87 mlynedd o garchar i bum aelod gang am fanteisio ar ferched ifanc yn rhywiol

Cafwyd Mustafa Iqbal, Mohamed Usman Arshad a Ziaullah Badshah yn euog o dreisio'r merched
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar dyn ac un ddynes oedd yn rhan o gang yn Sir Ddinbych a fanteisiodd yn rhywiol ar dair merch yn eu harddegau ar ôl rhoi cyffuriau iddyn nhw, wedi eu dedfrydu i gyfanswm o 87 mlynedd o dan glo.
Fe ddyfarnodd reithgor yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Awst fod y dynion yn rhan o gynllwyn i fasnachu'r merched, oedd yn 14, 15, ac 16 oed ar y pryd.
Dyfarnodd hefyd fod tri o'r dynion - Mustafa Iqbal, 43, Ziaullah Badshah, 25, ac Mohamed Usman Arshad, 36 - yn euog o'u treisio.
Daeth y cynllwyn i'r amlwg wedi i ffrind arall - Jaswinder Singh, 61 - fynd ag un o'r merched ar drip i Lundain, gan ysgogi pryder ynghylch ei lles.
Cafwyd y pumed diffynnydd - Sarah Gray, 53, o bentref Gronant - yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau i un o'r merched ac o gynorthwyo troseddwr trwy adael i Iqbal ddefnyddio ystafell wely yn ei chartref ble y treisiodd un o'r merched.
Y Dedfrydau
Wedi ei ddisgrifio fel arweinydd y gang, cafodd Mustafa Iqbal ei ddedfrydu i gyfanswm o 35 mlynedd am 21 o gyhuddiadau yn cynnwys masnachu pobl, treisio ac annog plentyn i fod yn rhan o weithred ryw.
Bydd pum mlynedd o'r ddedfryd yn cael ei threulio ar drwydded.
Cafodd Mohamed Usman Arshad ddedfryd o 19 mlynedd o garchar am fasnachu rhywiol a threisio.
Cafodd Ziaullah Badshah ddedfryd o 17 mlynedd, a bydd Jaswinder Shingh yn treulio wyth mlynedd dan glo am fasnachu a throseddau yn ymwneud â chyffuriau.
Cafodd Sarah Gray hefyd ddedfryd o wyth mlynedd o dan glo.
Bydd y pedwar dyn yn aros ar y gofrestr o droseddwyr rhyw am gyfnod amhenodol.
Dywedodd y barnwr, Simon Mills, bod troseddau'r pump wedi achosi "niwed seicolegol difrifol" i'r dioddefwyr.
Aeth ymlaen i ddisgrifio Iqbal fel person "cyfrwys a thwyllodrus" oedd yn "beryglus i ferched ifanc".

Aeth Jaswinder Singh ag un o'r merched ar drip i Lundain, tra bod Sarah Gray yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a chynorthwyo troseddwr
Mewn achos a barodd am dri mis, clywodd y llys fod Iqbal, deliwr cyffuriau lleol a phrif droseddwr yr achos, wedi cwrdd dau o'r dioddefwyr yn Y Rhyl, Plentyn B a Phlentyn C, a'u perswadio i fynd i'w gartref.
Ymunodd Arshad, perchennog siop goffi leol, a'i ffrind yntau Badshah â nhw, ac aeth y tri ati i gam-drin y merched yr un diwrnod ac ar achlysuron eraill mewn mannau eraill yn y dref.
Cafwyd Iqbal hefyd yn euog o dreisio Plentyn A, oedd yn byw mewn cartref gofal, a rhoi cocên a chanabis iddi fel tâl am wasanaethau rhywiol.
Clywodd y llys fod Plentyn A wedi mynd at yr heddlu ar ôl cael ei rhoi mewn gefynnau (handcuffs) a'i threisio ganddo.
Dywedodd yr erlyniad fod y dynion wedi defnyddio'r merched fel "nwyddau rhywiol".

Roedd siop goffi, oedd yn eiddo i Mohamed Usman Arshad yn cael ei defnyddio fel man cyfarfod i'r dynion
Ar ddiwedd yr achos dywedodd Louisa Robertson o Wasanaeth Erlyn y Goron:
"Manteisiodd Iqbal, Arshad a Badshah yn rhywiol ar y plant hyn gan ddefnyddio alcohol a chyffuriau i'w gorfodi.
"Roedd Singh a Gray wedi chwarae rhan mewn ecsbloetio merched agored i niwed.
"Mae unrhyw gam-drin rhywiol yn ffiaidd, ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd pob cyhuddiad o gam-drin o ddifri'.
"Dangosodd dioddefwyr y troseddau dychrynllyd hyn ddewrder mawr wrth siarad yn erbyn eu camdrinwyr, a'u cryfder nhw sydd wedi ein galluogi i ddwyn pawb a gyhuddwyd o flaen eu gwell."
Adolygiad diogelu
Mae Heddlu'r Gogledd hefyd wedi cadarnhau bod adolygiad diogelu yn cael ei gynnal, ar ôl i'r ymchwiliad gwreiddiol yn 2022 ddod i ben oherwydd materion yn ymwneud â thystiolaeth.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cyfeirio'r ymchwiliad gwreiddiol at Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru, a bod hynny'n adlewyrchu eu "hymrwymiad i sicrhau bod ymchwiliadau yn cael eu hadolygu'n briodol, ac unrhyw wersi yn cael eu dysgu".
Fe ychwanegon nhw bod yr achos gwreiddiol wedi cael ei ail-agor gan Heddlu'r Gogledd, gan arwain at yr erlyniadau a'r dedfrydau ddydd Gwener.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill

- Cyhoeddwyd23 Mehefin
