Gornest Tyson Fury ac Anthony Joshua am fod 'yn wych i economi Caerdydd'

Tyson Fury (chwith) ac Anthony Joshua (dde)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ornest rhwng Tyson Fury (chwith) ac Anthony Joshua (dde) yn digwydd yn Stadiwm Principality, Caerdydd, ar 11 Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau Caerdydd yn dweud y bydd yr ornest rhwng Anthony Joshua a Tyson Fury yn rhoi "hwb mawr" i economi Cymru.

Bydd yr ornest rhwng y ddau gyn-bencampwr pwysau trwm yn digwydd yn Stadiwm Principality, Caerdydd, ar 11 Rhagfyr.

Mae landlordiaid yn dweud eu bod yn archebu tua thair gwaith y nifer o gasgenni cwrw ag y maen nhw'n eu prynu fel arfer oherwydd y galw ychwanegol, ond mae pryder ymysg rhai trigolion lleol am yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus.

Mae prisiau gwestai wedi codi'n syfrdanol ers cyhoeddi'r digwyddiad, gyda phecynnau premiwm ar gyfer noson yr ornest yn costio dros £10,000.

Dywedodd Nick Newman, cadeirydd Cardiff Night Forum a rheolwr naw tafarn, ei fod yn "hapus iawn" i weld "digwyddiad mawr gwych" arall yn dod i'r ddinas.

"Dyma'r stadiwm gorau yn y byd, ac yn fy marn i, y ddarpariaeth lletygarwch orau, yn llythrennol ar garreg drws y stadiwm," meddai.

Dywedodd y bydd tafarnau ledled y ddinas yn "cynllunio" i gael cwrw yn y seler a bwyd yn yr oergelloedd er mwyn paratoi ar gyfer y nifer mawr o gwsmeriaid.

Dywedodd eu bod wedi cytuno gyda Chyngor Caerdydd ac Adran Drwyddedu Heddlu'r De y gall busnesau wneud cais am drwydded oriau estynedig.

"Mae hynny'n golygu y gallwn ni werthu alcohol tan 05:30, ac yna cau'r safle am 06:00," meddai.

"Mae'n wych i'r economi. Mae'n wych o ran swyddi. Mae'n wych i'r teimlad o fewn y ddinas."

Twm Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Debyg fyddwn ni'n prynu tair gwaith y nifer o gasgenni â ni'n gwneud fel arfer," meddai Twm Jones

Mae Twm Jones yn is-reolwr cyffredinol On the River – gyferbyn â Stadiwm Principality – ac yn dweud eu bod nhw'n "gyffrous iawn" am y digwyddiad.

"Debyg fyddwn ni'n prynu tair gwaith y nifer o gasgenni â ni'n gwneud fel arfer," meddai.

"Mae'n rhaid i ni hefyd newid ein rota yn gyfan gwbl a'n trefniadau staffio."

Maen nhw'n disgwyl cael rhyw 200 o bobl yn y lleoliad ar noson yr ornest, a dywedodd Mr Jones eu bod yn bwriadu aros ar agor "o leiaf cyn yr ornest, ac yn ôl pob tebyg ar ôl hynny hefyd".

"Mae pethau'n gallu mynd yn fywiog, ond mae'n lot o hwyl," ychwanegodd.

'Digwyddiadau fel hyn yn hunllef'

Mae Sarah Hill, sy'n byw yn agos i Stadiwm Principality, yn anghytuno ac yn dweud bod digwyddiadau o'r fath yn "hunllef".

Dywedodd fod "pob digwyddiad mawr yn Stadiwm Principality yn anghyfleustra i'r bobl sy'n byw yma".

"Mae'r ddinas gyfan yn cau. Felly, os ydych chi eisiau mynd o'r orsaf drenau i'ch tŷ, mae'n rhaid i chi fynd allan o'ch ffordd dim ond i gael tacsi," meddai.

Dywedodd y gall tacsis "costio ffortiwn" ar ddiwrnodau digwyddiadau, oherwydd bod Uber yn codi eu prisiau pan fo'r galw yn uwch.

'Buddion economaidd sylweddol i'r ddinas'

Dywedodd David Chapman, Cyfarwyddwr Gweithredol UK Hospitality Cymru, y bydd yr ornest yn rhoi "hwb sylweddol" i fusnesau lletygarwch Caerdydd, gyda'r galw am westai yn y ddinas yn parhau i fod yn "uchel iawn".

Mae'n annog pobl i fod yn amyneddgar gyda'r staff sy'n delio â llif mawr o geisiadau ac ymholiadau.

"Mae gwestai wedi arfer ymdopi â galw sylweddol, a bydd ganddyn nhw staff ymroddedig i groesawu gwesteion a sicrhau eu bod yn cael amser gwych," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru eu bod yn gweithio'n agos gyda threfnwyr y digwyddiad i ddarparu "capasiti ychwanegol i Gaerdydd" er mwyn helpu cwsmeriaid i ddychwelyd adref yn oriau mân y bore.

"Rydym bellach yn gweithio ar gynllun gwasanaeth dros dro ac ar yr holl drefniadau eraill sydd eu hangen i gynnal digwyddiad o'r maint hwn yng Nghaerdydd.

"Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth maes o law," ychwanegodd.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd fod gan y digwyddiad y potensial i ddod â "buddion economaidd sylweddol i'r ddinas ac i ddenu ymwelwyr o bob rhan o'r DU a thu hwnt".

"Mae gan Gaerdydd dreftadaeth focsio falch a hanes cryf o gynnal digwyddiadau mawr," meddai

"Mae'r ornest rhwng Tyson Fury ac Anthony Joshua yn un o'r rhai mwyaf disgwyliedig yn hanes bocsio Prydain, ac rydym wrth ein bodd bod Caerdydd wedi'i dewis i'w chynnal."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig