Yr ifanc a ŵyr: Beca Brown a Leisa Gwenllian

- Cyhoeddwyd
Mae 2026 wedi bod yn dipyn o flwyddyn i Beca Brown a'i merch Leisa Gwenllian.
Fis Mai fe gafodd y gwleidydd, fu'n gynghorydd ar Gyngor Gwynedd am flynyddoedd, ei hethol i'r Senedd fel rhan o lywodraeth Plaid Cymru.
Yn ystod yr un cyfnod roedd Leisa, gafodd ei magu gan ei mam yn Llanrug, yn ennill clod am chwarae'r brif ran yn Effi o Blaenau, ffilm sydd wedi ei dangos mewn sinemâu ar draws Prydain.
Mae'r actores ifanc yn un o 20 sydd newydd gael eu henwi ar restr cylchgrawn Screen International o sêr y dyfodol. Ymysg yr enwau sydd wedi eu cynnwys ar restrau UK & Ireland Stars of Tomorrow yn y gorffennol mae Tom Holland, Benedict Cumberbatch, Emily Blunt ac Eddie Redmayne.
Yma mae'r ddwy yn trafod eu perthynas fel mam a merch:
Beca Brown
Leisa ydi fy mhlentyn cyntaf, a bos y tŷ o doriad ei bogail. Daeth hi i'r byd yn gorwynt o enedigaeth heriol, a dwi'n cofio noson gyntaf ei bywyd yn gwbl glir - dwy lygad fawr, siriys yn edrych arna'i yn llawn chwilfrydedd, a rhyw hanner her...
Mae hi wedi bod yn ferch benderfynol erioed, a da o beth ydi hynny o ystyried y byd mae hi'n byw ynddo a'r yrfa mae hi wedi ei dewis.

Leisa yn fabi
Sut mae dechrau sôn am Leisa? Mae cymaint i'w ddweud. Roedd hi'n un fach brysur - yn gysgwr ciami, ac yn gweld amser bwyd fel rhywbeth anghyfleus a oedd yn torri ar draws y gwaith pwysig o liwio mewn neu ddandlwn babi dols.
Roedd hi'n licio perfformio wrth gwrs, a phan ddaeth ei brawd bach Tomi i'r byd, dyna 'ecstra' eidîal i'w hwrjio i bob is-rôl a orfodwyd arno gan yr actores-gyfarwyddwraig fach binc.
Tomi druan, roedd o'n aml o dan y lach gan ei chwaer fawr, am bechodau nad oedd byth yn cael eu llwyr esbonio. Ond derbyn y dwrdio oedd o, tan iddo fo dyfu'n fwy na hi…
Roedd eisteddfota yn beth mawr yn tŷ ni; ac yn achos Leisa, cyfri'r blynyddoedd, misoedd ac wedyn y dyddiau tan iddi fod yn saith oed - ac yn cael cychwyn yn Ysgol Glanaethwy.

Leisa a'i brawd bach/ecstra - Tomi Llywelyn
Rocket's Island (CBBC) oedd y gyfres gyntaf iddi actio ynddi, yn chwarae rhan Bethany Summer. Yn 10 oed, aeth hi i ffwrdd i fyw mewn gwesty gyda'i chaperone, a finnau ar y ffôn efo hi bob nos yn mynd dros sgript y diwrnod wedyn, ac yn esbonio'r geiriau Saesneg anghyfarwydd.
Wedyn daeth Rownd a Rownd, a'r cyfle i weithio efo tîm o bobl hyfryd o gefnogol a osododd y seiliau i bopeth a ddaeth wedyn.
Dwi mor ddiolchgar i bob un o'r oedolion gofalgar a charedig sydd wedi cynnal fy mhlant ar adegau gwahanol - boed hynny yn yr ysgol, yn y byd gwaith neu ar yr achlysuron rheiny pan ro'n i methu bod efo nhw.
Dwi wedi magu Leisa a Tomi ar fy mhen fy hun ers pan roedden nhw'n fach iawn, a gan mod i wedi gweithio drwy gyfnod eu plentyndod nhw, mae yna adegau heriol wedi bod. Ond mae hynny wedi esgor ar berthynas hynod o glos rhwng y tri ohonom, a faswn i ddim yn newid hynny am y byd.

Uned glos deuluol - Tomi, Beca a Leisa
Leisa ydi'r bos o hyd, neu y bos-o-bell, gan ei bod erbyn hyn yn byw yn Llundain. Mae bod ar wahân yn ystod cyfnod mor arwyddocaol inni gyd wedi bod yn anodd, a ninnau wedi wynebu newidiadau cyffrous a chythryblus fel teulu.
Tra bod Leisa'n delio efo'r ymateb gwbl annisgwyl i'w ffilm Effi o Blaenau, dwi wedi bod yn trio arfer efo bywyd newydd fel aelod o'r Senedd, a phrin ein bod ni wedi cael cyfle i ddal i fyny a phrosesu'r cyfan.
Mae'n wir i ddweud hefyd, onibai am Leisa mae'n ddigon posib na fyddwn i wedi potshian efo gyrfa wleidyddol o gwbl. Daeth isetholiad yn Llanrug yn 2021 yn dilyn marwolaeth drist y cynghorydd sir, ac er 'mod i'n gynghorydd cymuned ar y pryd ro'n i wedi penderfynu peidio sefyll.
Do'n i ddim yn meddwl mod i'r 'teip' i fod yn gynghorydd sir, ond pan wnes i fynegi hynny wrth Leisa, mi ges i lond pen. Roedd hi'n mynnu bod rhaid imi sefyll ac yn ymwrthod â phob esgus dros beidio. Felly sefyll wnes i - hi ydi'r bos, wedi'r cyfan.
Mae Leisa yn ysbrydoli fi bob dydd efo'i dewrder, ei phenderfynoldeb a'i gallu i adnabod be' sy'n bwysig a be' sy' jest yn fân lwch y llawr. Mae hi'n hen ben, ac mi fyddai'n troi ati'n aml i gael ei barn ar beth bynnag sydd gen i dan sylw.
Mae ganddi galon fawr, gwerthoedd cadarn a lot fawr o gyts - ac mae hi'n sicr yn un i'w chael wrth eich ochr mewn adfyd. Dwi'n ddiolchgar amdani bob dydd - fy roced boced anhygoel.
Leisa Gwenllian
Oni wastad yn gwbod bod Mam yn 'chydig o lejand, achos lle bynnag oni'n mynd fyddai 'na rywun wastad yn deud "O, merch Beca Brown wyt ti!" Ond dwi'm yn meddwl i mi cweit werthfawrogi gymaint o lejand ydi hi tan iddi ddechrau yn y Senedd fel AS dros Blaid Cymru ychydig fisoedd yn ôl.
Dwi dal i fethu cweit coelio mai fy mam i ydi hi bob tro mae hi'n codi i siarad - fedra'i dal ddim gwatshad hi heb i'n ll'gada fi ddechrau dyfrio!
Gwleidyddiaeth ydi petha Mam 'di bod erioed. Dwi'n gyfarwydd iawn efo sŵn trafodaethau gwleidyddol ers imi fod yn ddim o beth, felly dydi hi ddim syndod i mi o gwbl mai yn y Senedd mae hi wedi landio - ond eto, mae gweld hi yno fel rhan o grŵp llywodraethol cyntaf Plaid Cymru yn hollol swreal.
Rydan ni'n ofnadwy o debyg mewn lot o ffyrdd. Yn byw bywyd ar ras, yn sdryglo efo trefn, yn teimlo bob dim i'r byw ac yn gallu bod yn ffraegar! Ond dydw i ddim cystal am ddadla â Mam - hi'n sy'n ennill bob tro! Rêl gwleidydd!
'Dan ni'n ffrindia gora ac mae hi fwy fel chwaer fawr i fi na mam. 'Dan ni'n cecru fel dwy chwaer ond hefyd yn caru'n gilydd yn ddiamod. Mi fedra'i ddeud unrywbeth wrthi, ac mae hi wastad yn gwbod yr atab.
Mae Mam wastad wedi bod yn rhyw fath o arwres i fi. Dwi'n cofio gwatshad hi'n gneud ei cholur yn y drych pan oni'n hogan fach, a meddwl 'plîs ga'i dyfu fyny i fod fatha hi'. Mae pawb yn deud 'mod i'n mynd yn debycach iddi hi bob dydd - a dwi mor falch.
Dwi braidd yn chwerw na ches i mo'i chlyfrwch hi, na'i ffordd hi efo geiriau. Mam ydi'r ddynas glyfra yn y byd i fi - oce, heblaw am y Maths! 'Chewch chi neb gwell efo pobl, geiriau ac empathi. Wrth sbïo nôl ar ei gyrfa hi fedra'i ddim coelio faint mae hi wedi ei gyflawni, a hynny i gyd tra'n magu dau o blant ar ei phen ei hun bach.

Leisa a Tomi yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi
A do'n i ddim y plentyn hawsaf o bell ffordd! Dwi'n teimlo'n euog weithiau wrth feddwl am yr holl betha' mae hi siŵr o fod wedi gorfod eu haberthu yn ei gyrfa a'i bywyd personol er mwyn edrych ar fy ôl i, ond dwi'n gwbod na fyddai hi'n newid dim byd.
Mi wnaeth Mam bob dim i gefnogi fi a fy mrawd efo be' bynnag oeddan ni isho gwneud pan roeddan ni'n tyfu fyny. Mi oedd hi'n byw a bod yn y car. O Ganolfan Gerdd William Mathias, i Glanaethwy, i'r cae ffwtbol.
O Rownd a Rownd i weld tiwtoriaid Maths - roedd yr amserlen yn ddi-ddiwadd weithiau. Roeddan ni'n bwyta'n swpar yn y car yn aml iawn! A phan ddaeth yr amser i mi benderfynu trio mynd yn actores - hunllef waetha llawer o rieni! - 'Cer amdani' oedd ateb Mam.
Pan dwi'n cael cyfnodau o ansicrwydd a diffyg hyder mae hi wastad yna i fy annog i ac mae hi mor browd - yn rhy browd weithiau, ac yn gyrru fi'n nyts yn brolio fi wrth bawb!
Yr unig gŵyn arall sydd gen i ydi nad ydi hi 'rioed 'di bod yn fawr o gogydd (sori Mami, ond mi oedd y risotto pys yn sdrygl!). Ond un peth oedd byth yn brin yn ein tŷ ni oedd cariad. Mae Mam yn caru fel neb arall. Mae hi'n un o'r bobl yna sydd jest i fod yn fam - mae o ynddi hi bob tamad.

Fe gafodd Leisa a Tomi eu magu gan eu mam ym mhentref Llanrug, ger Caernarfon
Mae Mam yn ddynas gryf ofnadwy. Dwi 'di gweld hi'n wynebu sawl her a 'dan ni wedi profi cyfnodau anodd fel teulu bach, ond roedd gweld Mam wastad yn dod drwyddi yn gryfach ac yn fwy penderfynol nag erioed yn dangos bod unrhywbeth yn bosib. Fel hogan fach roedd gen i freuddwydion mawr, a Mam oedd y fodel rôl berffaith.
Os oedd hi'n gallu gwneud be' bynnag oedd hi isho yn yr hen fyd yma a hynny ar ei phen ei hun ac efo dau o blant, yna mi fyddwn i'n siwr o roi siot arni hefyd!
Yn ystod fy ngwersi nofio ers talwm, ro'n i'n arfer mynnu bod Mam yn sefyll ar ochr y pwll ac yn gafael yn fy llaw i drwy'r wers - ac i fod yn onest, does fawr ddim wedi newid!
Yndw, dwi'n hogan fawr erbyn hyn ac yn gallu nofio afon bywyd heb gysur llaw fy mam, ond mae gwbod bod hi wastad yna yn golygu'r byd, a'r peth cynta' dwi'n ei wneud pan dan ni'n gweld ein gilydd ydi cydio yn ei llaw. Babi Mam fydda' i am byth!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth

- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020

- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2025
