Cyn-weinidog 'ddim yn clywed BBC Cymru'n dadlau'r achos dros ei dyfodol'

Alun Davies (2026)
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n ymddangos i fi, bod penaethiaid y BBC, naill ai ddim yn gwrando ar anghenion Cymru, neu ddim yn deall beth yw'r anghenion," medd Alun Davies

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-weinidog y Gymraeg wedi beirniadu toriadau BBC Cymru yn llym, gan awgrymu nad yw penaethiaid yn dadlau'r achos dros rôl y corff yng Nghymru.

Daeth sylwadau Alun Davies fore Gwener yn dilyn cyhoeddiad BBC Cymru ddydd Iau am "becyn o arbedion" fel rhan o'u cynlluniau i fynd i'r afael â phwysau ariannol.

Yn rhan o'r pecyn hwnnw bydd rhaglen radio Dros Ginio ar Radio Cymru yn dod i ben, yn ogystal â Dros Frecwast ac Ar y Marc ar foreau Sadwrn.

Dywedodd BBC Cymru ddydd Iau eu bod "fel pob rhan arall o'r sefydliad, yn gorfod cyfrannu [at arbed arian] tra'n ceisio diogelu ansawdd, perthnasedd ac effaith ei hallbwn ar draws gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein".

Doedd BBC Cymru ddim am ymateb yn benodol i sylwadau Mr Davies.

Dywedodd cyfarwyddwr dros dro BBC Cymru, Garmon Rhys, ar Dros Ginio brynhawn Gwener fod "newid i fodel ffi'r drwydded yn gyfan gwbl angenrheidiol".

"Ni nawr mewn sefyllfa lle mae 94% o bobl ym Mhrydain yn defnyddio gwasanaethau'r BBC bob mis, dim ond 80% o dai sy'n talu am y BBC."

Disgrifiad,

Mae "dyletswydd i sicrhau gwasanaeth i bawb" ymysg toriadau'r BBC, meddai Garmon Rhys

Dywedodd Alun Davies ar raglen Dros Frecwast fore Gwener bod Cymru yn dibynnu'n fwy ar y gorfforaeth nag y mae Lloegr a'r Alban gan fod llai o gyfryngau Cymraeg, a bydd effaith y penderfyniadau yn fwy o'r herwydd.

"Mae'n ymddangos i fi bod penaethiaid y BBC naill ai ddim yn gwrando ar anghenion Cymru, neu ddim yn deall beth yw'r anghenion.

"Rhaid i benaethiaid BBC Cymru sicrhau bod achos Cymru yn cael ei glywed yn Llundain."

Arbedion BBC yn 'foment dyngedfennol' i ddarlledu yng Nghymru

Garmon Rhys yn cael ei holi ar Dros Ginio

Fel gweinidog oedd yn arfer bod yn gyfrifol am y polisi darlledu o fewn cyn-lywodraeth Lafur Cymru, dywedodd Mr Davies: "Dwi ddim wedi clywed BBC Cymru yn dadlau dros ddyfodol BBC Cymru.

"Dwi'n gweld lot o PR ganddyn nhw - tocynnau rygbi a stwff - ond be' dwi ddim yn clywed ydy'r gwaith difrifol polisi, sydd angen gwneud i sicrhau lle i'r BBC yng Nghymru.

"Mae hynny wedi bod yn fethiant parhaol dros gyfnod ac mae'n rhaid cydnabod hynny.

"Rhaid i benaethiaid y BBC gydnabod eu rôl nhw fel darlledwr cyhoeddus.

"Dyw e' ddim yn ddigonol i ddisgwyl i fi dalu'r drwydded [deledu] ac wedyn 'ny bo' fi ddim yn cael y gwasanaethau sy'n adlewyrchu fy mywyd, iaith, diwylliant a fy ngwlad i."

Y Fonesig Elan Closs Stephens (2022)
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig "peidio troi yn erbyn ein gilydd, ond edrych ar y flwyddyn sydd o'n blaenau ni", medd y Fonesig Elan Closs Stephens

Cwestiynodd Alun Davies ddyfodol y BBC yng Nghymru, gan ddweud mai'r "alternative yw bo' ni just derbyn y toriadau a mwy o doriadau yn y blynyddoedd sy'n dod".

"Be' yw dyfodol y drwydded? Dwi ddim yn gweld bod e' am allu parhau.

"Dyw e' ddim yn cael ei gasglu yn yr un ffordd heddiw nag oedd e'n cael 20 neu 30 mlynedd yn ôl.

"Y lleiaf o bobl sy'n talu'r drwydded, y lleiaf o incwm sy'n dod i'r BBC.

"Felly mae'n sefyllfa go fregus i ddarlledwyr cyhoeddus."

'Tyfu cynulleidfaoedd yn ddigidol'

Dywedodd cyfarwyddwr dros dro BBC Cymru, Garmon Rhys, ar Dros Ginio brynhawn Gwener fod pwyslais wedi bod ar dyfu platfformau digidol.

"Ni 'di gorfod edrych ar bopeth ni'n neud ar draws ein gwasanaethau yn yr iaith Saesneg a'r Gymraeg."

Yn rhan o hynny, meddai, roedd "amddiffyn y rhannau o'r amserlenni llinol a'n allbwn digidol ni, lle ma' cyrhaeddiad y cynulleidfaoedd ar ei gryfaf".

"Ni wedi bod yn tyfu ein cynulleidfaoedd yn ddigidol, a ni wedi gweld llwyddiant ar draws ein platfformie' digidol, wrth i gynulleidfaoedd newid y ffordd y maen nhw'n cael mynediad at ein cynnwys ni.

"Felly... ni hefyd wedi ceisio sicrhau na fyddwn ni'n gwneud unrhyw beth fydd yn stopio hynny rhag digwydd."

Adeilad y BBC yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaglen radio Dros Ginio ar Radio Cymru yn dod i ben, yn ogystal â Dros Frecwast ac Ar y Marc ar foreau Sadwrn

O ran rhwystredigaeth y gynulleidfa, dywedodd Garmon Rhys ei fod yn "deall yr ymateb - ma' fe'n adlewyrchu sut ma'n cynulleidfaoedd ni'n trysori gwasanaeth Radio Cymru".

Yr her y mae BBC Cymru yn ei wynebu, meddai, yw bod pob un o'r gwasanaethau yn "unigryw".

Pwysleisiodd bod "ymrwymiad creiddiol i newyddiaduraeth yn parhau" trwy Dros Frecwast, Post Prynhawn a "rhaglen newydd wythnosol ar ddyddiau Gwener".

Yn ymateb i awgrym bod mwy o newidiadau i Radio Cymru nac i adrannau eraill o fewn BBC Cymru, dywedodd: "Na, yn ariannol galla' i ddeud yn blwmp ac yn blaen bod hynny ddim yn gywir.

"Mae'r gostyngiad yng nghyllideb Radio Cymru a Radio Wales yr un peth â'i gilydd," meddai, ond bod yr amserlenni yn wahanol "a does 'na ddim rhaglen gyffelyb i Dros Ginio ar Radio Wales".

'Newid model ffi'r drwydded yn angenrheidiol'

Yr her sylfaenol yn ôl Mr Rhys, ydy bod "model ffi'r drwydded sydd wedi'i wreiddio mewn byd arall".

"Ni nawr mewn sefyllfa lle mae 94% o bobl ym Mhrydain yn defnyddio gwasanaethau'r BBC bob mis, dim ond 80% o dai sy'n talu am y BBC."

Wrth ymateb i awgrym bod nifer o'r rhai sy'n talu'r ffi o bosib yn gynulleidfa hŷn a bod y BBC yn blaenoriaethu'r to iau, dywedodd bod "dyletswydd ganddon ni o dan y siarter i sicrhau gwasanaeth i bawb, i bob cynulleidfa".

"Ma' newid i fodel ffi'r drwydded yn gyfan gwbl angenrheidiol," meddai gan ragweld mai dim ond gostwng a fydd y nifer sy'n talu "a bydd y BBC yn parhau i wynebu heriau ariannol".

Ni wnaeth Garmon Rhys wadu y byddai mwy o doriadau yn bosib yn y dyfodol: "Mae'n rhaid i ni barhau i edrych ar ein cyllidebau a pharhau i asesu."

Yn ôl y Fonesig Elan Closs Stephens - aelod o fwrdd y BBC a fu'n gadeirydd y gorfforaeth am gyfnod yn 2023 a 2024 - mae'r toriadau yn "drist" ond yn anochel.

"Mae o'n ddiwrnod trist iawn i bawb sy'n gweithio yn y gorfforaeth yng Nghymru 'swn i'n tybio," meddai ar Dros Frecwast.

"Yn enwedig o weld y posibilrwydd o weld colli cwmni nifer helaeth o gydweithwyr."

Ond mae'r toriadau yn anochel, ac yn "symptom o'r £500m" y mae angen i'r BBC ei arbed.

'Toriadau anodd ofnadwy'

"'Swn i'n tybio does neb eisiau'r math yma o doriadau, ac felly dwi ddim yma i amddiffyn penderfyniadau'r penaethiaid," meddai.

"Ond o 'nabod rhywun fel Garmon Rhys, sydd yng ngofal gwasanaethau Cymreig y BBC, dwi ddim yn credu y byddai'r toriadau yma wedi cael eu gwneud ar frys nac yn ddifeddwl.

"Ma' nhw'n bownd o fod wedi bod yn doriadau anodd ofnadwy i'w gwneud."

Ychwanegodd, "trwy bwyso a mesur", er bod rhaglen "werthfawr iawn" yn cael ei cholli amser cinio, "'dach chi hefyd yn gwarchod Radio Cymru 2 - sy'n rhoi'r iaith ar waith i bobl sy' ddim mor gyfforddus yn yr iaith".

Mynedfa BBC Cymru, CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i'r BBC gyflawni arbedion o tua £500m

O'i holi a yw hi'n poeni y bydd y gwasanaethau drwyddi draw yn gwanhau yn sgil yr arbedion, dywedodd: "Wrth gwrs mi fydd 'na wanhau.

"Allwch chi'm colli £9m allan o wasanaethau Cymreig heb fod 'na golledion unigol a gwahanol ffrydie' yn cael eu colli.

"Mewn byd delfrydol 'dach chi ddim yn gorfod g'neud dewis rhwng mynd am y digidol, mynd am bodlediade', a mynd am raglen fyw radio.

"Ond dydan ni ddim yn byw yn y byd delfrydol, ac os galla'i ddeud - dwi'n meddwl bo' ni angen bod yn hollol strategol fel cenedl fan hyn - peidio troi yn erbyn ein gilydd ond edrych ar y flwyddyn sydd o'n blaene' ni.

"Ma' hi'n flwyddyn dyngedfennol, 'swn i'n deud bo' ni ar y dibyn cyn belled a ma' gwasanaethau cyhoeddus yn y fantol.

"Felly mae'n hollbwysig bo' ni'n ymladd i'r carn i gael setliad da i Gymru yn y siarter newydd sydd yn digwydd flwyddyn nesa'."

'Cam pwysig tuag at fodloni targed'

Dywedodd BBC Cymru ddydd Iau eu bod "fel pob rhan arall o'r sefydliad, yn gorfod cyfrannu [at arbed arian] tra'n ceisio diogelu ansawdd, perthnasedd ac effaith ei hallbwn ar draws gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein".

"Drwy gydol y broses hon, mae BBC Cymru wedi ceisio lleihau'r effaith ar gynulleidfaoedd a chanolbwyntio'r buddsoddiad ar feysydd sy'n cynnig y gwerth a'r twf mwyaf i gynulleidfaoedd.

"Serch hynny, bydd arbedion pellach i'w gwneud wrth i'r sefyllfa am gyllid y BBC ac anghenion newidiol y gynulleidfa ddatblygu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.