'Nes i berfformio yn angladd Darth Vader': Chwarae ar draciau sain Star Wars

- Cyhoeddwyd
Tybed faint ohonoch chi sy'n edrych ymlaen yn arw at fersiwn Cymraeg ffilm Star Wars: A New Hope, sydd am gael ei ryddhau y flwyddyn nesaf er mwyn nodi hanner canmlwyddiant y ffilm, ac sy'n cynnwys actorion enwog fel Matthew Rhys a Rhys Ifans?
Efallai fod nifer ohonoch yn ymwybodol o rai o gysylltiadau niferus y gyfres â Chymru...
Richard Marquand, gŵr o Gaerdydd, a gyfarwyddodd Return of the Jedi. Cafodd long ofod y Millennium Falcon ei adeiladu yn Noc Penfro. Ac fe chwaraeodd Mark Lewis Jones ran Captain Canady yn y ffilm The Last Jedi yn 2017.
Ond tybed a wyddoch chi fod rhai o ddarnau enwocaf trac sain y ffilmiau hyn yn cynnwys perfformiadau cofiadwy ar gorn Ffrengig gan Gymro o Gwm Cynon?
O Hirwaun i Lundain... i Hollywood!
Ganed Terry Johns yn Hirwaun, Aberdâr yn 1944, yn fab i löwr.
Dechreuodd ei yrfa gerddorol pan oedd yn 10 oed, yn canu'r corn flugel ym mand y Tower Colliery, lle'r oedd ei dad yn gweithio o dan ddaear.
Ymunodd Johns â Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru, lle mae sawl un o Gymry nodedig y byd cerddorol wedi dechrau eu gyrfaon – gan gynnwys Syr Karl Jenkins, Endaf Emlyn a John Cale.
Yn 18 oed enillodd ysgoloriaeth i astudio yn Academi Frenhinol Llundain o dan arweiniad y chwaraewr corn Ffrengig enwog, Barry Tuckwell.

Corn Ffrengig
Graddiodd Johns o'r Academi Frenhinol yn 1965, ac ymunodd â cherddorfa'r Royal Philharmonic. Perfformiodd Johns gyda nhw ar draws Ewrop ac yn Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd.
Fel aelod o'r Royal Philarmonic, daeth i berfformio ar nifer o draciau sain ffilmiau adnabyddus y dydd – gan gynnwys The Blue Max, Oliver! a Battle of Britain.
Yn 1969, wnaeth Johns gwrdd â'r cyfansoddwr ifanc o America, John Williams, wrth iddo arwain y Cerddorfa Symffoni Llundain (LSO) wrth iddyn nhw recordio trac sain i'r ffilm Goodbye, Mr. Chips.

John Williams – un o'r cyfansoddwyr ffilm mwyaf llwyddiannus erioed
Roedd John Williams yn anhysbys ar y pryd - ond fe fyddai'n mynd yn ei flaen i gyfansoddi rhai o draciau sain enwocaf Hollywood (gan gynnwys Star Wars).
"Roedd John wedi cael gyrfa fel pianydd yn America cyn iddo ddod draw i weithio yn Llundain fel arweinydd a chyfansoddwr," dywedodd Terry Johns mewn rhaglen radio yn 2024.
"Doedd e ddim yn brofiadol iawn fel arweinydd, ac roedd e'n eitha nerfus a swil. Ond yn amlwg yn foi talentog iawn!"
Chwarae ar draciau sain ffilmiau Star Wars
Ym mis Mawrth 1977, cafodd Johns ei wahodd i Stiwdios Anvil yn Denham, Llundain i berfformio ar drac sain Star Wars: A New Hope wedi ei gyfansoddi a'i arwain gan John Williams.
Dyma oedd y ffilm gyntaf yng nghyfres ffilmiau Star Wars, ac mae'r gerddoriaeth yn parhau i fod yn un o'r traciau sain ffilm mwyaf adnabyddus erioed.
"Roedd y stiwdio wedi ei osod fyny ar gyfer cerddorfa enfawr y diwrnod hynny," meddai Johns, "felly roedd yn amlwg ei fod yn mynd i fod yn dipyn o gynhyrchiad!
"Ac wedyn roedd pobl yn dechrau sôn bod y ffilm yn mynd i fod y cyntaf allan o wyth mewn cyfres, ac yn mynd i bara am 30 mlynedd...
"Ond roedden ni'n credu mai nonsens oedd hynny ar y pryd!"
'Nes i chwarae yn angladd Darth Vader'

Return of the Jedi, a ryddhawyd yn 1983 – sy'n cynnwys perfformiad cofiadwy gan Johns ar ei gorn Ffrengig
"Fe wnaethon ni berfformio darn agoriadol y ffilm. Roedd y stiwdio mewn tywyllwch oherwydd roedden nhw'n rhedeg y ffilm o'n blaenau ni.
"A phan wnaethon ni orffen chwarae, wnaeth y goleuadau gael eu troi ymlaen ac fe wnaeth yr holl gerddorfa ddechrau cymeradwyo John Williams!"
Roedd George Lucas, cyfarwyddwr y ffilm, yn y stiwdio ar y pryd – ac yn ôl y sôn, wedi ei gyfareddu gan y gerddoriaeth a pherfformiad y gerddorfa.
Meddai Johns, "Ar un pwynt dyma George Lucas yn gadael y stiwdio ac yn chwarae'r recordiad i'w ffrind Steven Spielberg lawr llinell y ffôn!"
Ar y pryd, dyma oedd y trac sain ffilm drytaf erioed i gael ei recordio. Gwariodd Lucas dros filiwn o bunnoedd i recordio'r gerddoriaeth.

Luke Skywalker (Mark Hamill) a Darth Vader (David Prowse) yn ffilm Return of the Jedi
Aeth Terry Johns ymlaen i chwarae ar drac sain y tair ffilm Star Wars gwreiddiol, rhwng 1977 a 1983 – A New Hope, The Empire Strikes Back a Return of the Jedi.
Yn Return of the Jedi, perfformiodd Johns yr unawd ar y corn Ffrengig yn ystod golygfa gofiadwy angladd Darth Vader.
"Mae gen i jôc gyda'n ffrind i, John Wallace – wnaeth chwarae ym mhriodas y Dywysoges Diana. Mae'n hoffi brolio am hynny, a dwi wastad yn dweud 'ie, wel 'nes i berfformio yn angladd Darth Vader!'"
Wnaeth Johns hefyd berfformio ar draciau sain y ffilmiau Superman a Raiders of the Lost Ark, a gyfansoddwyd gan John Williams.

Un o albymau Terry Johns
O 1980 tan 1985, roedd Johns yn aelod o'r LSO o dan arweiniad André Previn.
Yn 1984, Johns fu'n gyfrifol am drefnu'r gerddoriaeth ar gyfer seremoni goffa Richard Burton yn Eglwys St Martin-in-the-Fields yn Llundain.
Cafodd Johns yrfa'n chwarae mewn bandiau jazz hefyd, ac yn gwneud gwaith sesiwn gyda bandiau roc megis Deep Purple a gydag artistiaid fel Shirley Bassey, Tony Bennett a Peggy Lee.
Roedd hefyd yn athro corn Ffrengig am weddill ei fywyd.
Bu farw Terry Johns yn 2025 yn ei gartref yn Sbaen.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd4 Awst

- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2025
