Llywodraeth yn wynebu rownd gwariant anoddaf ers cyn y pandemig - Gweinidog Cyllid

"Mae'n debygol iawn mai hwn fydd y setliad gwaethaf i ni ei dderbyn ers y cyfnod cyn Covid," medd Elin Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Cyllid Elin Jones wedi rhybuddio y bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu ei rownd gwariant anoddaf ers cyn y pandemig, oni bai ei bod yn derbyn cyllid ychwanegol yn y gyllideb ddydd Mercher.
Dywedodd fod swm yr arian sydd ar gael y flwyddyn nesa' ar wariant dydd i ddydd mewn meysydd fel iechyd ac addysg, yn wynebu gostyngiad mewn termau real o 0.7%.
Daw hyn wrth i un AS Llafur Cymru hefyd alw ar y Trysorlys i leihau'r cyfyngiadau y mae gweinidogion yng Nghaerdydd yn eu hwynebu wrth fenthyca arian ar gyfer buddsoddi.
Mae gan gyllideb Llywodraeth y DU oblygiadau mawr i Lywodraeth Cymru gan fod gwariant ychwanegol yn Lloegr mewn meysydd penodol yn arwain at gynnydd yn yr arian sydd ar gael i weinidogion yng Nghaerdydd.
Mae disgwyl i feiri ac arweinwyr rhanbarthol ledled Lloegr dderbyn cyllid ychwanegol ar gyfer tai fforddiadwy a chymdeithasol a mwy o hyblygrwydd a phŵer dros benderfyniadau buddsoddi, ond dydi hi ddim yn glir beth fydd hynny'n ei olygu i Lywodraeth Cymru.
'Blwyddyn anodd a heriol iawn'
Wrth siarad ar Politics Wales dywedodd Elin Jones: "Mae'n debygol iawn mai hwn fydd y setliad gwaethaf i ni ei dderbyn ers y cyfnod cyn Covid.
"Bydd hefyd yn golygu, o ystyried chwyddiant o fewn y system, y bydd y GIG ac agweddau eraill ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu blwyddyn anodd a heriol iawn wrth ddarparu gwasanaethau hynod bwysig i bobl Cymru."
Galwodd hefyd ar weinidogion Cymru i gael yr un pwerau â Llywodraeth yr Alban, o ran gallu cael mynediad at gronfeydd cyllidol wrth gefn i ariannu ymrwymiadau gwariant.

Amddiffyn record y Blaid Lafur ym maes ariannu datganoli ers iddyn nhw ddod i rym ddwy flynedd yn ôl, a wnaeth Nia Griffith
Mae'r Prif Weinidog Andy Burnham, sy'n gyn-Faer Manceinion, wedi dangos cefnogaeth dro ar ôl tro i ddatganoli pwerau a chyllid drwy'r cenhedloedd a rhanbarthau'r DU.
Ychwanegodd Elin Jones mai enghraifft o hyn fyddai gweld peth o'r buddsoddiad sydd eisoes wedi'i ymrwymo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru.
Dywedodd: "Mae 'na ymrwymiad o £14b ar gyfer buddsoddiad yn y rheilffyrdd gan y Llywodraeth Lafur Cymru flaenorol a Llywodraeth Lafur y DU er mwyn cyflwyno buddsoddiad arwyddocaol yn isadeiledd rheilffyrdd Cymru.
"Dyw e' ddim yn ddyhead. Cafodd ei addo gan Lywodraeth y DU yma. Yr unig beth ni'n gofyn amdano yw i'r arian ddechrau ymddangos yn y taenlenni. Mae e' yn y datganiad i'r wasg ond nid yn y taenlenni."
Rhaid i Blaid Cymru wneud 'mwy o waith cartref' ar annibyniaeth - Dafydd Wigley
- Cyhoeddwyd17 awr yn ôl
Cynlluniau i wahardd peilonau dur a bwriad i osod ceblau o dan y ddaear
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Jane Dodds i gamu i lawr fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Amddiffynnodd y Fonesig Nia Griffith, AS Llafur dros Lanelli, record ei phlaid ym maes ariannu datganoli ers iddyn nhw ddod i rym ddwy flynedd yn ôl, gan esbonio eu bod wedi ariannu'r setliad tair blynedd gorau erioed.
Ond dywedodd hefyd: "Ry'n ni'n credu bod angen edrych ar y fframwaith cyllidol fel nad ydi'r rheolau chwerthinllyd presennol yn ei gwneud hi'n anodd i Lywodraeth Cymru er enghraifft, i fenthyca arian a throsglwyddo arian o un flwyddyn ariannol i'r llall nag y mae i rai cynghorau lleol."
"Ry'n ni eisiau edrych ar y ffordd gellir ei wneud mor hyblyg â phosibl i Lywodraeth Cymru, gan barchu'r ffaith mai nhw sy'n penderfynu sut i wario'r arian."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.