Jane Dodds i gamu i lawr fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig

Jane Dodds yw unig AS y blaid ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Jane Dodds wedi cyhoeddi y bydd yn camu i lawr fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, ar ôl naw mlynedd yn y swydd.
Bydd Ms Dodds, a etholwyd yn arweinydd ym mis Tachwedd 2017, yn parhau fel Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog Tawe Nedd.
Dywedodd mai "nawr yw'r amser iawn i basio'r awenau ymlaen".
Hi yw unig AS y blaid ym Mae Caerdydd.
Bydd enwebiadau ar gyfer arweinydd yn agor ar 23 Hydref ac yn cau ar 16 Tachwedd.

Yn y cam cyntaf o enwebiadau, dim ond Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol sy'n gymwys i gael eu henwebu, gyda chefnogaeth 50 o aelodau'r blaid.
Felly David Chadwick AS yw'r unig berson arall sy'n gymwys i geisio enwebiad yn y cam hwn.
Os na fydd unrhyw ASau yn cael eu henwebu'n llwyddiannus, bydd ail gam yn cael ei gynnal, lle y byddai pob person sydd ar restr ymgeiswyr Seneddol cymeradwy'r blaid yn medru ceisio enwebiad.
Yn gynharach eleni dywedodd arweinydd Prydeinig y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, ei fod yn cefnogi Ms Dodds, bron i ddwy flynedd ar ôl iddo gwestiynu ei harweinyddiaeth.
Mae'r berthynas wedi bod dan straen ers i Syr Ed ofyn i Jane Dodds ystyried ei rôl dros y modd y gwnaeth hi ddelio ag achos o gam-drin rhywiol pan oedd hi'n gweithio i Eglwys Loegr.
'Angen mwy nag un llais rhyddfrydol'
Dywedodd Ms Dodds, "yn dilyn etholiad mis Mai, rwyf wedi meddwl yn ddwys am yr hyn sydd ei angen ar ein plaid.
"Mae angen mwy nag un llais rhyddfrydol ar Gymru yn y Senedd.
"Bydd adeiladu'r tîm hwnnw yn gofyn am flynyddoedd o waith caled mewn cymunedau ledled y wlad, ac rwy'n credu y dylai cenhedlaeth newydd arwain y gwaith hwnnw.
"Nawr yw'r amser iawn i basio'r awenau ymlaen.
"Dwi ddim yn mynd unman. Dechreuais ym myd gwleidyddiaeth ar ôl 27 mlynedd fel gweithiwr cymdeithasol ym maes amddiffyn plant, oherwydd na allwn dderbyn y nifer o blant sy'n tyfu i fyny mewn tlodi yng Nghymru.
"Heddiw, mae'r nifer hwnnw dros 200,000 o blant.
"Mae Llywodraeth Cymru newydd wedi addo gwneud mynd i'r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth iddi. Byddaf yn sicrhau eu bod yn cadw at yr addewid hwnnw, bob un diwrnod."
Dywedodd Tim Sly, Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Mae Jane wedi arwain ein plaid gyda chynhesrwydd, penderfyniad ac uniondeb trwy rai o'r blynyddoedd mwyaf cythryblus ym myd gwleidyddiaeth Cymru a'r DU.
"Mae hi'n gadael y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn gryfach yn ein cymunedau ac yn barod i adeiladu at y dyfodol.
"Ar ran pob aelod, hoffwn ddiolch iddi am ei gwasanaeth eithriadol."
Ed Davey yn cefnogi Jane Dodds ar ôl gofyn iddi 'ystyried ei rôl'
- Cyhoeddwyd27 Ebrill
Jane Dodds yn ymddiheuro i'r sector digartref am fethu pleidlais
- Cyhoeddwyd8 Mawrth
Yr Arweinwyr: Jane Dodds
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.