Burnham yn diystyru rhoi pwerau i gynnal refferendwm annibyniaeth i Gymru

Andy BurnhamFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Andy Burnham ar ymweliad â Phort Talbot fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog y DU wedi diystyru trosglwyddo pwerau i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Lywodraeth Cymru.

Fe ddywedodd Andy Burnham nad oes gan genhedloedd eraill y DU y pwerau hynny, ac o ganlyniad, "dydw i ddim yn meddwl y gallwn ni greu trefniant gwahanol i Gymru".

Ychwanegodd fod Llywodraeth yr Alban, dan arweiniad yr SNP, wedi gofyn am y pwerau yn 2014 – pwerau a gafodd "gymeradwyaeth gan San Steffan" – ac y byddai angen i'r un peth fod yn wir am Gymru.

Roedd yn siarad â'r BBC cyn cynhadledd y Blaid Lafur sy'n dechrau yn Lerpwl y penwythnos hwn.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, yr wythnos diwethaf y byddai'n ceisio ennill pwerau i gynnal refferendwm annibyniaeth, er bod gweinidogion Plaid Cymru wedi diystyru cynnal un cyn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2030.

Andy Burnham
Disgrifiad o’r llun,

"Dydw i ddim yn meddwl y gallwn ni greu trefniant gwahanol i Gymru," meddai Andy Burnham

Ychwanegodd Andy Burnham ei fod hefyd yn fodlon ystyried cynlluniau Llywodraeth Cymru i dreialu cynnig £10 yr wythnos i 15,000 o blant dan chwech oed, mewn cartrefi sydd eisoes yn derbyn Credyd Cynhwysol.

Byddai'n golygu cytundeb gydag Adran Gwaith a Phensiynau y llywodraeth a HMRC er mwyn osgoi trethu'r taliad.

"Byddaf yn sicr yn sicrhau bod trafodaeth briodol yn cael ei chynnal am y mater," meddai.

"Fe wnes i bethau fel Maer Manceinion heb i unrhyw oblygiadau treth godi.

"Felly dydw i ddim yn hollol siŵr pam mae hynny'n codi yn yr achos hwn, ond byddwn yn bendant yn edrych arno."

'Rhaid i mi barchu'r llywodraethau yng nghenhedloedd y DU'

Yn ystod ymweliad â gwaith dur Tata ym Mhort Talbot fis Awst, awgrymodd Burnham ei fod yn "agored" i'r syniad o roi rheolaeth dros blismona i Lywodraeth Cymru.

Mae BBC Cymru yn deall bod y syniad wedi denu gwrthwynebiad gan nifer o ASau Llafur Cymru, gydag un yn ei ddisgrifio fel "ffars".

Mewn ymateb, dywedodd Burnham heddiw ei fod yn ymwneud ag "ystyried yr achos" yn hytrach na mabwysiadu "safbwynt sefydlog".

"Mae'n rhaid i mi barchu'r llywodraethau yng nghenhedloedd y DU – a byddaf yn gwneud hynny – a rhoi gwrandawiad teg i unrhyw beth sy'n cael ei gyflwyno i mi," meddai.

Pwerau datganoli dan sylw

Bydd cynhadledd y Blaid Lafur yn cychwyn gyda thrafodaeth newydd ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac a ddylid datganoli mwy o bwerau i Fae Caerdydd o San Steffan.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gafodd cynnig gan Reform y dylai Cymru aros yn rhan o'r DU ei wrthod gan y Senedd.

Cafodd cynnig diwygiedig gan Blaid Cymru, oedd yn nodi y dylai pobl Cymru benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol y wlad, ei basio.

Yn ddiweddar mae arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Fein wedi cwrdd yng Nghaerdydd ac wedi arwyddo cytundeb yn datgan na ddylai San Steffan allu tanseilio hawl y bobl i ddewis eu dyfodol eu hunain.

Bydd Burnham yn annerch ei gynhadledd Lafur cyntaf fel Prif Weinidog yr wythnos nesaf, ac mae disgwyl iddo gyflwyno ei weledigaeth i'r DU ar gyfer y ddegawd nesaf.

Ddydd Sul bydd arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates yn camu ar y llwyfan i siarad am sut y dylai'r blaid geisio ailadeiladu yn dilyn eu perfformiad siomedig yn etholiad y Senedd fis Mai.

Fe wnaeth y blaid Lafur ond sicrhau naw o Aelod o'r Senedd, a hyn yn dilyn arwain pob llywodraeth yng Nghymru ers cychwyn datganoli yn 1999.

Mae Skates eisoes wedi siarad am ei awydd i weld mwy o bwerau'n cael eu datganoli o Fae Caerdydd i awdurdodau lleol, ac mae disgwyl iddo godi'r mater hwnnw eto.

Mae disgwyl iddo hefyd gydnabod yr her enfawr sy'n wynebu'r blaid wrth iddyn nhw geisio adfer y blaid yng Nghymru.

Ni fydd y sgyrsiau ynghylch datganoli, pwerau a chyllid yn dod i ben ar ôl y penwythnos hwn.

Fis nesaf, mae disgwyl i'r prif weinidog gyfarfod â phrif weinidogion holl wledydd y DU.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.