Y cymydog arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn Llanusyllt
Mae Delwen Williams wedi'i henwebu am wobr arbennig
- Cyhoeddwyd
Dim ond ers cwta dair blynedd mae Delwen Williams wedi bod yn byw yn Llanusyllt, ond mae hynny'n ddigon o amser i bobl yr ardal ei henwebu am wobr arbennig.
Mae gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC yn cael eu cynnal eto eleni ac mae Delwen wedi'i henwebu yn y categori Cymydog y Flwyddyn.
Ers ymddeol fel athrawes yn ardal Penarth fe symudodd Delwen i'r pentref ger y môr, ger Dinbych y Pysgod.
Mae hi wedi sefydlu côr newydd i ferched dros 50 oed, Côr y Môr ac mae hi'n cynnal sesiynau siarad Cymraeg yn y pentref hefyd.
Efallai fod enw Saesneg y dref yn fwy cyfarwydd i ambell un, sef Saundersfoot; mae'n ardal boblogaidd gyda thwristiaid a phrin yw'r Gymraeg sy'n cael ei chlywed yno.
Ond, mae Delwen wedi ceisio newid hynny, dywedodd:
"Nes i sefydlu'r côr oherwydd pan symudais i fyny ar ôl ymddeol, o'n i wir yn gweld eisiau siarad Cymraeg a bach fiwsig.
"Wrth bod fi'n rhedeg gyda'n ffrindiau - o'n i'n aelod o Couch to 5K - roedd nhw i gyd yn sôn bod e'n neis i ni falle dechrau cwrdd gyda'n gilydd.
"Wedes i, wel fi erioed wedi dysgu oedolion o'r blan, o'n i'n athrawes plant bach felly o'n i ddim yn cweit yn digon hyderus i wneud.
"Ond ar ôl bach o berswadio, nes i gytuno i dechrau cwrdd. Ni wedi canu mewn boreau coffi lleol, a ni wedi canu mewn cartrefi henoed.
"Ni wedi canu mewn cyngherddau gyda Côr Meibion Dinbych Pysgod. A jest canu o gwmpas yr ardal leol hyfryd yma," meddai.

Erbyn hyn mae 50 o aelodau yn y côr gyda'r hynaf yn 76 oed.
Maen nhw'n cwrdd unwaith yr wythnos i ymarfer ac mae ambell un hefyd yn ymuno gyda Delwen yn y sesiynau sgwrsio Cymraeg.
Yn ôl Delwen mae "cymysgedd o bobl yn ymuno – rhai sydd wedi colli'r Gymraeg ac am ail-gydio ynddi neu rai sydd ag wyrion yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol ac ati."
Un sy'n aelod o'r côr ac sy'n falch o arweiniad Delwen yw Meinir.
"Rwy'n byw yn yr ardal yma ers 20 o flynyddoedd a rwy'n siarad Cymraeg, dwi'n hoffi siarad Cymraeg ac yn hoffi canu yn y Gymraeg, ond does dim llawer o Gymraeg yn cael ei siarad na chanu yma tan daeth Del.
"Mae Del mor dda, dechreuodd hi Côr y Môr a fi'n hoffi canu fan hyn gyda Del. Mae Del fel awyr iach i Saundersfoot, mae llawer o sbri a hiwmor gyda hi ac mae'n codi calonnau pawb.
"Mae hi hefyd wedi dechrau dosbarthiadau Cymraeg i rai sy'n dechrau a rhai sy'n siarad Cymraeg i gael coffi a clonc pob wythnos.
"Mae'n fenyw mor neis a mor dda i'r gymuned fan hyn. Hebddi hi dwi ddim yn credu byse Saundersfoot yn gwneud mor dda," meddai.
Beth yw'r gyfrinach felly a pham fod y côr mor boblogaidd? Dywedodd Delwen:
"Dwi'n credu fod y ffaith ein bod ni'n cynnig cacen a prosecco yn helpu, mae pawb yn joio hwnna!
"Ond yn bennaf rwy'n credu maen nhw'n mwynhau cyfeillgarwch ei gilydd. A bod nhw'n mwynhau canu gyda'n gilydd," meddai.
Bydd enillwyr gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar 19 Medi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd19 Mehefin

- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2025
