Matthew Rhys: Star Wars yn Gymraeg 'yr union beth roeddwn i eisiau'n blentyn'

Matthew RhysFfynhonnell y llun, Katie flores / Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Matthew Rhys wedi dweud bod lleisio Han Solo yn y fersiwn Gymraeg gyntaf erioed o Star Wars yn rhoi rhywbeth i genhedlaeth newydd o blant, ac yn rhywbeth y byddai wedi'i drysori pan oedd yn ifanc.

Bydd yr actor o Gaerdydd yn lleisio'r smyglwr enwog yn Star Wars: Gobaith Newydd, sef fersiwn Gymraeg o'r ffilm wreiddiol a ryddhawyd yn 1977.

Mewn cyfweliad Saesneg ar bodlediad The Interview (dolen allanol), dolen allanol gan The New York Times, dywedodd Rhys fod recordio rhan enwog Harrison Ford yn brofiad "swreal".

Ond yn ôl yr actor sydd wedi ennill gwobr Emmy, mae bod yn rhan o'r addasiad o ffilm eiconig George Lucas yn brosiect sy'n agos iawn at ei galon.

"Dyma'r union beth byddwn i wedi'i eisiau wrth dyfu i fyny fel bachgen Cymraeg ifanc," meddai.

"Roedd yn codi fy nghalon yn arw i feddwl, 'Iawn, bydd yna genhedlaeth o blant fydd yn gwylio Star Wars yn Gymraeg'.

"Anhygoel."

Star warsFfynhonnell y llun, S4C; Cymru Greadigol; Lucasfilm

'Alla i ddim lleisio Harrison Ford'

Bydd y fersiwn Gymraeg o Star Wars: Gobaith Newydd yn cael ei dangos ar S4C a'i llwyfannau digidol ar Ddydd Nadolig.

Mae Rhys yn rhan o gast o actorion amlwg o Gymru, gyda Rhys Ifans yn lleisio Obi-Wan Kenobi, Aimee-Ffion Edwards yn chwarae rhan y Dywysoges Leia, a Mark Lewis Jones yn lleisio Darth Vader.

Osian Morgan sy'n lleisio Luke Skywalker, tra bod Llŷr Ifans yn chwarae rhan y robot C-3PO.

Dywedodd Rhys fod clywed llinellau cyfarwydd o Star Wars wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg yn brofiad rhyfeddol.

"Y peth od oedd bod rhaid cyfieithu'r holl bethau yma," meddai.

"Roedden ni wedi tyfu i fyny yn adnabod Star Wars, ac wedyn roeddwn i'n eu dweud nhw yn Gymraeg.

"Roedd yna eiriau doeddwn i erioed wedi'u defnyddio o'r blaen, ac roeddwn i'n baglu drostyn nhw gan feddwl, 'Alla i ddim hyd yn oed ei ddweud e'.

"Ar yr un pryd, roedd yn rhywbeth mor gyfarwydd. Roedd y profiad cyfan yn hollol swreal."

Cyfaddefodd hefyd iddo deimlo pwysau wrth geisio dilyn perfformiad Harrison Ford fel Han Solo.

"Roedd rhywun yn meddwl, 'Alla i ddim lleisio Harrison Ford'," meddai.

Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi siarad â Ford am y rôl, atebodd: "Na. Mae gen i ormod o ofn!"

Llyr Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd yr actor Llyr Ifans yn lleisio'r robot C-3PO

'Fydd yr iaith ddim yn marw'

Yn ystod y cyfweliad eang, cafodd Rhys ei atgoffa o sylwadau a wnaeth yn 2014 pan ddywedodd mai goroesiad y Gymraeg oedd y peth pwysicaf iddo.

Pan ofynnwyd a oedd hynny'n dal yn wir, atebodd: "Ydy, yn sicr."

"Ces i fy magu yn yr 80au pan oedd yr iaith dan fygythiad," meddai.

"Dwi'n cofio'r gorymdeithiau protest a'r ymgyrchu dros ddeddf iaith.

"Doedd dim modd agor cyfrif banc yn Gymraeg. Doedd gan yr iaith ddim statws."

Sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yr egwyddor y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Cyflwynwyd hawliau pellach drwy Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a roddodd statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru.

"Roedd brwdfrydedd mawr gan fy rhieni yn dweud, 'Fydd yr iaith yma ddim yn marw. Fydd hi byth yn marw. Fe wnawn ni sicrhau hynny'."

Gwahaniaethau rhwng Cymru ac America

Siaradodd Rhys, sydd bellach yn byw yn Efrog Newydd, hefyd am y gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddisgrifiodd fel pesimistiaeth Gymreig a hyder Americanaidd.

"Yn enwedig ymhlith y Cymry, mae yna ymdeimlad cryf iawn o besimistiaeth yn rhedeg drwy ein gwythiennau," meddai.

Cofiodd un o ddywediadau ei dad am rywun oedd yn rhy falch ohono'i hun: "Pe bai'n siocled, byddai'n bwyta'i hun".

Dywedodd Rhys ei fod yn edmygu'r hyder a welodd yn yr Unol Daleithiau, ac y byddai weithiau'n gweld ei hun yn ei efelychu.

Ychwanegodd fod gan ei blant "lawer mwy" o'r hyder Americanaidd hwnnw nag oedd ganddo ef yn yr un oedran.

Cyfeiriodd at Richard Burton, un o'i arwyr, fel enghraifft gynnar o actor Cymreig a wrthododd gael ei gyfyngu gan y ffordd honno o feddwl.

Dywedodd fod hyder ac uchelgais Burton wedi dangos iddo: "Fedrwn ni wneud hynny hefyd."

Bydd Star Wars: Gobaith Newydd ar gael ar S4C a'i llwyfannau digidol o Ddydd Nadolig ymlaen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig