Ara deg mae caru ieir: Mabwysiadu ieir ar ôl blynyddoedd o fod ofn

- Cyhoeddwyd
Pan oedd yr hanesydd Dr Mari Wiliam o Lansannan yn tyfu i fyny, roedd arni ofn ieir.
Ond ara deg mae dal iâr, ac erbyn hyn, mae hi wrth ei bodd yn mabwysiadu ieir, ac wedi creu cartref saff i ieir sydd angen gofal yn ei gardd.
Eglurodd Mari wrth Aled Hughes ar Radio Cymru: "Dwi wedi bod yn llysieuwraig ers bo' fi tua 12 oed.
"Mae anifeiliaid yn golygu andros o lot i fi, a dwi wastad wedi bod efo cŵn, ond yn ystod Covid 'nes i ddechrau garddio mwy, cael mwy o ddiddordeb mewn byd natur, a sylwi ar bobl yn cadw ieir yn eu gerddi wrth ddilyn cyfrifon garddio ar Instagram."
Daeth i ddeall bod elusennau lleol iddi fel Fresh Start for Hens yng Nghorwen yn chwilio am bobl i roi cartref i gyn-ieir batri neu fasnachol fyddai'n cael eu difa fel arall.
Rhoi ail fywyd i gyn-ieir batri
Fe fabwysiadodd Mari ei thair iâr gyntaf sef Bell, Hennessy, a Lili Bili, ac erbyn hyn mae hi wedi mabwysiadu dwsinau o ieir sy'n cael lloches braf ganddi yn y 'Plasty Plu' yn ei gardd gefn.
"Do'n i erioed wedi gafael mewn iâr nes i fi gael y tair yma," eglurodd.
"Oedd Mam ofn ieir yn ofnadwy - oedd hi wedi cael ei phigo gan geiliog pan oedd hi'n hogan fach ac oedd hynny wedi cael ei drosglwyddo i fi, felly ddoth y dair iâr wreiddiol yma ac ar y ffordd adre o'n i'n meddwl; 'Maen nhw'n mynd i ddianc o'r gawell ac ymosod arna i', ac wrth gwrs oedd hynny'n hollol anghywir, oedd yr ieir yn ofn am eu bywydau.
"Yn fuan iawn 'nes i ddod i wirioni arnyn nhw, ac ymhen ychydig 'nes i wirfoddoli efo elusen arall sef y British Hen Welfare Trust sydd efo cangen yn Sir y Fflint felly dwi'n gwirfoddoli efo nhw ers tua dwy flynedd rŵan.

Rhai o ieir Mari
Cadw ieir yn codi calon
Tra roedd rhai o'r ieir sy'n ei gofal heddiw yn clwcian a chlwydo'n braf, eglurodd y broses o fabwysiadu ieir wrth Aled:
"Mae'r elusennau yma'n cymryd ieir o ffermydd wyau felly pan mae'r ieir yn cyrraedd tua 18 mis maen nhw'n bwrw eu plu sy'n golygu eu bod nhw'n dodwy llai achos mae eu hegni nhw'n mynd i dyfu plu newydd.
"Dydi hynny ddim yn broffidiol i'r ffermydd felly mae'r ieir yn gallu cael eu hanfon i'r lladd-dy neu mae'r elusennau yn gallu cymryd yr ieir a ffeindio cartrefi newydd iddyn nhw."

Yn ogystal â bod yn gwmni yn yr ardd a gwneud gwahaniaeth i fywydau'r ieir, mae buddion eraill i'w cael hefyd gan gynnwys derbyn wyau ffres.
"Mae ieir sydd wedi eu hachub yn dal i allu dodwy - i fod yn onest maen nhw'n dodwy bob dydd o'r flwyddyn wedyn.
"Mae rhai yn dodwy dau wy y diwrnod. Doedd un iâr, sef Messi, ddim yn dodwy o gwbl ond rhyw chwe wythnos ar ôl cyrraedd 'nath hi ddechre dodwy yr wyau mwyaf anferthol yma.
"Mae'r ieir yn grêt os tisho wyau, ond dydyn nhw ddim yn garantîd o ddodwy chwaith.
"Pan ges i Hywel (sydd wedi ei henwi ar ôl fy ewythr oedd yn ein herio ni am fwyta cyw-iâr) wnaeth hi ddim dodwy am flwyddyn gyfan. Un diwrnod 'nath hi ddodwy, a mae hi dal i ddodwy rŵan er ei bod hi'n mynd yn eithaf hen."
Mae gan Mari stori tu ôl i enw bob iâr, gan gynnwys Hywel ar ôl ei hewythr, Messi ar ôl pêl-droediwr Yr Ariannin a fabwysiadodd hi'n ystod cyfnod Cwpan y Byd, a Cupid a ddaeth at Mari dros gyfnod San Ffolant, a dywed bod enwi'r ieir "yn bleser mawr".
Ychwanegodd: "Be' dwi wedi sylwi ydi mae pobl yn dueddol o gyffredinoli ieir ond mae ganddyn nhw bersonoliaethe fel anifeiliaid anwes eraill hefyd."

Ar hyn o bryd mae Mari'n rhoi gofal arbenig i Shakira sydd wedi dod ati gyda thro yn ei gwddf.
"Cafodd Shakira ei deor yn Ynys Môn efo gwddw' crwn felly dwi wedi cymryd Shakira i'w hadfer.
"Ond gan bod ganddi wddfdro a ieir yn gallu bod yn eitha' ffiaidd wrth sbotio iâr wan, mae Shakira yn chillio o gwmpas y cŵn yn aml ac yn byw yn y tŷ.
"Mae'n mynd at vet hyfryd yn ochra' Mochdre sy'n cynning therapi golau coch a physio i helpu ei gwddf bob hyn a hyn, sy'n hyfryd."
Am ba hyd fydd yr ieir yng ngofal Mari?
"Mae'r ieir yma nes eu bod nhw'n mynd yn sâl, felly mae rhai ieir yn marw yma a rhai yn mynd at y ffariar - mae'n amrywio.
"Mae yna ffariars da efo ieir ochra' yma felly dwi'n lwcus iawn. Dydi rhai ffariars ddim yn trin ieir fel anifeiliaid anwes, jest fel anifeiliaid amaethyddol ar ffermydd mawr sy'n hollol ddealladwy."
Yn ôl Mari mae mabwysiadu ieir wedi ei chyflwyno "i gymuned newydd o bobl hyfryd, o bob cyfeiriad".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
