'Un o fawrion ardal' Llanuwchllyn, Huw Antur, wedi marw yn 63 oed

Mi fydd Huw Antur yn gadael "bwlch enfawr ar ei ôl ym mhob ffordd"
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i gyn-gyfarwyddwr gwersyll Glan-llyn, Huw Antur o Lanuwchllyn a fu farw yn sydyn fore Sadwrn yn 63 oed.
Bu'n gweithio gyda Glan-Llyn am flynyddoedd - rhwng 2007 a 2023 cyn iddo ymddeol - ac roedd yn adnabyddus am ei waith yn hybu'r Gymraeg yn ardal pum plwy Penllyn.
Roedd hefyd yn weithgar yn datblygu cynlluniau i hybu'r ardal yn economaidd ac yn gymdeithasol.
Roedd Huw A fel roedd yn cael ei adnabod yn berson cymdeithasol iawn ac wedi bod yn aelod o nifer o gorau a phartïon gan gynnwys 'Tri Gog a Hwntw'.
Dywedodd cyn-aelod Seneddol yr ardal, Elfyn Llwyd fod "y pentre' a'r ardal gyfan mewn galar a sioc".
"Mae'r bwlch ar ei ôl o yn anhygoel," meddai.
"Person annwyl iawn - hiwmor sych neis gynno fo. Yn gymydog da ac yn gyfaill i'r pentre' a'r ardal i gyd.
"Fedrai'm canmol ei glodydd o ddigon," ychwanegodd Mr Llwyd. "Un o fawrion yr ardal."
Roedd Huw Antur yn ŵr i Bethan ac yn dad i'r bardd Gruffudd Antur a'r cerddor Marged Gwenllian. Mae'n gadael chwaer Anwen.
Y prynhawn 'ma mi fydd munud o dawelwch er cof amdano cyn gêm bêl-droed tîm Llanuwchllyn yn erbyn Caersws.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.