Llifogydd ger Caerdydd wedi eu hachosi gan 'gerrig yn disgyn i ddŵr chwarel'

Cafodd tua 15 o gartrefi eu heffeithio gan y llifogydd ar 30 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Cafodd llifogydd diweddar ar gyrion Caerdydd eu hachosi gan nifer o gerrig yn disgyn i ddŵr yn dilyn ffrwydrad mewn chwarel oedd wedi ei gynllunio, yn ôl swyddogion.
Cafodd sawl eiddo eu gwagio yng Ngwaelod-y-garth ac roedd ffyrdd ar gau am gyfnod wedi'r digwyddiad yn Chwarel Ffynnon Taf ar 30 Gorffennaf.
Dywedodd Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) mewn datganiad fod y ffrwydrad wedi ei gynllunio a'i baratoi gan arbenigwyr ar sail asesiadau swyddogol.
Mae'r ymchwiliad i achos y digwyddiad yn parhau.
'Rhywbeth ofnadwy o'i le' cyn llifogydd yn dilyn ffrwydrad chwarel
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
Gwagio cartrefi oherwydd llifogydd ar ôl 'digwyddiad' mewn chwarel
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
Ddydd Iau, Gorffennaf 30 fe ddywedodd pobl yr ardal wrth y BBC eu bod wedi clywed ffrwydrad mawr o gyfeiriad y chwarel tua 12:30 a bod y dŵr wedi eu cyrraedd ychydig funudau'n ddiweddarach.
Cafodd tua 15 o gartrefi eu heffeithio ac oddeutu 40 o bobl eu heffeithio'n uniongyrchol gan y digwyddiad.
Roedd Cyngor Caerdydd wedi rhoi ymateb aml-asiantaeth ar waith yn dilyn y digwyddiad.

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran yr HSE: "Fe aeth ymchwilydd chwareli ac ymchwilydd cloddfeydd i Chwarel Ffynnon Taf er mwyn cynnal ymchwiliadau ar y safle.
"Mae'r swyddogion wedi cadarnhau nad oedd y cerrig sy'n dal y dŵr na chwaith y twnnel wedi cael eu difrodi yn ystod y digwyddiad.
"Mae hwn yn ddigwyddiad ar wahân ble mae nifer fawr o gerrig wedi disgyn i un o bedwar man ble mae dŵr wedi casglu yn dilyn ffrwydrad oedd wedi ei gynllunio.
"Cafodd swm sylweddol o'r dŵr hwnnw ei wthio i un o dwneli eraill y chwarel o ganlyniad."
'Cydnabod pryder trigolion lleol'
Ychwanegodd yr HSE: "Mae'r chwarel wedi bod yn destun asesiadau daearyddol arbenigol a chafodd yr wybodaeth gafodd ei ddefnyddio yn y ffrwydrad ei ddatblygu gan gontractwyr arbenigol.
"Dyma fydd ffocws ein hymchwiliadau wrth symud ymlaen.
"Rydyn ni'n cydnabod y pryder mae'r digwyddiad yma wedi ei achosi i drigolion Gwaelod-y-garth, yn enwedig y rhai hynny sy'n byw yn agos i'r chwarel.
"Mae'r HSE yn arwain yr ymchwiliad i achos y digwyddiad yma, sydd yn parhau, tra bod Cyngor Caerdydd yn arwain y gwaith adfer."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.