O Charlotte Church i garafanau: Hoff luniau'r ffotograffydd Gareth Iwan Jones

Charlotte Church, The DreamingFfynhonnell y llun, Gareth Iwan Jones
  • Cyhoeddwyd

"Dwi'n caru'r cyfle i gamu i fyd rhywun arall, hyd yn oed am gyfnod byr, a chreu portreadau sy'n teimlo fel bod nhw'n gysylltiedig â'r person a'r lle maen nhw'n byw ynddo."

Mae Gareth Iwan Jones yn ffotograffydd portreadau a rhaglenni dogfen sy'n arbenigo mewn lluniau o bobl.

Gyda'i deulu yn dod o Sir Gaerfyrddin, mae'r ffotograffydd, sydd erbyn hyn yn byw ym Mryste, wedi tynnu llun nifer o wynebau adnabyddus Cymreig gan gynnwys Michael Sheen a Charlotte Church.

Dyma ei hoff luniau:

Ffawydden, 2020

Ffawydden, 2020Ffynhonnell y llun, Gareth Iwan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ffawydden, 2020

Mae'r llun uchod yn dod o brosiect ffotograffiaeth personol o'r enw Tree. Mae'r prosiect yn deillio o gyfnodau clo Covid-19 a'r effaith gafodd hynny ar fy ngwaith fel ffotograffydd portreadau llawrydd yn 2020.

Gan fod hi'n amhosib i dynnu lluniau o bobl oherwydd y cyfyngiadau, mi wnes i droi fy sylw at fy nghariad at goed gan drio tynnu portreadau o'r cewri tawel hyn mewn ffordd unigryw.

Dewisais dynnu'r lluniau yn erbyn awyr y wawr neu'r cyfnos, gan oleuo'r coed gyda help dronau i greu naws arallfydol. Enillodd y prosiect wobr yng nghategori Tirluniau y Sony World Photography Awards, oedd yn anhygoel o ystyried fod y llun wedi dod o sefyllfa heriol iawn.

Charlotte Church, 'The Dreaming', Cwm Elan, 2025

Charlotte Church, The DreamingFfynhonnell y llun, Gareth Iwan Jones

Weithiau mae portreadau jest yn digwydd ac mae hwn yn enghraifft dda o hynny.

'Naethon ni dynnu llawer o luniau gwych tu allan i gartref Charlotte, The Dreaming, yng Nghwm Elan. Ond tuag at ddiwedd y sesiwn, sylwais ar fasin fawr yn llawn glaswellt pampas yn y tŷ. Cymerais ychydig o luniau a gweld ar unwaith fod y glaswellt yn debyg i adenydd angel.

Ynghyd â thatŵs neidr Charlotte, roedd yn teimlo fel adlewyrchiad symbolaidd o sut mae hi wedi trawsnewid – o ryddhau ei halbwm cyntaf, Voice Of An Angel, i ble mae hi heddiw.

Mab ar sleid, Parc Antur Longleat, 2026

Mab ar sleid, Parc Antur Longleat, 2026Ffynhonnell y llun, Gareth Iwan Jones

Dwi'n dwlu ar y llun yma o fy ngwraig yn helpu fy mab i lawr sleid ym mharc antur Longleat. Mae'n crynhoi'n berffaith, rhywsut, fy mywyd i ar hyn o bryd: bywyd prysur a braidd yn anhrefnus, gyda fy ngwraig yn ceisio dal gafael ar bethau a gwên lydan ar wyneb fy mab.

Y cysylltiad emosiynol â'r llun yw'r cyswllt mwyaf pwerus i fi weithiau. Mae'n debyg na fyddai'r llun yma'n golygu'r un peth i unrhyw un arall, ond i fi, mae'n dal eiliad fach, benodol iawn yn ein bywydau, ac mae hynny'n ei gwneud yn un o fy ffefrynnau.

Yasmine, swyddog tân, gorsaf dân Hardley, 2026

Yasmine, swyddog tânFfynhonnell y llun, Gareth Iwan Jones

Dyma bortread diweddar o swyddog tân ar alwad yn ystod ymarfer hyfforddi yng Ngorsaf Dân Hardley yn Sir Hampshire. Mae'n adlewyrchu beth dwi'n hoffi am ffotograffiaeth: tynnu lluniau o bobl gyffredin yn eu amgylchedd eu hunain.

Dwi'n caru'r cyfle i gamu i fyd rhywun arall, hyd yn oed am gyfnod byr, a chreu portreadau sy'n teimlo fel bod nhw'n gysylltiedig â'r person a'r lle maen nhw'n byw ynddo.

Carafán, 2015

Carafan, 2015Ffynhonnell y llun, Gareth Iwan Jones

Mae'r ddelwedd hon yn adlewyrchu'r themâu dwi â fwyaf o ddiddordeb mewn tynnu lluniau ohonynt, sef bywydau ac is-ddiwylliannau pobl.

Tynnwyd y llun pan o'n i'n paratoi at brosiect fawr a ddaeth yn llyfr ffotograffau am fyd lliwgar gwyliau mewn carafán. Ro'n i wedi cael y syniad o ganolbwyntio fy mhrosiect nesaf ar yr hobi Prydeinig iawn hwn, ac yn y diwedd mi fues i am flwyddyn yn teithio o gwmpas y DU yn tynnu lluniau o'r bobl, y llefydd a'r cymeriadau a ddaeth ar fy nhraws.

Dwi'n hoff iawn o'r ddelwedd hon oherwydd dwi'n cofio'n glir edrych arni a gwybod, yn y funud honno, fod y syniad yn mynd i weithio.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb