Balchder, dagrau a golchi dillad! - atgofion gohebu ar Euro 2016

Mae hi'n ddegawd ers taith fythgofiadwy Cymru yn Euro 2016
- Cyhoeddwyd
Mewn ychydig ddyddiau fe fydd hi'n ddegawd union ers gêm agoriadol Cymru yn Euro 2016 - pencampwriaeth fyddai'n gweld y garfan yn perfformio tu hwnt i ddisgwyliadau'r cefnogwyr mwyaf optimistaidd.
Wedi gemau grŵp yn erbyn Slofacia, Lloegr a Rwsia, roedd buddugoliaethau yn erbyn Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg yn golygu fod Cymru wedi cyrraedd y rownd gynderfynol.
Er mai siom oedd y canlyniad yn erbyn Portiwgal yn Lyon, roedd hi'n daith fythgofiadwy.
Er bod cyrraedd y prif bencampwriaethau wedi dod yn fwy arferol ers hynny, mae'n werth cofio hefyd mai dyma oedd y tro cyntaf i Gymru fod ar y llwyfan mwyaf ers 1958.
Mae atgofion melys gan y chwaraewyr a'r cefnogwyr, ac i griw BBC Cymru oedd allan yno'n gohebu ar y gemau hefyd.
Rhodri Tomos oedd yno'n gweithio i Cymru Fyw, ac mae wedi bod yn hel atgofion am y mis y treuliodd yn Ffrainc.
Tŷ bwyta bach yn Dinard, Llydaw... 7 Mehefin 2016.
Tridiau cyn y gêm fawr yn erbyn Slofacia ac roedd criw darlledu BBC Cymru ac S4C wedi ymgynnull i ddathlu pen-blwydd un o'r criw.
Roedden ni wedi bod yn gwylio carfan Cymru'n ymarfer yn gynharach yn y dydd, a chyn diwedd y noson fe gododd y cwestiwn mawr - pa mor bell aiff Cymru yn yr Ewros?
Roedd nifer o gyn-chwaraewyr rhyngwladol o amgylch y bwrdd, gyda dros 100 o gapiau rhyngddyn nhw.

Tref fach Dinard fu'n gartref i garfan Cymru, a gohebwyr y BBC, am fwyafrif yr Ewros
Os dwi'n cofio'n iawn, y bythol-optimistaidd Iwan Roberts oedd yr unig un oedd yn credu y gallai Cymru fynd mor bell â rownd yr wyth olaf.
Roedd pawb arall naill ai'n credu y byddai tîm Chris Coleman yn gwneud yn dda i gyrraedd yr 16 olaf, a rhai yn credu y byddai'n dalcen caled i ddod allan o grŵp cryf iawn - Slofacia, Lloegr a Rwsia.
Roedd cliwiau yn y sesiwn ymarfer oedd yn galonogol - gyda'r ysbryd yn amlwg yn uchel iawn yn y garfan.
Bordeaux
Ond roedd anafiadau hefyd.
Fis yn unig cyn yr Ewros roedd Joe Ledley wedi torri asgwrn yn ei goes, ac roedd Joe Allen hefyd wedi cael anaf oedd yn peryglu ei le yn y gêm gyntaf.
Erbyn diwrnod y gêm yn ninas odidog Bordeaux, roedd y newyddion yn gymysg.
Doedd Ledley ddim wedi gwella ddigon i ddechrau, ond roedd Joe bach yn holliach.
Ond wedyn roedd ein golwr yn y gemau rhagbrofol Wayne Hennessey wedi cael anaf ar fore'r gêm, gyda Danny Ward yn camu i'r adwy ar y funud olaf.

Fe gafodd y cefnogwyr fodd i fyw yn Bordeaux - gêm gyntaf Cymru mewn prif bencampwriaeth ers 1958
Ond mae pawb yn cofio'r hyn ddigwyddodd ar brynhawn tanbaid o haf.
Ben Davies yn clirio'r bêl oddi ar ei linell gôl ei hun, cic rydd wych Gareth Bale, nerfau wrth i Slofacia unioni'r sgôr, a gorfoledd gôl fuddugol Hal Robson-Kanu.
Ro'n i ar ddyletswydd yn yr ardal cefnogwyr - y fanzone - cryn bellter o'r stadiwm, ac roedd yr emosiwn yno'n rhyfeddol.
Pan chwythwyd y chwiban olaf, roedd dawnsio a dathlu, ond yna wrth i mi geisio holi barn rhai o'r cefnogwyr ar y diwedd... dagrau.
Nhw ddechreuodd, wir yr, ond erbyn i mi holi'r ail gwestiwn ro'n i wedi dechrau hefyd.
Mae'n debyg mai dyna'r vox pops gwaetha' i mi 'neud erioed!
Symud yn gyflym
Pe byddai'r gystadleuaeth wedi gorffen ar y diwrnod yna, rwy'n credu y byddai cefnogwyr Cymru oedd wedi diodde' degawdau o foddi wrth ymyl y lan wedi bod yn eitha' bodlon.
Ar strydoedd Bordeaux y noson honno, roedd miloedd o Gymry yn crwydro'r bariau gyda gwên anferthol ar wynebau pob un ohonyn nhw - yn gantorion, gwleidyddion, enwogion o fri - yn gwybod fod eu gwlad wedi gwneud ei marc ar draws y byd pêl-droed.

Criw BBC Cymru ac S4C yn Bordeaux yn 2016, gyda Rhodri y trydydd o'r chwith yn y cefn
Nawr bod y gemau wedi dechrau, roedd ein bywydau ni fel darlledwyr wedi dechrau symud yn gyflym iawn.
Teithio o un lle i'r llall, paratoi deunydd, darlledu o'r gemau, ac ailadrodd.
Roedd gêm Rwsia'n gwbl allweddol - petai Cymru wedi colli yno, fe fyddai'r antur ar ben - ond dyna oedd perfformiad gorau Cymru efallai o'r Ewros i gyd.
Ymlaen i Baris!
Paris
Yn ôl yng Nghaerdydd roedd criw hynod weithgar yn trefnu llety a theithio i'r criw.
Fe wnaethon ni gyrraedd y gwesty yn hwyr iawn wedi gêm Rwsia, gan ddisgwyl y byddai criw Caerdydd yn gorfod gweithio'n ddiwyd drwy'r nos i ganfod gwesty i ni ym Mharis.
Ond daeth neges destun erbyn 00:30 gydag enw'r gwesty yn y brifddinas, a hynny er syndod i ni gyd.
Syndod mwy oedd cyrraedd Paris a gweld ein bod mewn gwesty llawer iawn mwy moethus na'r rhai a gawson ni yn Bordeaux, Lille a Toulouse, ac roedd y gwesty dafliad carreg o'r Parc Des Princes lle byddai Cymru'n herio Gogledd Iwerddon.
Pam ein bod ni yn y ffasiwn le?
Roedd y criw oedd yn darlledu gemau Lloegr yn grediniol mai nhw fyddai'n ennill Grŵp B ac wedi bwcio'r gwesty ymhell cyn y gystadleuaeth.
Fe gawson ni eu gwesty nhw ac fe fu'n rhaid i griw Lloegr straffaglu i gael gwesty yn Nice. Rhyfedd o fyd!

Gôl i'w rwyd ei hun gan Gareth McAuley oedd yr unig gôl ym Mharis
Atgof mawr arall oedd cyrraedd yn ôl i'r gwesty wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Gogledd Iwerddon.
Unwaith eto ro'n i yn yr ardal cefnogwyr ger Tŵr Eiffel, ac roedd teithio ar draws Paris yn anodd a dweud y lleiaf ynghanol y prysurdeb.
Wrth gyrraedd roedd criw bach y tu allan i'r gwesty gyda photel o gwrw - Kevin Ratcliffe, Malcolm Allen, Owain Tudur Jones ac Iwan Roberts - mawrion y gamp.
Rwy'n cofio cael yr hyn byddai rhai yn ei alw'n bear hug gan Iwan, oedd bron yn ei ddagrau.
Roedd Kevin - fel un oedd wedi dod mor agos at gyrraedd rowndiau terfynol ei hun fwy nag unwaith - yn emosiynol hefyd. Am noson.
Lille
Fe gawson ni ddiwrnod i ffwrdd wedi'r gêm gan nad oedd Cymru'n gwybod yn union pwy oedd y gwrthwynebwyr nesaf.
Pan ddaeth y canlyniadau, Gwlad Belg ddaeth i'r fei - yr hen elyn.
Drwy lwc roedd yna launderette drws nesaf i'r gwesty, ac fe wnaethon ni fel criw gymryd y lle drosodd am ddiwrnod cyfan.
Doedd neb wedi meddwl y bydden ni'n mynd mor bell â hyn, a doedd dim dillad glan ar ôl gan neb bron!
Roedd Cymru wedi bod yn yr un grŵp a Belg yn y gemau rhagbrofol, gan sicrhau gêm gyfartal oddi cartref ac ennill yng Nghaerdydd, ond roedd y ddwy gêm yn anodd.

Gorfoledd yn Lille - ai dyma fuddugoliaeth orau Cymru erioed?
Tipyn o syndod felly oedd siarad gydag aelod o dîm hyfforddi Cymru y noson cyn y gêm yn rownd yr wyth olaf, a'i glywed yn dweud fod y criw hyfforddi yn fwy hyderus o guro Gwlad Belg nag oedden nhw o guro Gogledd Iwerddon.
Roedd y gwaith cartref wedi ei wneud mor drylwyr, a Chymru'n adnabod eu gwrthwynebwyr mor dda, fel eu bod yn credu'n llwyr mai Cymru fyddai'n ennill.
Diolch byth, roedden nhw'n iawn, gan fynd â Chymru'n bellach nag erioed o'r blaen mewn cystadleuaeth fawr ryngwladol.
Balchder
Roedd Chris Coleman, Osian Roberts, gweddill y criw hyfforddi ac wrth gwrs y garfan i gyd, wedi creu rhywbeth sydd wedi newid Cymru.
Fe gafodd y Gymraeg ei chlywed mewn cynhadledd newyddion UEFA am y tro cyntaf erioed diolch i waith Ian Gwyn Hughes.
Cafodd Cymru ei gweld fel gwlad oedd yn gallu cystadlu gyda goreuon pêl-droed Ewrop a'r byd am y tro cyntaf ers 1958.
Fe wnaeth cefnogwyr Cymru ddangos sut mae cefnogi eich gwlad ar lwyfan tramor.
Fe gewch chi'r gwir yn aml gan yrwyr tacsi, ac fe wnes i ofyn i un yn Lyon, cefnogwyr pa wlad oedd y gorau iddo fo weld?
Mae'n gyfartal, oedd yr ateb, rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon.

Cafodd cefnogwyr Cymru ganmoliaeth fawr am eu hymddygiad a'u hangerdd yn ystod y gystadleuaeth
Wrth gwrs mae ambell gwestiwn "beth os?" yn codi weithiau.
Beth pe bai Aaron Ramsey a Ben Davies heb eu gwahardd o'r rownd gynderfynol yn erbyn Portiwgal.
Beth pe bai Gareth Bale wedi cael un gic rydd yn y gêm honno i roi Cymru ar y blaen?
Ond ofer yw gofyn cwestiynau felly.
Wrth deithio 'nôl i Gymru wedi mis anhygoel, doedd dim tristwch ar y bws. Yr hyn sy'n aros yn y cof i mi yw balchder.
Balchder yn y tîm, balchder yn y cefnogwyr, a balchder yng Nghymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.