Ashley Williams yn rhan o dîm hyfforddi newydd Cymru

Ashley williams yn sgorio yn erbyn Gwlad Belg yn Euro 2016Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Williams 86 o weithiau i Gymru ac roedd yn gapten yn ystod ymgyrch Euro 2016

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-gapten Cymru, Ashley Williams a chyn-reolwr Abertawe, Alan Sheehan wedi ymuno â thîm hyfforddi newydd Craig Bellamy.

Daw'r penodiadau ar ôl i Piet Cremers a James Rowberry gyhoeddi yn ystod yr haf eu bod am ganolbwyntio ar eu swyddi gyda'u clybiau - Club Brugge a Stoke City.

Roedd amheuaeth am gyfnod a fyddai Craig Bellamy ei hun yn aros gyda Chymru ar ôl iddo gael ei gysylltu â swydd rheolwr Burnley.

Mae Williams, sydd wedi ennill 86 o gapiau i'r tîm cenedlaethol, wedi bod yn hyfforddi gyda rhai o dimau ieuenctid Cymru, ond dyma fydd y tro cyntaf iddo weithio gyda'r tîm cyntaf.

Alan SheehanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sheehan ddau gyfnod fel rheolwr dros dro Abertawe cyn cael y rôl yn barhaol tua diwedd tymor 2024-25

Mae cyn-reolwr Abertawe, Alan Sheehan hefyd wedi ei benodi yn hyfforddwr cynorthwyol newydd.

Fe dreuliodd Sheehan gyfnod wrth y llyw gyda'r Elyrch yn 2025 yn dilyn cyfnodau'n hyfforddi gyda Luton Town a Southampton.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd Andrew Crofts yn parhau yn ei rôl fel hyfforddwr cynorthwyol, er iddo ymuno â thîm hyfforddi Tottenham Hotspur yn ddiweddar.

Fe fydd gemau nesaf Cymru ar ddiwedd y mis, wrth iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Bydd carfan Craig Bellamy yn teithio i Bortiwgal (24 Medi) a Denmarc (27 Medi), cyn croesawu Norwy (1 Hydref) a Denmarc (4 Hydref) i Gaerdydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.