Cynlluniau i wahardd peilonau dur a bwriad i osod ceblau o dan y ddaear

peilonau
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynlluniau i wahardd peilonau dur traddodiadol, gan edrych ar osod ceblau o dan y ddaear

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i wahardd peilonau dur traddodiadol rhag cael eu defnyddio i gario llinellau trydan sydd o fewn rheolaeth y llywodraeth.

Dymuniad gweinidogion Plaid Cymru yn hytrach ydy claddu'r ceblau o dan y ddaear.

Mae cynlluniau ar gyfer rhwydwaith o beilonau yn Nyffryn Tywi wedi wynebu gwrthwynebiad chwyrn gyda gwleidyddion lleol Plaid Cymru ymhlith y gwrthwynebwyr.

Mae'r cwmni y tu ôl i'r cynlluniau, Green Gen Cymru wedi croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, a "chydnabyddiaeth y llywodraeth o bwysigrwydd darparu seilwaith trydan y mae Cymru ei hangen mewn ffordd sy'n sensitif i'n tirweddau, amgylchedd a chymunedau."

Roedd gwahardd y defnydd o beilonau dur traddodiadol ar gyfer llinellau newydd 132 cilofolt yn addewid ym maniffesto Plaid Cymru cyn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Wrth gyhoeddi ymgynghoriad ar y polisi ddydd Gwener, dywedodd Llywodraeth Cymru y gallai gosod ceblau o dan ddaear "leihau effaith weledol seilwaith trydan, gan helpu i ddiogelu tirweddau ac amwynderau lleol".

Dywedodd hefyd bod gosod ceblau o dan y ddaear yn golygu y bydd y seilwaith yn llai agored i rai mathau o dywydd difrifol, ac y gallai leihau'r effeithiau ar adar a mathau eraill o fywyd gwyllt.

Ond mae'r ddogfen ymgynghori hefyd yn nodi bod gosod a chynnal a chadw ceblau o dan y ddaear yn gyffredinol yn cael ei ystyreid "yn ddrutach, a gall hyn effeithio ar y gwaith adeiladu wrth eu gosod".

Byddai polisi'r llywodraeth yn caniatáu i beilonau pren neu "seilwaith cyfatebol, llai ymwthiol" gael eu defnyddio pan fo profion cynllunio penodol yn cael eu bodloni.

Graffeg Green GEN Cymru yn dangos y llwybrau peilonau arfaethedigFfynhonnell y llun, Green GEN Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Graffeg Green GEN Cymru sy'n dangos llwybrau'r peilonau arfaethedig

Mae Green Gen yn gobeithio codi tri llwybr o beilonau yn cysylltu ffermydd gwynt sydd wedi eu cynllunio gan ei chwaer-gwmni Bute Energy gyda'r grid ehangach.

Mae'r cwmni yn dweud y bydd yn buddsoddi £1bn erbyn 2030, gyda'r cynlluniau yn effeithio ar rannau o Sir Gâr, Ceredigion, Powys a Sir Amwythig.

Ond mae'r cwmni wedi wynebu gwrthwynebiad chwyrn mewn rhai cymunedau, gyda grwpiau'n cynrychioli cannoedd o dirfeddianwyr yn dwyn achos llys y llynedd.

Mewn ymdrech i ymateb i bryderon, cyhoeddodd Green Gen yn ddiweddar eu bod wedi dylunio peilon llai o faint "gyda thirwedd Cymru mewn golwg".

Mae'r cwmni wedi dadlau'n gyson y byddai claddu ceblau yn costio 4.5 gwaith yn fwy na'u rhedeg ar beilonau.

Byddai hynny'n golygu cost ychwanegol o £500m ar gyfer cynllun Tywi Wysg rhwng Sir Gâr a Phowys, yn ôl Green Gen.

Cynllunio 'sensitif'

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

"Rydym yn gwybod y bydd angen seilwaith grid newydd ar y newidiadau angenrheidiol yn y ffordd y mae ynni'n cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio yng Nghymru, ond rydym hefyd yn gwybod y gall seilwaith newydd effeithio ar y cymunedau a'r amgylchedd sy'n ei gynnal.

"Rydym eisiau gweld seilwaith sydd wedi'i gynllunio'n sensitif i leihau'r effeithiau ar yr amgylchedd a'r cymunedau sy'n ei gynnal, gan gynnig y manteision mwyaf posibl i Gymru."

Bydd yr ymgynghoriad, dolen allanol yn para tan 15 Ionawr y flwyddyn nesaf.

Wrth groesawu'r ymgynghoriad dywedodd cwmni Green Gen eu bod hefyd yn "falch ei fod yn cydnabod y posibilrwydd o seilwaith uwchben y ddaear sy'n llai ymwthgar yn weledol, ac yn gwahodd tystiolaeth ar eu defnydd.

"Mae hwn yn gyfle pwysig i ddangos sut y gall newidiadau mewn cynllun helpu i leihau effeithiau seilwaith newydd, tra'n sicrhau bod gan Gymru y rhwydweithiau trydan sydd ei hangen arni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.