Lliwen Glwys a'r 'wefr bob dydd' o gyflwyno Cyw

- Cyhoeddwyd
Mae Lliwen Glwys wedi gwireddu breuddwyd drwy gychwyn fel cyflwynydd newydd Cyw ar S4C ond yn diolch i'w phrofiadau gyda'r mudiad y Ffermwyr Ifanc am ei llwyddiant yn cael y rôl, yn arbennig un perfformiad cofiadwy pan fu hi'n canu ac yn dawnsio fel Tina Turner.
Dyma'r fideo wnaeth Lliwen o Fachynlleth anfon i mewn fel rhan o'i hymgais i fachu'r rôl ac, er mawr syndod iddi, mi gafodd y swydd, fel mae'n ei esbonio wrth Cymru Fyw:
"Gan mod i heb weithio ym maes cyflwyno o'r blaen, doedd gen i ddim showreel. Ond mi oedd gen i fideos ohona i'n cystadlu yn eisteddfod y ffermwyr ifanc yn meimio i gerddoriaeth fel Tina Turner yn canu Proud Mary.
"Mi wnaeth pawb ddod ar y llwyfan yn canu a dawnsio a chael bach o hwyl efo fo.
"Felly anfonais i hwnna i fewn gan obeithio y byddai'n rhoi gwên ar wyneb rhywun. Ac ychydig ar ôl hynny gefais i e-bost yn cadarnhau bod fi wedi cyrraedd y cam nesa, sef clyweliad yn y stiwdios ym Mae Caerdydd."

Lliwen yn perfformio fel Tina Turner mewn eisteddfod mudiad y ffermwyr ifanc
Erbyn hyn mae Lliwen wedi bod yn cyflwyno Cyw ers dechrau mis Medi, wedi iddi gael ei chyflwyno i'r gynulleidfa yn Eisteddfod y Garreg Las ac mae'n mwynhau'r swydd yn fawr: "Oedd o'n deimlad anhygoel a dwi dal ddim yn medru credu'r peth achos doedd gen i ddim cefndir ym maes teledu neu ym maes perfformio.
"Roedd o'n deimlad anhygoel a dwi dal yn cael gwefr bob dydd," meddai.
Perfformio
Fel cyn-aelod o Gôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru ac hefyd aelod o Gwmni Theatr Maldwyn, mae Lliwen yn gyfarwydd â pherfformio ond yn fwy na dim mae hi'n diolch i fudiad y ffermwyr ifanc am y cyfleoedd gafodd hi sy' wedi arwain hi at ei swydd newydd: "'Swn i'n deud bod mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi bod yn amhrisiadwy, dwi'n teimlo mai dyna lle wnes i fagu hyder.
"O'n i'n arfer bod ychydig bach yn fwy ansicr, yn enwedig yn fy arddegau. Doedd gen i ddim llawer o hyder ac o'n i'n nerfus iawn cyn camu ar lwyfan.
"Ond trwy fy mhrofiadau gyda'r mudiad, dwi wedi dod yn fwy cyfforddus yn perfformio ar lwyfan a gwneud pethau buasech chi ddim fel arfer yn eu gwneud ar lwyfan fel gwisgo fel Tina Turner neu Meatloaf.
"Ond yn ogystal â chystadlu mewn eisteddfodau, mae pethau fel y cystadlaethau siarad cyhoeddus wedi bod yn werthfawr iawn hefyd.
"Dwi'n credu bod o'n sgil bwysig iawn i bobl ifanc."

Lliwen ar lwyfan eisteddfod y ffermwyr ifanc wedi ei pherfformiad fel Tina Turner
Unigrwydd cefn gwlad
Wedi ei magu ar fferm yn y canolbarth mae Lliwen hefyd yn gweld pwysigrwydd y mudiad yn helpu gyda'r broblem o unigrwydd yng nghefn gwlad: "'Dan ni'n gwybod bod unigrwydd yn gallu bod yn broblem eitha' mawr yn enwedig yn ein cymunedau gwledig anghysbell ni.
"Felly mae mor bwysig bod gan bobl ifanc y gofod yna i ddod ynghyd, cael hwyl ond hefyd dysgu sgiliau gwerthfawr.
"Dw i'n credu bod yna fwy o ymwybyddiaeth am unigrwydd wedi bod ers Covid, 'swn i'n deud pan oedd pobl yn gaeth i'w cartrefi a ddim yn gallu cyfarfod wyneb yn wyneb.

Lliwen gyda thîm cyflwyno Cyw – Griff Daniels, Dafydd Lennon ac Elin Haf
"Wnaethon nhw gynnal lot o ddigwyddiadau ar-lein fel bod pobl yn gallu cyfarfod a chael sgwrs a gwneud gwahanol weithgareddau. Roedd yn bach o ddihangfa yn hytrach na jyst gweithio adre a gallu bod gyda'ch teuluoedd ac ati.
"Ac ers hynny mae Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cynnal ymgyrchoedd yn ceisio codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Achos pan 'dach chi'n byw yng nghefn gwlad, 'dach chi ddim yn gwybod lle mae'r cymorth agosaf atoch chi.
"Felly mae'n hollbwysig gwybod at le allwn ni droi."
Newid byd
Mae Lliwen wedi gweithio fel cyfieithydd ers graddio o Brifysgol Aberystwyth ac mae wedi profi newid byd eleni wrth symud o gefn gwlad i'r brifddinas er mwyn gweithio ar Cyw.
Meddai: "Dwi'n mwynhau cymryd yr amser i ymgyfarwyddo gyda gwahanol ardaloedd. Pan 'dach chi'n ymweld â Chaerdydd fel arfer, os ydych chi'n dod o'r canolbarth neu'r gogledd, chi'n gyfarwydd gyda chanol y ddinas.
"Ond mae'n neis gallu dod i adnabod fy milltir sgwâr newydd i a mynd am dro, dod o hyd i siopau bach annibynnol a pethau felly. Ac mae 'na gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd hefyd. Felly, mewn ffordd, dw i ddim yn teimlo fel mod i'n rhy bell o adre.
"Dwi yn hiraethu am gefn gwlad, y mynyddoedd, y llynnoedd, popeth.
"Mae hi'n neis mwynhau byw yn y ddinas ond dwi hefyd yn ddiolchgar bod fi yn gallu mynd am adref bob hyn a hyn."

Lliwen yn cyflwyno ar Cyw
Yr iaith Gymraeg
Fel wyneb newydd Cyw, mi fydd Lliwen yn cyflwyno'r rhaglenni plant ar S4C ond hefyd yn cymryd rhan yn sioeau byw Cyw ledled Cymru.
Meddai am y gwasanaeth: "Dwi'n meddwl bod o'n bwysig achos bod o'n cynnig lle diogel a hwyliog i blant weld a chlywed y Gymraeg yn naturiol a chlywed iaith lafar Gymraeg hefyd.
"Dwi'n credu bod o'n help i'r iaith i fod yn rhan o fywyd bob dydd, nid yn unig plant ond i rieni a'u teuluoedd nhw hefyd. Ac mae hynny yn bwysig iawn. Dwi'n credu bod o'n werthfawr iawn hefyd i rieni sydd eisiau dysgu Cymraeg gyda'u plant nhw.
"Ac mae'r sioeau a'r perfformiadau 'da ni'n 'neud ledled Cymru yn cynnig cyfle i'r plant ifanc yma weld hynny yn eu cymunedau nhw, yn eu hardaloedd lleol, gweld y Gymraeg ar lwyfannau, yr hwyl, y canu ac y dawnsio. A dangos bod y Gymraeg yn eitha cŵl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2024
