Dyn yn dweud bod cyhuddiad iddo dreisio merch yn 'anghrediniol'

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae perchennog caffi wedi dweud wrth reithgor bod cyhuddiad ei fod wedi treisio merch yn ei harddegau mewn stryd gefn yn "anghrediniol".

Mae Mohamed Usman Arshad yn un o bedwar dyn o'r Rhyl sy'n wynebu cyhuddiadau o gam-fanteisio rhywiol a masnachu pobl.

Mae'n gwadu tri chyhuddiad o dreisio, cynllwynio i fasnachu pobl, llafur gorfodol a chyflenwi canabis i ddwy ferch 14 a 15 oed.

Roedd yn rhoi tystiolaeth am y tro cyntaf, wrth i ddadleuon yr amddiffyniad ddechrau cael eu clywed.

Ond cafodd y rheithgor wybod na fyddai prif ddiffynnydd yr achos, Mustafa Iqbal, yn cael ei alw i roi tystiolaeth.

Mae'n wynebu pedwar cyhuddiad o dreisio a honiadau o ymosodiad rhywiol, ynghyd â honiadau o fasnachu pobl, cam-fanteisio, a throseddau cyffuriau sy'n ymwneud â'r ddwy ferch a thrydedd ferch oedd yn 16 oed ar y pryd.

'Roedd dwy ferch gyda Mr Iqbal'

Dywedodd Mr Arshad, 36, wrth y rheithgor ei fod wedi dod yn ffrindiau gydag Mr Iqbal tra'n gweithio mewn bwyty tecawê yn y dref.

Yn ei ôl ef, roedd Mr Iqbal wedi gweithio iddo am gyfnod, gan helpu yng nghaffi Zayn's Coffee House yr oedd yn ei redeg, ynghyd â siop bysgod a sglodion drws nesaf.

Dywedodd wrth y llys ei fod wedi bod yn siopa'n hwyr gyda diffynnydd arall, Ziaullah Badshah, ym mis Mawrth 2022 pan gafodd ei wahodd i gartref Mr Iqbal.

"Cyrhaeddon ni yno ac roedd dwy ferch gyda Mr Iqbal," meddai Mr Arshad.

"Roedden nhw'n chwarae cerddoriaeth a ballu, yn ymlacio."

Y siopau
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Arshad fod Mr Iqbal wedi gweithio iddo am gyfnod, gan helpu yng nghaffi Zayn's Coffee House a siop bysgod a sglodion drws nesaf

Dywedodd Mr Arshad iddo gael sgwrs fer gydag un o'r merched, sy'n cael ei galw yn Blentyn B, a dechrau chwarae gêm o spin the bottle, gan arwain at y ferch yn cael ei chusanu gan y cyd-ddiffynnydd, Mr Badshah.

Dywedodd bod y ferch wedi dweud wrtho ei bod hi'n 17 oed ac mai dim ond pan ddaeth honiadau o gam-drin rhywiol i'r amlwg y gwnaeth ganfod ei bod hi'n 15 oed.

Clywodd y rheithgor bod y ferch wedi dod i'w gaffi yn y dyddiau canlynol a gofyn am swydd.

Wrth gael ei holi'n uniongyrchol gan ei fargyfreithiwr amddiffyn, a oedd wedi cael rhyw geneuol (oral sex) gyda'r ferch y tu ôl i'r caffi, gwrthododd Mr Arshad yr honiad.

'Ydw i'n mynd i roi popeth yn y fantol?'

Honnodd Mr Arshad fod yr ardal gyfan wedi'i gorchuddio â chamerâu CCTV a byddai'n rhaid iddo fod wedi mynd â'r ferch trwy'r caffi, heibio o leiaf dau aelod o staff.

"Dydw i ddim yn deall sut mae hynny'n rhesymegol," meddai.

"Mae fy mam a 'nhad drws nesaf. Mae'n anghrediniol i mi. Mae fy ngwraig yn dod i'r siop. Ydw i'n mynd i roi popeth yn y fantol?"

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig