Dwy fam eisiau creu lle arbennig i blant ag anghenion yng Ngwynedd

Kim a Leian
- Cyhoeddwyd
Mae dwy fam o ogledd Cymru yn gobeithio sefydlu Hwb Heddwch i gefnogi teuluoedd a phlant gydag anghenion arbennig.
O dan yr enw Plant Ni, mae Kim Williams Adams o Bwllheli a Leian Roberts o Benrhyndeudraeth, a 13 o rieni eraill yn gobeithio casglu arian er mwyn creu lle pwrpasol i blant ag anghenion arbennig a'u rhieni gyfarfod ar unrhyw adeg o'r dydd.
Yn ôl ym mis Mawrth 2026 fe sgwrsiodd Cymru Fyw gyda Leian a Kim am eu podlediad Llais Mam sy'n rhoi llais gonest i'w profiadau fel mamau i blant ag anghenion.
Arno mae Leian yn trafod ei phrofiadau fel mam i Twm, 10 oed, sy'n byw gydag awtistiaeth, a Kim yn trafod ei siwrne hithau fel mam i Caio, 10 oed, sy'n byw gydag anghenion dwys.

Caio a Twm ar ôl diwrnod yn Ysgol Hafod Lon
Ar ôl sgwrsio â chymuned o rieni yng ngogledd Cymru sy'n wynebu'r un heriau â nhw fel rhieni i blant ag anghenion, daeth eu gweledigaeth am Hwb Heddwch.
Eglurodd Leian ar raglen Bore Cothi Radio Cymru: "Be' fasa ni yn licio ydi bod gynnon ni adeilad y gallwn ni roi soft play ynddo, er enghraifft.
"Mae Twm a Caio yn 10 oed. Os fasa nhw yn mynd i soft play arferol fasa fo ddim yn gweithio.
"Mae pobl yn sbio arnyn nhw, maen nhw yn edrych allan o le achos bod nhw yn hogia' mawr.
"'Dan ni isio 'neud soft play sy'n hollol inclusive, os 'dach chi'n 20 efo anghenion.
"A hefyd cyfle i rieni gyfarfod efo rhieni eraill i gael trafod eu heriau nhw a gwybod bod yna gymorth."

Kim a Leian yn recordio eu podlediad Llais Mam
Ychwanegodd Kim: "'Dan ni'n gobeithio gallu 'neud caffi yna, tyfu llysia', siop ella - mae o'n endless be' 'dan ni gyd fel rhieni isio i'n plant ni a bod ein plant ni gyd yn gallu dod yna i weithio."
Ar hyn o bryd mae'r criw brwd o rieni yn hel syniadau i gasglu arian ar gyfer eu gweledigaeth ac wedi sefydlu tudalen Plant Ni ar Facebook ac Instagram.
Yn ôl Leian, gallai'r Hwb Heddwch, o'i wireddu, fod yn esiampl i ardaloedd eraill ei efelychu ledled Cymru.
"Y cam nesa' i ni ydi hel pres, does yna ddim byd 'dan i'n gallu neud heb y pres, a chael yr adeilad ar ôl hynna, rhylwe yn ne Gwynedd yn ddelfrydol.
Ychwanegodd Kim: "O leiaf wrth 'neud yr hwb yma, bod yna 'wbath i'n plant ni gyd, eu bod nhw'n gallu gweithio, mynd allan yna. Mi rydan ni gyd yn passionate iawn am y peth."
Darllenwch ragor am brofiadau Kim a Leian:
Dwy fam eisiau rhannu profiadau gonest o fagu plant ag anghenion arbennig
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Chwefror

- Cyhoeddwyd21 Ionawr

