3 Llun: Wythnos y Glas Caoimhe Melangell

Caoimhe yn ei 'stafell newyddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Caoimhe yn ei 'stafell newydd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r darlithoedd ar fin cychwyn i fyfyrwyr ar draws y wlad ar ôl prysurdeb a hwyl Wythnos y Glas.

Ac un myfyriwr sydd wrthi'n setlo yn ei chartref newydd ar hyn o bryd yw Caoimhe Melangell o Aberystwyth sydd ar fin cychwyn ei chwrs cyfraith a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.

 hithau'n ddiwedd Wythnos y Glas i fyfyrwyr prifysgol Bangor, Caoimhe sydd wedi dewis tri llun sy'n agos at ei chalon yn ystod ei hwythnos gyntaf fel myfyriwr, gan ddweud pam.

Selffi teuluol

Selffi teulol ar y ffordd i FangorFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Selffi teulol ar y ffordd i Fangor

Penderfynais i ddod i Fangor ac aros yn neuadd Gymraeg JMJ achos i'r lle wneud argraff arna i ar fy niwrnod agored yma.

Ro'n i'n teimlo y byddwn i'n setlo mewn prifysgol llai a phawb yn agosach, a dyna'r teimlad ges i yn y ddarlithfa ar y diwrnod agored. Roedd hi'n 'stafell fach a'r gymuned yn teimlo'n un glos.

Dwi wedi bod yma ers llai nac wythnos erbyn hyn a dwi'n gweld gwahaniaeth mawr yn faint o'r Gymraeg sy'n cael ei defnyddio yma i gymharu efo Abersytwyth, sy'n braf.

Mae neuadd JMJ yn hyfryd, dwi'n rhannu fflat cymysg efo saith o bobl eraill a dwi wrth fy modd yn dod i 'nabod pawb. Rydyn ni hefyd wedi cael airfryer gan y brifysgol, ond heb feicrodon hyd yma felly bydd yn rhaid gofyn am hwnna.

Yn y llun yma dwi ar y ffordd i Fangor gyda Mam a Dad. Mae bach o draddodiad gan ein teulu ni erbyn hyn i gymryd selffi yn y car, felly mae'r llun yma yn dangos pa mor agos 'yn ni fel teulu.

Oedd dweud ta-ta wrth Mam a Dad yn haws nac o'n i'n feddwl. O'n i'n meddwl y baswn i'n crio ond doeddwn i ddim. Roedd yr hanner awr cyntaf ar ôl iddyn nhw fynd yn deimlad rhyfedd iawn, ond mae hefyd yn neis teimlo'n annibynnol.

Be' oedd yn bwysig i fi ar ôl dad-bacio yn fy stafell oedd sicrhau 'stafell gysurus faswn i'n hapus i ddod 'nôl iddi.

Mae ffair Wythnos y Glas wedi bod yn wych a fe wnes i brynu posteri i roi ar y waliau sy'n gwneud i fy 'stafell deimlo yn wahanol i be' sy' gyda fi adre.

Ffrindiau newydd

Caoimhe a LeaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Caoimhe a Lea

Dyma Lea, mae hi'n ffrind dwi wedi 'neud ym Mangor. Rydyn ni'n rhannu fflat a dyma ni ar grôl UMCB nos Lun.

Roedd crôl nos Lun yn wych a phob blwyddyn yn gwisgo sheet lliw gwahanol. Y freshers yn gwisgo glas golau, yr ail yn gwisgo glas tywyll, a'r drydedd flwyddyn yn gwisgo porffor.

Mae'r Undeb Cymraeg wedi bod yn wych a mor groesawgar - yn sicrhau bo' ni yn teimlo yn rhan o'r teulu ac mae'n gyfle gwych i ddefnyddio'r Gymraeg hefyd.

Mae'n braf cael cyfle i gysylltu efo pobl gwahanol - do'n i ddim yn 'nabod neb cyn cyrraedd yma.

Ro'n i hefyd yn poeni faswn i ddim yn 'neud unrhyw ffrindie, ond dwi wedi sylwi fod pawb yn yr un gwch sy'n 'neud i fi deimlo'n fwy hyderus yndda fi fy hun achos mae pawb yma i 'neud ffrindiau newydd.

Ffair y Glas

Ffair Y GlasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ffair Y Glas

Y llun ola' dwi wedi ei ddewis yw un i ddangos faint o gyfleoedd gwahanol sydd i gael ym Mangor

Fe es i i Ffair y Glas a sylwi ar yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd gan Bangor i'w gynnig, er mwyn croesawu pobl o wahanol gefndiroedd, a 'neud i chi drial rhywbeth gwahanol. Falle fydd yn rhaid i fi drio'r Western Line and Swing Dance!

Dwi wedi penderfynu ymuno efo cymdeithas hoci achos 'mod i wedi chwarae hoci o'r blaen a dwi'n meddwl y bydd e'n gyfle i fi 'neud mwy o ffrindiau. Hoffwn i ymuno â'r gymdeithas tenis hefyd er mwyn cadw'n heini tra dwi yma.

Ar hyn o bryd dwi'n cymryd pob dydd ar y tro cyn i fy narlithoedd gychwyn.

Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig i fi fod yn agored, i drio stwff newydd ac i gymdeithasu, a jest i fod â hyder yndda i fy hun wrth setlo i mewn.

Hoffwn i hefyd ddymuno pob lwc i bob myfyriwr arall sydd ar fin cychwyn yn eu prifysgol newydd. Mwynhewch, a chofiwch fod pawb arall yn mynd trwy 'run fath â chi.

Gwrandewch ar fyfyrwyr yn trafod eu profiadau yn ystod Wythnos y Glas ar Dros Ginio:

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig