Nyrs cartref gofal ym Môn yn ennill gwobr am greu hanes

Ezelina DacruzFfynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ezelina Dacruz wedi ennill Gwobr Gofal Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae nyrs cartref gofal wedi ennill gwobr am fod y cyntaf yng Nghymru i fod yn gymwys i ragnodi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i breswylwyr.

Yn 50 oed, enillodd Ezelina Dacruz ei chymhwyster ar ôl astudio ym Mhrifysgol Bangor, tra hefyd yn arweinydd clinigol yng Nghartref Nyrsio Glan Rhos ym Mrynsiencyn, Ynys Môn.

Cafodd dathliad ei gynnal yn y cartref i gydnabod ei chyflawniad, lle y cafodd Gwobr Gofal Cymru ei chyflwyno iddi gan Llinos Medi, AS Ynys Môn.

Roedd Ezelina, sy'n dod o Malawi yn wreiddiol, yn "ddiolchgar iawn" am y wobr.

Llinos Medi AS (canol) a Mario Kreft MBE, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru a sylfaenydd Gwobrau Gofal Cymru, yn cyflwyno’r wobr i Ezelina Dacruz gyda Elfed Williams, Helen Ombler-Williams, Kim Ombler a Mair Rowlands ASFfynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llinos Medi AS a Mario Kreft (canol) cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, yn cyflwyno'r wobr i Ezelina Dacruz gydag Elfed Williams, Helen Ombler-Williams, Kim Ombier a Mair Rowlands

Mae Ezelina wedi gweithio yng Nglan Rhos ers 21 mlynedd ac fe gymhwysodd fel nyrs ym Malawi yn 2000.

"Roeddwn i'n meddwl y byddai cael cymhwyster rhagnodi presgripsiwn yn helpu ein preswylwyr yn fawr," meddai.

"Fel arweinydd clinigol, os ydy rhywun yn wael yn y cartref rwy'n cysylltu gyda'r meddyg teulu ac yn gwneud yr e-ymgynghoriadau ar gyfer y cleifion.

"Roeddwn i'n meddwl y byddai gallu rhagnodi presgripsiwn yn gwneud pethau'n haws ac y gallai'r preswylwyr gael y driniaeth yn gyflymach. "

Mae arweinwyr yn y maes gofal yn dweud y gallai hyn osod patrwm ar gyfer sut mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu yng Nghymru yn y dyfodol - gan ganiatáu rhagnodi presgripsiwn a darparu triniaeth yn gyflymach a lleihau'r angen am alwadau gan feddygon teulu, neu ambiwlansys i fynd â phreswylwyr i'r ysbyty.

Llinos Medi ac Ezelina DacruzFfynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llinos Medi wnaeth gyflwyno'r wobr i Ezelina Dacruz yng Nghartref Nyrsio Glan Rhos

Dywedodd Ezelina, sy'n byw yn Llanfairpwll, fod y cymhwyster - a gafodd ei ariannu gan Glan Rhos - wedi rhoi gwybodaeth amhrisiadwy iddi wrth ofalu am breswylwyr.

Dywedodd Kim Ombler, rheolwr Glan Rhos, ac sy'n rhedeg y cartref gyda'i chwaer Helen a'i brawd David, eu bod yn "hynod falch" ohoni.

"Bydd hyn wir yn helpu ein cleientiaid oherwydd mae'n golygu na fydd yn rhaid iddyn nhw aros i feddyg ddod allan i'w gweld, yn enwedig ar benwythnosau, pan fydd yn rhaid i chi fynd trwy'r gwasanaeth y tu allan i oriau.

"Mae'n rhaid i hon fod y ffordd ymlaen ar gyfer gofal cymdeithasol, ac mae'n helpu'r GIG hefyd gan ryddhau gwelyau a lleihau'r angen i gleifion aros mewn ambiwlansys y tu allan i ysbytai."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.