Miliynau o bobl wedi bod yn bwyta cig gafr mewn cebabau heb wybod

Cafodd Kismet Kebabs ei sefydlu yn 2008 ac mae'r cwmni'n cynhyrchu dros 100 tunnell o wahanol fathau o gebabau yr wythnos
- Cyhoeddwyd
Mae'n debygol fod miliynau o bobl wedi bod yn bwyta cebabau wedi'u paratoi gyda chig geifr, a gweddillion darnau eraill o gig yn cynnwys braster a chroen, yn ôl ymchwil gan swyddogion Safonau Masnach Abertawe.
Mae'r BBC wedi cael gwybod bod y cebabau gan un o gyflenwyr cebabau mwyaf y Deyrnas Unedig - Kismet Kebabs - wedi cael eu gwerthu i gwmnïau bwyd parod ar draws y Deyrnas Unedig ers blynyddoedd.
Defnyddiodd Swyddogion Masnach Bwyd brofion DNA ar y cebabau - oedd wedi eu labelu fel 'doner oen' gan y cwmni - a ddatgelodd mewn gwirionedd bod llai na 10% o'r cig yn oen, yn hytrach na'r 70% honedig.
Bu'n rhaid i Kismet Kebabs Ltd dalu dirwy o £500,000 ar ôl pledio'n euog i'r twyll a ddigwyddodd yn ôl yn 2021.
Yn ôl y swyddogion fe lwyddodd y cwmni wneud £6m drwy'r twyll bwyd, a oedd yn debygol o fod wedi cael effaith ar filiynau o gwsmeriaid bwyd tec-awê y Deyrnas Unedig.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi gwneud newidiadau sylweddol ers y cyrch, a bod y mater yn ymwneud â "digwyddiadau hanesyddol" dros bum mlynedd yn ôl pan oedd y cwmni'n gweithredu "strwythur arweinyddiaeth wahanol".
'Bron cyn waethed â'r sgandal cig ceffyl'
Cafodd Kismet Kebabs ei sefydlu yn 2008 ac mae'r cwmni'n cynhyrchu dros 100 tunnell o wahanol fathau o gebabau yr wythnos.
Roedd Kismet Kebabs yn hysbysebu a labelu ei gebabau doner cig oen fel rhai oedd yn cynnwys hyd at 87% o gig oen – yn ddibynnol ar y cebab.
Ond fe ddaeth pryderon ar ôl i swyddogion safonau masnach yn Abertawe ddechrau profi samplau o gig doner o gwmnïau prydau bwyd parod ar hap yn y ddinas rhwng 2020 a 2021.
Daeth profion ar gebabau oedd i fod â chynnwys o "hyd at 70%" o gig oen – yn ôl gan ddangos eu bod yn cynnwys "llai na 10%".
"Dwi ddim yn meddwl y bydd llawer o gwsmeriaid yn synnu bod llawer o groen a braster yn y cynnyrch – ond dwi ddim yn meddwl y bydd llawer o bobl yn disgwyl clywed bod cig gafr i'w gael hefyd," meddai Rhys Harries, un o swyddogion Safonau Masnach Abertawe.

Fe gyfaddefodd cyfarwyddwyr cwmni Kismet Kebabs Ltd - Panayiotis Vasilis Michael (chwith), a Djemal Enver (dde), i dwyll drwy gam-gynrychioli
"Mae cwsmer sy'n prynu cebab gan amlaf yn ymwybodol efallai na fydd y cig yn cynnwys y cynhwysion a'r ansawdd uchaf, ond mae angen iddo dal gynnwys yr hyn y mae'n dweud iddo ei gynnwys," meddai Mr Harries.
"Mae bron cyn waethed â'r sgandal cig ceffyl – oherwydd y nifer fawr o gynnyrch oedd yn gadael y ffatri yma."
Ym mis Mai 2021, cafodd ffatri Kismet yn Essex ei gyrchu er mwyn darganfod beth oedd yn cael ei gynnwys yn y cebabau – am fod cwmnïau bwyd parod o dan yr argraff eu bod yn prynu cig oen – fel oedd yn cael ei hysbysebu ar y pecyn.
Dywedodd Mr Harries, unwaith yr aeth ymchwilwyr i ymweld â'r safle yn Latchingdon, ger Chelmsford, daeth i'r amlwg nad oedd cig oen yn cael ei anfon i'r ffatri.
"Doedd dim cig oen i'w weld – oni bai am y braster oen," meddai.
"Roedd paledi o eifr, paledi o weddillion a gwastraff gyda nifer uchel o fraster, bocsys llawn braster, bocsys o groen.
"Gyda'r cyfan yn cael ei roi mewn peiriant briwo – ac yn edrych fel darn o Play-Doh."
Roedd y darnau anferth o gebabau wedyn yn cael eu labelu fel petaen nhw'n cynnwys rhwng 50% a 90% o gig oen – yn ddibynnol ar y rysáit.

Cafodd cebabau Kismet eu gwerthu ar draws y DU am flynyddoedd
Roedd cebabau Kismet Kebabs yn cael eu gwerthu i "bob cwr" o'r Deyrnas Unedig am flynyddoedd
Ar un llinell gynhyrchu – sylweddolodd ymchwilwyr bod yr un casgliad o gebabau mawr yn cael eu rhannu i becynnau gwahanol yn barod i fynd i'r siopau – gydag un wedi'i labelu yn "70% o gig oen", ac un arall yn "50% o gig oen".
Roedden ni'n gweld labeli oedd yn gwbl wahanol i'r hyn oedd yn cael ei roi yn y cebabau mewn gwirionedd," meddai Rhys Harries.
"Mae hwn yn dwyll bwyd di-flewyn-ar-dafod. Roedd manwerthwyr a chwsmeriaid yn talu pris premiwm ar gyfer rhywbeth llawn geriach."
Fis diwethaf, clywodd Llys y Goron Abertawe bod cynghorau lled Lloegr wedi bod yn ysgrifennu i gwyno am broblemau yn sgil label cynnwys cig Kismet Kebabs – oedd wedi ennill gwobr cyflenwyr gorau'r flwyddyn 2021 yng Ngwobrau Cebabau Prydain.
Roedd un doner cebab cig oen, oedd i fod i gynnwys 87% o gig oen, yn cynnwys 40% o fraster anifail.
Dywedodd y safonau masnach fod Kismet Kebabs wedi gwerthu cymaint o gebabau ar hyd y blynyddoedd, fe gymerodd hi 18 mis i ddau swyddog fynd drwy'r holl anfonebau a gwaith papur.

Roedd cig oen yn aml yn cael ei roi fel y prif gynhwysyn, ble mai dim ond ychydig o fraster cig oen oedd yn y cebab mewn gwirionedd
Ymhlith yr hyn a gafodd ei ddarganfod gan safonau masnach, oedd 'cardiau ryseitiau' oedd yn cynnwys yr union gynhwysion oedd wedi eu defnyddio gan weithwyr i greu'r cebabau cig oen – a ddaeth i gasgliad fod dim cig oen o gwbl wedi'i gynnwys yn eu cynnyrch.
Yn hytrach, dim ond cig gafr, braster cig eidion a chyw iâr oedd ynddo.
"Roedd mor anghywir, roedd yn rhaid iddo fod yn dwyllodrus," meddai Rhys Harries.

Dywedodd cyfreithwyr Kismet Kebabs mai "ychydig" o fudd ariannol roedden nhw wedi'i wneud
Cafodd Kismet Kebabs ddirwy o £500,000 yn y llys a gorchymyn i dalu £259,298 mewn costau, ar ôl i'r Barnwr Huw Rees ddweud bod y cwmni wedi gweithio gydag "anonestrwydd sylweddol" dros gyfnod hir.
Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd bod diogelwch a safonau bwyd yn y Deyrnas Unedig yn parhau'n uchel ar y cyfan.
"Mae'n rhaid i fwyd – lle bynnag y caiff ei werthu – fod yn ddiogel a chael ei labelu'n gywir," meddai Andrew Quinn, pennaeth uned troseddau bwyd cenedlaethol yr asiantaeth.
Dywedodd Stuart Jessop, a gynrychiolodd Kismet yn y llys, fod y cwmni wedi gwneud newidiadau sylweddol ac wedi gweithredu am sawl blwyddyn heb unrhyw drafferth ers hynny.
Y busnes yn 'sylweddol wahanol' bellach
Mae Kismet Kebabs yn parhau i fod yn un o gyflenwyr cig cebabau mwyaf y Deyrnas Unedig.
Yn 2024, cafodd y cwmni ei achredu gan y BRCGS - Brand Reputation through Compliance Global Standards - sef achrediad safon diogelwch bwyd sy'n cael ei adnabod mewn 130 o wledydd.
Pan gafodd y BRCGS wybod am yr achos llys yn erbyn Kismet Kebabs, cafodd eu hachrediad ei adolygu, a fis diwethaf cafodd y cwmni wybod eu bod yn dal i gydymffurfio.
Mewn datganiad fe ddywedodd Kismet Kebabs Ltd fod y busnes yn "sylweddol wahanol" i sut yr oedd yn cael ei redeg pum mlynedd yn ôl.
"Mae'n bwysig cydnabod bod yr hyn dan sylw yn cyfateb i ddigwyddiadau hanesyddol, a ddim yn adlewyrchu safonau, systemau, strwythur reoli, na'r rheolau gweithredol sy'n bodoli yn y busnes heddiw," ychwanegodd llefarydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.