helpu i sicrhau trafodaeth genedlaethol gynhwysol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan roi cyfle i bobl Cymru ystyried y gwahanol opsiynau ar gyfer dyfodol ein cenedl".
Yn ôl Llywodraeth Cymru: "Mae'r llywodraeth newydd hon yn uchelgeisiol dros Gymru, a byddwn yn parhau i ddadlau'n gyson er mwyn sicrhau bod ein cenedl yn gallu cyrraedd ei llawn botensial gyda hyder".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.