Ateb y Galw: Zahra Errami

Zahra ErramiFfynhonnell y llun, Mike Griffiths
GanAlun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Newyddiadurwr, cynhyrchydd a chyflwynydd gyda ITV Wales yw Zahra Errami.

Ar ddechrau'r flwyddyn fe gyflwynodd hi raglen ddogfen trawiadol i S4C am ddefnydd cyffuriau yng nghefn gwlad Cymru. Yn fyw diweddar mae hi wedi bod ynghlwm a phrosiect o'r enw Barcud ar Hansh.

O Sir Fôn yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, Zahra sy'n ateb ein cwestiynau busneslyd yr wythnos yma.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Un sy' wastad yn taro fi 'di smalio bod yn ddeinosor amser chwarae efo'r hogia yn ysgol gynradd. Byta dail oddi ar goed a stompio yn y pridd a ballu tra oedd y genod arall yn chwarae 'Mam a Dad'. Dwi dal yn weird a'n obsessed efo deinosoriaid, so s'dim llawer 'di newid rili.

 Mae obsesiwn Zahra gyda deinosoriaid yn parhau ers iddi fod yn blentyn!Ffynhonnell y llun, Zahra Errami
Disgrifiad o’r llun,

Mae obsesiwn Zahra gyda deinosoriaid yn parhau ers iddi fod yn blentyn!

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mor gymaint a dwi'n caru bod adra yn Sir Fôn... rhaid i fi ddweud Aberdaron. Campio, peints ar y lan y môr, sosij rolls o'r becws... be mwy 'sa chi eisiau?

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Ma' hwn yn un anodd ond un sy'n dod i meddwl ydy noson dan y sêr efo mets fi tra'n 'glampio' yn Ross-on-Wye. Naethon ni noson ble wnaethom ni wisgo fyny fel 'eicons Cymraeg'... esh i fel y Dewin Dwl am rhyw reswm (peidiwch a gofyn). Noson braf yn yr haf, hot tub, llwyth o chwerthin a hyd yn oed fwy o win.

Glampio gyda ffrindiau yn Ross-on-WyeFfynhonnell y llun, Zahra Errami
Disgrifiad o’r llun,

Glampio gyda ffrindiau yn Ross-on-Wye

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Doniol (self-proclaimed), creadigol a chyfeillgar.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Arhoswch efo fi efo'r un yma... roeddwn i allan o waith ac ar y dôl, yn fy 20au, yn byw adra yn Sir Fôn, ac oeddwn i'n gwario bob dydd efo Taid yn ei shed yn tincran a dysgu sut i drwsho peiriannau golchi, dishwashers a rhewgelloedd.

Gwario amser efo Taid, yn tynnu coesau'n gilydd oedd y uchafbwynt yn amlwg, ond dwi'n rili handi efo'r bocs tŵls rwan 'fyd.

Treuliodd Zahra gyfnod gyda'i thaid yn trwsio peiriannau golchi ac atiFfynhonnell y llun, Zahra Errami
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Zahra gyfnod gyda'i thaid yn trwsio peiriannau golchi ac ati

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?

Mae 'na lot yn dod i'r meddwl, ond dyma un...

Pan oeddwn i'n tua 15, roedd fy nheulu yn mynd i Dumfries yn yr Alban i weld fy wncl - a ges i ddod a'n ffrind efo fi. Roedden ni'n rili edrych 'mlaen mynd i'r dre a siopa i Primark oedd, ar y pryd i deulu dosbarth gweithiol o Sir Fôn, fel Harrods yn Llundain.

Roedd fi a'n ffrind yn trio actio'n cŵl a dal sylw rhyw hogia lleol tu allan i Primark ar y stryd fawr. Peth nesaf roedd Mam yn chwifio bra, neu 'brashar' fel mae hi'n dweud, yn y awyr wrth y drws a'n gweiddi 'pa seiz brashar wyti, ma' hein yn rhad!' wrth i larwm y siop fynd off.

Chwerthodd yr hogia, nesh i farw yn fewnol a stormio off mewn mŵd. Dwi 'di maddau iddi erbyn heddiw.

Zahra a'i MamFfynhonnell y llun, Zahra Errami
Disgrifiad o’r llun,

Zahra a'i Mam

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Trwy gydol cyfres rhaglen 'Love on the Spectrum' ar Netflix.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gormod, ond ma' un peint yn wastad troi mewn i chwech efo fi.

Mae Zahra'n ffan o'i pheints!Ffynhonnell y llun, Zahra Errami
Disgrifiad o’r llun,

Mae Zahra'n ffan o'i pheints!

Beth yw dy hoff lyfr a pham?

Yn Saesneg 'Boy Parts' gan Eliza Clark - mae'n dywyll a'n ddoniol.

Yn Gymraeg 'Sgen i'm syniad' gan Gwenllian Ellis, a 'Mor Hapus'. Mae llyfrau Gwenllian jyst mor relatable, hefo ambell i brofiad a thema o fewn y llyfrau yn taro deuddeg hefo fi.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

Dwi wastad wedi ymddiddori mewn seicoleg a pam fod pobl y ffordd mae nhw, a dwi'n ffan mawr o raglenni trosedd... so,probably risgio fy mywyd am sgŵp ecsglŵsif a chael Eileen Wurnos, Ted Bundy a Jeffrey Dahmer i'r pub am beint.

Dyweda rywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi OFN caws - ac yndw, dwi'n gwybod bod hynna yn od.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Dibynnu yn holloll ar y cyd-destyn. Os ni'n siarad 'total wipe-out' annisgwyl o fywyd dynol fel wynebodd y deinosoriaid - mynd i rhywle bydd fy nghorff yn deuddol o cael ei ffosileiddio yn dda sef ar y arfordir neu ar lan môr ella? Dwi'n Pisces, so ma hynnu'n gwneud synnwyr.

Neu os dwi'n gwybod bo' fi am farw fory - byswn i'n dogfennu fy niwrnod diwethaf, dweud be dwisho'i ddweud, gwneud be dwi isho'i wneud... mwy o raglen ddogfennol am fywyd a farwolaeth na 'GRWM' ar TikTok.

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Unrhyw lun o fi a Taid rili - ma' gen i hon yn fy fflat.

Mae Zahra'n trysori'r llun yma ohoni gyda'i thaidFfynhonnell y llun, Zahra Errami
Disgrifiad o’r llun,

Mae Zahra'n trysori'r llun yma ohoni gyda'i thaid

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Bysa rhaid i fi cael blas o fywyd y 5% mwyaf cyfoethog y byd, i fi cael gwario eu harian i helpu bobl arall... ond prynu Prada bag i fy hun fel anrheg am wneud.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: