Ateb y Galw: Mel Owen

Melanie OwenFfynhonnell y llun, Mel Owen
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n ddigrifwr, yn gyflwynydd radio, yn sgriptiwr ac yn awdur...

Mel Owen, sy'n hanu o Aberystwyth, sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw heddiw.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Yn cerdded i'r siopau gyda fy mam-gu pan oeddwn i'n dal i fyw yn Rhydychen (lle cefais i fy ngeni).

Yn anffodus wnaethon i golli fy mam-gu pan o'n i'n ifanc iawn, a does gen i ddim llawer o atgofion gyda hi. Felly, mae'n arbennig i fi bod hi yn fy atgof cyntaf.

Ro'n i'n mynnu cael cerdded ar ben wal wrth iddi dal fy llaw... dwi'n siŵr o' fi'n bod yn reit poen yn y pen ôl (s'dim lot wedi newid amdana'i).

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le yng Nghymru ydy promenâd Aberystwyth. Mae'r arogl yn mynd â fi yn ôl i gymaint o atgofion melys.

O gerdded ar brynhawn Dydd Sul gwyntog, i wylio'r tonnau stormus o'r car gyda fy rhieni, i gynna coelcerth ar y traeth gyda fy ffrindiau ysgol. Mae gen i gymaint i'w gofio 'na.

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Ym mis Chwefror 2025 wnes i ddod â fy awr gyntaf o stand-yp, Chunky Monkey, adre' i Gaerdydd.

Ro'n i wedi dechrau datblygu'r sioe yma yn y brifddinas, cyn mynd â hi ar daith o amgylch y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhediad yn Ffrinj Caeredin.

Yna, wnes i'r perfformiad ola' ohoni yn ystafell Cabaret yng Nghanolfan y Mileniwm.

Doeddwn i ddim yn gallu credu bod y sioe wedi gwerthu mas, gyda dros 150 o bobl wedi dod jyst i fy ngweld i'n malu awyr am nosweth.

Wrth fy ochr roedd gen i Mirain Iwerydd yn DJ'io wrth i'r dorf ddod i fewn, a Caryl Burke ac Alys Hedd yn fy nghefnogi fel warm-ups. Roedd yn noson freuddwydiol!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Swnllyd, egnïol, lliwgar.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Wnes i sylw reit hamddenol unwaith, wrth wylio Love Actually gyda fy ffrind Nel, am ba mor neis y bydde hi i rywun dy gwrdd yn y maes awyr gyda baner fawr.

Naw mis lawr y lein, roeddwn i'n mynd i ymweld â Nel allan yn Ninas Mecsico, a dyna ble oedd hi yn Arrivals gyda banner mawr yn fy nghroesawu! Am ciwt.

Dynes yn gafael ar arwyddFfynhonnell y llun, Mel Owen
Disgrifiad o’r llun,

Croeso i Fecsico!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?

Unwaith wnes i (ar ddamwain) ddwyn croissant gan Hugh Jackman. Wnes i'n llythrennol roi'r croissant oedd yn ei law o ar y pryd, yn uniongyrchol yn fy ngheg i.

Mae'n stori hir a galla'i ddim ail-fyw y trawma'n gyfan gwbl eto, ond os ydych chi eisiau gwybod yr holl fanylion diarhebol, bydd rhaid i chi ddarllen fy llyfr Oedolyn(ish!).

Daeth llyfr Mel, Oedolyn (ish!), allan yn 2024Ffynhonnell y llun, Mel Owen
Disgrifiad o’r llun,

Daeth llyfr Mel, Oedolyn(ish!), allan yn 2024

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n llefain o hyd. Y tro diwethaf oedd wrth i fi wrando ar lyfr llafar Atmosphere gan Taylor Jenkins Reid.

Wna'i ddim rhoi dim spoilers, ond wnaeth y bennod ola' hela fi i grio gymaint roedd rhaid i fi dynnu'r car drosto a dod at fy mhethe.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

O, llwyth! Rydw i'n un drwg am gytuno i gynlluniau rydw i'n gwybod yn bendant dydw i ddim eisiau gwneud, a wedyn hala wythnosau'n difaru.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Does 'na ddim lot o lyfrau rydw i'n eu hail-darllen, ond tro ar ôl tro dwi'n mynd yn ôl i waith Nora Ephron, yn enwedig I Feel bad About My Neck. Wnes i ddod ar draws hi'n weddol hwyr a meddwl fy mod i wedi darganfod rhyw awdur ffabiwlas random.

Dechreuais i ddweud wrth bobl 'OMG ydych chi wedi clywed am yr awdur ANHYGOEL 'ma o'r enw Nora Ephron' ac oedd pawb fel 'ummm... ie, mae'n hynod enwog'. Am embarassing!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

Michelle Obama. Rydw i eisiau gofyn gymaint iddi, ond mwy na dim dwi eisiau gwybod beth yw upper body regime hi yn y gampfa.

Mae ei breichiau hi'n *chef's kiss*. Yn amlwg wna'i ofyn y stwff pwysig iddi hefyd, ond dwi wir angen gwybod beth yw PB hi ar y bench press.

Michelle ObamaFfynhonnell y llun, Ethan Miller / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

* chef's kiss *

Dyweda rhywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i ofn enfawr o ET. Ers o'n i'n blentyn rydw i wedi colli fy mhen os ydy'r hen greadur hyll 'na ar y teledu. Bob Nadolig roedd Mam yn trial roi exposure therapy i fi wrth roi'r ffilm arno, a bob tro roeddwn i'n beichio crio.

Dwi'm lot yn well nawr i ddweud y gwir.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Nofio yn y môr, bwyta heb deimlo'n euog, dweud wrth bawb dwi'n caru gymaint maen nhw'n meddwl i fi, rhoi brwsh i fy ngheffylau, cwtshio fy nghi a cherdded lawr y prom yn Aberystwyth.

CiFfynhonnell y llun, Mel Owen
Disgrifiad o’r llun,

Cwtsys gyda'r ci!

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Mae yna lun o fi, tua 6 neu 7 mlwydd oed, yn canu karaoke. Dwi mewn pyjamas gyda'r boyband Blue ar y top a rydw i'n gorwedd yn ddramatig ar y llawr, meicroffôn yn fy llaw.

Pan ro'n i'n ifanc, roeddwn yn gwneud i fy nheulu fy ngwylio i'n perfformio I Will Survive gan Gloria Gaynor, gyda phob sesiwn yn gorffen gyda fi ar y llawr fel rhyw Hollywood starlet yn gorwedd ar biano.

Pob tro rydw i'n colli hyder, neu ddim cweit yn credu yn fy hunan, rydw i'n meddwl yn ôl i'r merch ridiculous yna ac yn trial sianelu bach o'i hegni hi.

Mwerch fach yn gorwedd ar y llawr yn canu karaokeFfynhonnell y llun, Mel Owen
Disgrifiad o’r llun,

Bloeddio canu!

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Jennifer Hudson. Dychmyga cael llais fel 'na! Bydden i ddim yn siarad o gwbwl, jyst beltio caneuon allan trwy'r dydd. Ar y stryd, mewn cyfarfod Teams, yng nghanol Big Tesco…bydda'i 'na yn canu nerth fy ysgyfaint. Rydw i'n siwr bydd fy nghymdogion yn Nhreganna'n diolchgar iawn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: