Sioe arbennig i ddathlu canrif o'r Stiwt

Lluniau 'cut-out' o Stifyn Pari, Mar Lewis Jones a Llŷr Williams o flaen neuadd y stiwt yn RhosFfynhonnell y llun, Stiwt / BBC
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r penwythnos hwn yn nodi 100 mlynedd ers i'r Stiwt agor ym mhentref Rhosllannerchrugog, Wrecsam.

Cafodd y Stiwt ei chodi drwy ymdrechion ac arian glowyr lleol.

Rhwng 1924 ac 1926 fe wnaeth Sefydliad Lles y Glowyr benderfynu rhoi ceiniog o werthiant pob tunnell o lo o'r gweithfeydd lleol, tuag at godi theatr yn y gymuned. Fe wnaeth hynny godi bron i £18,000 er mwyn adeiladu'r Stiwt.

Yn hwyrach, byddai glowyr yr ardal yn rhoi dwy geiniog o'u cyflog wythnosol tuag at gostau cynnal a chadw yr adeilad.

I ddathlu'r garreg filltir mae Sioe arbennig o'r enw Ymhen Can Mlynedd wedi'i threfnu, gyda llu o bobl enwog o Rhos yn cymryd rhan.

Bethan Jones yw cyd-awdur a chynhyrchydd y digwyddiad, ac roedd hi'n sôn am y dathliadau ar raglen Dros Frecwast:

Bethan JonesFfynhonnell y llun, Y Stiwt
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Jones yw cyd-awdur a chynhyrchydd y digwyddiad

"Sioe ddwyieithog yn adlewyrchu'r ardal ar y ffin yw hi, mae hi yn nhafodiaith y Rhos ac mae 'na grŵp lleol yn cymryd rhan yn ogystal â cherddorion ac actorion lleol.

"Mae Stifyn Parri, Caitlin Drake, Dylan Davies, Mark Lewis Jones a'r pianydd byd-enwog Llŷr Williams yn cymryd rhan.

"Hefyd mae Côr y Rhos, Cantorion Rhos, Grŵp Llefaru Lleisiau Llannerch, Theatr Ieuenctid Rhos, Côr Ieuenctid Rhos felly mae hi yn noson wych," meddai.

Mae'r enwau enwog sydd yn cymryd rhan eisoes wedi talu teyrnged am ddylanwad y Rhos ar eu gyrfaoedd.

Nôl ym mis Ebrill wrth ddarlledu o'r Stiwt ar raglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru, dywedodd Mark Lewis Jones fod y Rhos yn ei "esgyrn ac yn ei waed".

Fe dalodd deyrnged i'r hen adeilad hefyd a dweud "fod y cyfan wedi dechrau yn y Stiwt" ac mai dyna'r "agoriad iddo i'r celfyddydau".

O ran y sioe fydd yn digwydd dros y penwythnos, fe wnaeth Bethan rhoi blas o beth allai'r gynulleidfa ei ddisgwyl.

"Mae bach o ffilm, bach o gomedi. Fyddwn ni yn edrych nôl ar hanes y Stiwt ac edrych ymlaen at y dyfodol hefyd.

"'Da ni gyd wedi cael ein magu yn yr ardal, mae o wedi bod yn adeilad pwysig yn ein datblygiad ni o fewn y byd adloniant a diwylliannol felly mae ein dyled ni yn fawr i'r glowyr wnaeth helpu i adeiladu'r Stiwt, a'r tîm lleol yn y 1970au, 80au a 90au am achub y Stiwt wnaeth bron â chau.

'Theatr anhygoel'

O ran edrych ar yr hanes, roedd Bethan hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd y dyfodol a'r ymdrechion i warchod y Stiwt.

"Rydyn ni'n bentref mawr ac mae gynno ni theatr ac adnoddau anhygoel a 'da ni'n mawr obeithio y byddwn yn mynd o nerth i nerth gyda'r gymuned yn cael bod yn rhan annatod o'i defnydd hi.

"Roedd o'n le yr oedden ni'n cael ein ysbrydoli, roedd o'n le hefyd ar gyfer snwcer, gwyddbwyll ac roedd tim pêl-droed aelwyd y Rhos yn defnyddio'r Stiwt i newid ar gyfer y gemau ffwtbol.

"Mae wedi cael ei defnyddio gan yr aelwyd gyfan yn y cyfnod yna ac mae'n 100 mlynedd i heddiw pan agorwyd hi," meddai.

Julie JonesFfynhonnell y llun, Geraint W Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llun o ymarferion y sioe, dyma Julie Jones fydd yn cymryd rhan

Wrth edrych at y dyfodol fe dalodd Bethan deyrnged i'r holl wirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed i gadw'r Stiwt i fynd ar gyfer y gymuned gyfan.

Roedd hi hefyd yn pwysleisio fod y Stiwt yn fwy nag adeilad, ac yn symbol o'r glowyr weithiodd mor galed i sicrhau adnodd mor bwysig i'r gymuned leol.

"Mae wedi bod yn ganolfan anhygoel o bwysig i ni gyd i adeiladu balchder yn yr ardal. Mae'n adeilad sy'n perthyn i'r gymuned, dyna pam adeiladwyd hi, i bobl y Rhos ac mae wedi bod yn ganolfan yr iaith Gymraeg i'r ardal.

"Roedd hi'n le lle oedd pobl yn mynd o'i geni i'r diwedd.

"Mae'r diwydiant glo wedi mynd a dyna beth sydd gynno ni ar ôl i gofio am rheiny.

"Mae Stiwt yn ganolfan ddiwylliannol y gymuned. Mae'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac mae hi'n anodd iawn cynnal hen adeiladau ac mae na lot o waith i'w chadw hi.

"Ond, mae'r gymuned yn benderfynol i beidio gadael yr adeilad yma i fynd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: