Plac i'r ddynes a ddenodd enwau mawr y byd madarch i'r gogledd

Mary Lloyd WynneFfynhonnell y llun, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru/Ymddiriedolaeth Genedlaethol
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wyddoch chi fod ffwng yng ngogledd Cymru wedi ennyn diddordeb mawr yn ystod yr 19eg ganrif?

Mae'r diolch am hynny i Mary Lloyd Wynne, sy'n cael ei hystyried yn arbenigwraig ffyngau cyntaf Cymru, ac mae plac porffor nawr wedi cael ei ddadorchuddio fel teyrnged i'w hymdrechion a'i gwaith.

Y plac yn cael ei ddadorchuddio o flaen Eglwys Sant Mihangel ym Metws-yn-RhosFfynhonnell y llun, Placiau Porffor
Disgrifiad o’r llun,

Y plac yn cael ei ddadorchuddio o flaen Eglwys Sant Mihangel ym Metws-yn-Rhos

Mary Wynne a'r Marasmius wynneae

Roedd Mary yn fotanegydd a mycolegydd, sef rhywun sy'n astudio ffwng.

Gwyddonydd amatur oedd hi wrth gwrs – nid oedd gan ferched yrfaoedd felly yn ystod Oes Fictoria – ond daeth hi'n ddylanwadol iawn yn ei maes. Gymaint felly fel bod o leiaf pump rhywogaeth o fadarch wedi eu henwi ar ei hôl, gan gynnwys y Marasmius wynneae a'r Leucocoprinus wynneae.

Marasmius wynneaeFfynhonnell y llun, Wikimedia Commons
Disgrifiad o’r llun,

Marasmius wynneae (neu Pearly Parachute) a gafodd ei ddarganfod 'ymysg brigau' ar dir Coed Coch gan Mary Lloyd Wynne

Dechreuodd ei diddordeb mewn ffwng pan symudodd i ystad Coed Coch ger Betws-yn-Rhos, Conwy, ar ôl priodi John Lloyd Wynne yn 1833. Roedd tirwedd coediog yr ystad a faint o law oedd yn disgyn yno yn ei wneud yn lleoliad perffaith i ffwng fridio.

Byddai hi'n gwneud cofnod trylwyr o'r mathau gwahanol o ffwng a oedd i'w canfod yno, gan hysbysu rhai o fycolegwyr ac arbenigwyr y cyfnod am ei chanfyddiadau.

Roedd rhai o enwau mawr y byd ffwng, fel Miles Joseph Berkeley a Christopher Edmund Broome, yn gallu gweld ei bod hi'n wybodus iawn yn y maes ac yn ei chymryd o ddifri' – peth anghyffredin gyda dynes yn y cyfnod yma.

teyrnged i Mary Lloyd WynneFfynhonnell y llun, Wellcome Collection
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llyfr Outlines of British Fungology gan Miles Joseph Berkeley yn 1860 ei gyflwyno i Mary Lloyd Wynne, am ei 'brwdfrydedd' tuag at astudio ffyngau Cymru

Cafodd ei harbenigedd ei atgyfnerthu wrth iddi ddod o hyd i rywogaethau gwbl newydd ar ystad Coed Coch, ac hefyd yng Ngerddi Botaneg Brenhinol yn Kew (o dan drwynau arbenigwyr llawer mwy nodedig), a gafodd eu henwi ar ei hôl.

Roedd ei henw hi yn benodol yn cael ei gyfeirio ato mewn papurau gwyddonol wrth sôn am y canfyddiadau hyn, er mwyn ei gwneud hi'n glir mai ar ei hôl hi oedd y rhywogaeth yn cael ei enwi, yn hytrach nag ystad y teulu Wynne yn gyffredinol.

Yn fwy diweddar, mae sillafiad y rhywogaethau wedi cael eu haddasu – o wynnei i wynneae – sy'n cadarnhau mai ar ôl dynes y cawson nhw eu henwi.

Mary Lloyd WynneFfynhonnell y llun, Bwrdd Ymddiriedolwyr, Gerddi Botaneg Brenhinol Kew
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Mary Lloyd Wynne yn Sir Henffordd yn 1885

I ffwrdd i chwilio am ffwng

Yn ail hanner yr 1800au, daeth Coed Coch yn gyrchfan i fycolegwyr uchel eu bri y cyfnod, gyda 'fungus forays' yn cael eu trefnu yno; teithiau am ychydig o ddyddiau a oedd yn gyfle i wneud gwaith maes ar 'safle mycolegol mwyaf cyfoethog gogledd Cymru'. Byddai'r criwiau yn cael croeso cynnes gan Mary, ac yn profi ei harbenigedd.

Roedd hi hefyd yn cydweithio gyda mycolegydd lleol arall, sef Alfred Osten Walker o Fae Colwyn, i gynnal digwyddiadau fel yma i ystadau eraill yn y gogledd.

Byddai Mary ei hun hefyd yn mynychu 'forays' tebyg i fannau eraill o ddiddordeb i edmygwyr ffwng; teithiodd yn helaeth ledled y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop i chwilota am ffyngau.

FfyngauFfynhonnell y llun, Bwrdd Ymddiriedolwyr, Gerddi Botaneg Brenhinol Kew
Disgrifiad o’r llun,

Darluniau o ffyngau gan Mary Lloyd Wynne, sydd yn cael eu cadw yn llyfrgell y Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew

Wrth i gasglu planhigion ddod yn ffasiynol, roedd perygl y byddai rhywogaethau prin yn cael eu colli am byth, felly byddai Mary yn tynnu lluniau o'r gwahanol fathau y byddai'n dod ar eu traws ac yn anfon samplau draw i'r Gerddi Botaneg yn Kew er mwyn iddyn nhw gael eu hastudio a'u cofnodi.

Heddiw mae albymau o'i darluniau cywrain o ffyngau a nifer o samplau a gafodd eu casglu ganddi dal yn cael eu cadw yn y llyfrgell yn Kew.

Cofio ei henw

Bu farw yn Y Swistir yn 1895. Rhyw ddwy filltir o'i chartref yn Coed Coch, mae plac porffor iddi nawr i'w weld yn Eglwys Sant Mihangel ym Metws-yn-Rhos.

Plac PorfforFfynhonnell y llun, Placiau Porffor

Oherwydd ei bod hi'n ddynes, roedd yna sefydliadau gwyddonol a oedd yn gwrthod ei derbyn fel aelod, doedd hi ddim yn cael siarad mewn cynadleddau, ac roedd ei henw yn aml yn cael ei hepgor o restrau o fycolegwyr Prydeinig.

Chafodd hi ddim ei gwneud yn Gymrawd gyda'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol nes 1886, er bod cyfeiriadau wedi bod tuag ati, ei chanfyddiadau pwysig a'i brwdfrydedd tuag at gasglu ffwng, mewn papurau gwyddonol ers 1860.

Er fod ei henw yn hen gyfarwydd i fycolegwyr, nid yw Mary Lloyd Wynne yn adnabyddus iawn i bobl y tu allan i'r maes.

Ond o bosib, bydd y plac yma nawr yn newid hynny.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.