Millie y Shih Tzu gofalgar yn cael croeso mawr gan gleifion

MillieFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Eleni mae 'na Shih Tzu gofalgar o Landudno wedi ei henwebu am wobr Gwneud Gwahaniaeth y BBC, sy'n dathlu rhai o bobl - ac anifeiliaid - arbennig ein cymunedau.

Mae stori y ci therapi Millie a'i pherchennog Jane Jones yn cychwyn tua wyth mlynedd yn ôl pan gafodd Jane a Millie eu hannog i ymuno â elusen cŵn therapi.

Erbyn hyn mae Millie, sy'n 10 oed, a Jane yn ymwelwyr cyson ag Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd ym Mangor, lle maen nhw'n cefnogi cleifion a staff. Hefyd mae'r pâr yn ymweld ag ysgolion Rhosgadfan a Phenisarwaen i wrando ar y plant yn darllen.

Cychwynodd yr holl beth pan oedd Jane yn mynd i glwb hyfforddi cŵn ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle, ac fe ofynodd yr hyfforddwr yno os oedd hi wedi meddwl asesu Millie i fod yn gi therapi.

Cafodd Millie ei hasesiad i fod yn gi therapi mewn maes parcio Tesco lleol.

Ac erbyn hyn mae Millie, ac hefyd Jane, wrth eu boddau hefo'r gwaith maen nhw yn ei wneud.

Meddai Jane: "Dwi'n falch mod i yn medru llenwi'r bwlch ychydig i'r bobl yn yr ysbyty. Efallai fod ganddyn nhw gi ei hunain. Dwi'n meddwl sut fyswn i yn teimlo os fyswn i yn yr ysbyty."

Millie a JaneFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Millie a Jane

Roedd angen tri mis o ymweliadau cyn i Millie gychwyn yn swyddogol fel ci therapi. Treuliodd y ddwy y tri mis yn ymweld â chartref nyrsio.

Meddai Jane mewn sgwrs ar Bore Cothi ar Radio Cymru: "Mae Millie wrth ei bodd efo sylw. Mae'n gwybod pan 'da ni'n cerdded i mewn i Ysbyty Gwynedd, pan 'da ni'n mynd trwy'r drysau yna, mae'r Shih Tzu walk yn dod allan.

"Mae pawb yn gweld hi a gofyn i roi mwythau.

"Dw i wedi bod yna unwaith a dim ond un claf welais i. Ond mae'r un yna mor bwysig ag os fyddwn wedi gweld pump neu chwech achos gesh i fwy o amser i siarad efo'r un yna.

"Ac oeddan nhw'n methu diolch digon.

"Pan maen nhw'n gweld Millie 'da chi'n gweld eu gwynebau nhw yn goleuo i fyny a maen nhw'n rhoi mwythau iddi. Mae gan Millie wallt hir a maen nhw'n chwarae efo'i gwallt hi a 'dach chi'n gweld nhw'n llonyddu.

Millie a Jane yn cyrraedd yr ysbyty yn barod i gyfarfod cleifionFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Millie a Jane yn cyrraedd yr ysbyty yn barod i gyfarfod cleifion

"O'n i efo un claf a dim ond ei llygaid o'n i'n gweld. A oedd ei llygaid hi 'di goleuo i fyny pan yn mwytho Millie.

"Dyna pam 'da ni'n neud o."

Mae Jane a Millie wedi cael eu ffilmio wrth eu gwaith yn Ysbyty Gwynedd ar gyfer y gwobrau Gwneud Gwahaniaeth gyda'r seremoni yn digwydd ym mis Medi.

Roedd Jane wedi ei synnu gan ymateb y staff i'w gwaith: "Mi oedd y staff pan wnaethon ni'r ffilmio yn gefnogol tu hwnt. O'n i'n gwybod bod Millie'n gwneud gwahaniaeth a bod nhw'n falch o'i gweld hi.

"Ond ar ôl y ffilmio, dw i wedi sylweddoli gymaint mae Millie yn gwneud gwahaniaeth yna."

Disgrifiad,

Millie y ci therapi sy'n gwneud gwahaniaeth yng Ngwynedd

Ac mae Jane yn hynod o falch i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau: "Dw i'n meddwl os dw i'n cyrraedd y pedwar cyntaf ac wedi gweld be' mae Millie yn neud a be' mae pobol eraill yn feddwl am be' mae Millie yn neud, dw i'n cysidro fy hun bod ni wedi ennill."

Mae gan Jane ffrind i'w diolch am fod yn y gwobrau eleni gan mae ei chyfaill Meg o'r clwb hyfforddi cŵn ym Mhenygroes sy' wedi enwebu'r pâr.

Meddai Jane: "Roedd Meg yn dysgu fi yno ac yn 'nabod Millie ers blynyddoedd. A 'dan ni wedi dod yn ffrindia, 'dan ni'n cael hwyl yna, a fan'no gafodd Millie hyfforddiant da.

"Mae o yn Millie. A lle bynnag byddai'n gofyn iddi hi fynd, dw i'n gwybod wneith hi ymateb yn llonydd ac yn ddistaw.

"Achos 'dan ni'n mynd i wahanol lefydd. 'Dan ni'n mynd i Pontio i weld myfyrwyr. 'Dan ni'n mynd i siarad am yr elusen, a mae Millie yn eistedd yn ddistaw.

"Mae hi wrth ei bodd."

Mi fydd Jane yn 80 oed nesaf ac wedi ymddeol o 'weithio' ers 23 o flynyddoedd – yn gyntaf fel nyrs, ac wedyn yn gofalu yn y gymuned.

Meddai: "Welai ddim fy 79 eto, ond does gen i ddim amser i fynd yn hen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.