'Ergyd enfawr' wrth i fuddsoddwr dynnu'n ôl o ffilm Dic Penderyn

Mae Dic Penderfyn wedi ei ddisgrifio fel Braveheart Cymru gan un o'r buddsoddwyr yn y ffilm
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i ddod â hanes Dic Penderyn i'r sgrin fawr wedi dioddef ergyd sylweddol ar ôl i fuddsoddiad £4m gael ei dynnu'n ôl.
Roedd cwmni cynhyrchu Calon Films yn credu bod y prosiect am fywyd Dic Penderyn, dyn y mae llawer yn credu iddo gael ei grogi ar gam yn 1831 am ei ran yng Ngwrthryfel Merthyr, yn symud ymlaen o'r diwedd ar ôl llofnodi cytundeb ar gyfer y buddsoddiad.
Ond mae'r cwmni wedi disgrifio'r datblygiad diweddaraf fel un "torcalonnus", gan honni bod y buddsoddwr wedi methu â chyflawni'r cytundeb wedi iddo gael ei lofnodi ddiwedd 2025.
Pan gysylltodd BBC Cymru â'r buddsoddwr, dewisodd beidio â gwneud sylw.

Stuart Broad (dde) yw cyfarwyddwr cwmni Calon Films ac mae wedi addasu ei ddrama lwyfan, Camwedd, yn sgript ffilm
Dywedodd Stuart Broad, cyfarwyddwr Calon Films, fod y sefyllfa yn "ergyd enfawr".
Roedd y buddsoddwr wedi llofnodi cytundeb ym mis Tachwedd yn gwarantu'r gefnogaeth ariannol o £4m, meddai.
"Roedd y freuddwyd yn dod yn realiti ac roeddwn i'n teimlo bod holl waith caled, angerdd ac ymdrech... y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth."
"Fe wnaethon ni gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar yr unigolyn hwn ac ni ddaeth dim i'r amlwg i awgrymu ein bod yn delio ag unrhyw un amhriodol."
Ond dywedodd fod y cwmni wedi dechrau poeni pan na dderbyniwyd y taliad cyntaf o £500,000 ym mis Chwefror.
"Ar y pwynt hwnnw y cawsom wybod am y tro cyntaf bod ganddyn nhw ddyledion o £36m, ac ein hymateb ni oedd: 'pam mai ond nawr mae hyn yn dod i'r amlwg?'"
Ychwanegodd fod y buddsoddwr wedi dweud wrthynt y byddai "arian yn cael ei ryddhau o hafanau treth tramor" ac felly nad oedd ganddynt "reswm i amau na fyddai'r arian ar gael".

Mae'r Athro Syr Chris Evans yn cefnogi'r ymgyrch i wneud y ffilm ac i glirio enw Dic Penderyn
Bydd y ffilm, o'r enw Iniquity (Camwedd), yn adrodd hanes Richard Lewis, sy'n fwy adnabyddus fel Dic Penderyn.
Daeth i'r amlwg yn sgil Gwrthryfel Merthyr yn 1831, a ddechreuodd ar ôl i weithwyr haearn deimlo eu bod yn cael eu trin yn annheg gan eu cyflogwyr.
Cafodd milwr ei drywanu yn ei goes ac er nad oedd yn gallu adnabod yr ymosodwr, cafodd Richard Lewis ei gyhuddo o'r drosedd.
Cafodd ei ddienyddio yng Ngharchar Caerdydd, a'r gred yw mai ei eiriau olaf oedd: "O Arglwydd, dyma gamwedd."
Yn ôl y cwmni, bydd y ffilm hefyd yn rhan o ymgyrch ehangach i sicrhau pardwn i Dic Penderyn.
Dywedodd Mr Broad: "Rwy'n bersonol yn teimlo bod yr unigolyn hwn wedi achosi camwedd pellach i ddyn gafodd ei grogi ar gam bron i 200 mlynedd yn ôl."
Mae dau fuddsoddwr arall yn parhau i gefnogi'r prosiect.

Dywedodd yr Athro Syr Chris Evans bod cyfle "eithriadol" i adrodd hanes Dic Penderyn i'r byd
Dywedodd un ohonynt, y gwyddonydd a'r entrepreneur, Yr Athro Syr Chris Evans, fod y datblygiad yn "siom fawr", ond ei fod yn benderfynol o weld y prosiect yn symud ymlaen.
"Roedd momentwm arbennig o gryf ar adeg yr ymrwymiad hwnnw ac felly mae hwn yn ergyd, ond mae pob prosiect gwych yn wynebu rhwystrau ac mae'n rhaid delio â nhw a bwrw ymlaen."
"Ces i fy magu yn clywed am Wrthryfel Merthyr a thynged drasig dyn y credir yn eang iddo gael ei ddienyddio ar gam, ac nid yw'r ymdeimlad hwnnw o anghyfiawnder byth yn eich gadael."
"Mae gan y prosiect hwn y gallu i daflu goleuni hirddisgwyliedig ar Dic Penderyn fel merthyr dosbarth gweithiol cyntaf Cymru."
"Mae'r cyfle i fod yn rhan o gynhyrchiad sy'n ceisio nid yn unig adrodd y stori hon yn onest ond hefyd gyfrannu at glirio enw Penderyn yn rhywbeth eithriadol ac yn gyfle i sicrhau cyfiawnder bron i ddwy ganrif yn ddiweddarach."

Mae'r ffilm Iniquity (Camwedd) yn seiliedig ar y cynhyrchiad llwyfan o hanes Dic Penderyn
Mae Brian Jones, sylfaenydd Castell Howell Foods, sydd hefyd yn fuddsoddwr i'r prosiect, hefyd wedi disgrifio'r sefyllfa fel "siom lwyr".
"Mae hyn wedi digwydd ar adeg pan oedd gan Stuart bopeth arall yn ei le."
"Rwy'n dal i gredu ei bod yn bwysig bod y ffilm hon yn cael ei gwneud ac y dylid rhoi pardwn i Richard Lewis."
"Felly rwy'n gobeithio y bydd eraill yn dod ymlaen."
"I mi, dyma Braveheart Cymru, ac mae'n dal yn bosibl y gall pobl Cymru wneud i'r ffilm hon ddigwydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2022

- Cyhoeddwyd31 Awst 2024

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
