Cymro 21 oed yn ennill Ironman 70.3 yn yr Eidal - yn ei ras hir gyntaf erioed

Deri McCluskey (yn y canol) gyda Marco Lorenzon a Janne Büttel yn dilyn ei fuddugoliaeth yn y ras Ironman 70.3 yn yr Eidal
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro 21 oed wedi ennill cystadleuaeth Ironman 70.3 yn yr Eidal, a hynny yn ei ras hir gyntaf erioed.
Fe groesodd Deri McCluskey y llinell derfyn yn Ironman 70.3 Emilia-Romagna ddydd Sul mewn tair awr, 44 munud a 23 eiliad.
Roedd y ras yn cynnwys 1.9 cilometr o nofio, 90 cilometr ar y beic ac yna hanner marathon o 21.1 cilometr.
Deri oedd yr ieuengaf yn y ras, ac mae'r fuddugoliaeth yn ei alluogi i fynd ymlaen i gystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd Ironman 70.3 yn Chattanooga yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn nesaf.
Ei uchelgais nawr yw datblygu a cheisio bod yn athletwr proffesiynol mewn camp sy'n tyfu bob blwyddyn.

Mae Deri McCluskey wedi bod yn hyfforddi gyda charfan broffesiynol ers dechrau astudio ym Mhrifysgol Caerdydd
"Hon oedd y ras hir gyntaf i fi 'rioed, felly o'n i ddim wir yn gwybod beth i'w ddisgwyl," meddai.
"O'n i'n gwybod mod i wedi hyfforddi'n dda, ond mae'n beth hollol wahanol pan ti'n mynd allan yna ac yn rasio yn erbyn y bois yma.
"Felly i ddod oddi yno efo'r fuddugoliaeth, o'n i wrth fy modd."
'Cymryd o lot mwy o ddifri'
Yn wreiddiol o Lanymynech, Powys, fe ddechreuodd Deri wneud triathlon pan oedd yn yr ysgol a'r chweched dosbarth.
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru: "Roedd Mam jest yn danfon fi i bob math o chwaraeon achos ro'n i'n mwynhau popeth ac wedyn wnaethon ni ffeindio rhywbeth oedd yn cyfuno tri o fy hoff chwaraeon."
Mae Deri bellach yn astudio gwyddor fiofeddygol yng Nghaerdydd ac yn hyfforddi gyda charfan broffesiynol.
"Ers dod i Gaerdydd dwi wedi gallu cymryd o lot mwy o ddifri'," meddai.
"Un o'r rhesymau nes i ddewis Caerdydd oedd bod y sgwad yma a mod i'n gallu hyfforddi efo nhw, ond hefyd cael gwneud y radd ar yr un pryd.
"Mae'n gallu bod yn lot i'w gyfuno weithiau, ond dwi'n mwynhau fo."

Deri McCluskey ar y podiwm gyda Marco Lorenzon a Janne Büttel
Yn y ras yn yr Eidal dros y penwythnos, Deri oedd y cyflymaf yn y cymal nofio, gan ddod allan o'r dŵr ar y blaen ar ôl 23 munud a thair eiliad.
Ond fe gollodd dir yn ystod y cymal beicio cyn brwydro'n ôl yn ystod yr hanner marathon.
Fe gwblhaodd y cymal rhedeg mewn awr, 12 munud a 23 eiliad - yr amser cyflymaf o blith y dynion proffesiynol.
"O'n i'n teimlo'n dda iawn yn y nofio ac o'n i'r cyntaf allan o'r dŵr," meddai.
"Ond fe gollais i dipyn bach o amser ar y beic. O'n i tua'r chweched safle erbyn dechrau'r rhedeg, felly o'n i'n gwybod bod rhaid i fi redeg yn dda.
"Wedyn o'n i jest yn pasio un ar ôl y llall. Pan welais i'r boi oedd ar y blaen, o'n i'n gwybod bod gen i gyfle."
Roedd cariad a theulu Deri wedi mynd draw i'r Eidal i'w gefnogi.
"Maen nhw wedi gweld faint o waith sy'n mynd mewn i'r hyfforddi, felly cael nhw yna ar y diwedd ar ôl ennill, oedd o'n sbesial iawn," meddai.
Gobeithio cael gyrfa yn y gamp
Cyn symud i'r pellter hirach, roedd Deri wedi cystadlu mewn rasys triathlon byrrach, gan gynnwys cystadlaethau Ewropeaidd a rasys yn cynrychioli Prydain.
Ond mae'r fuddugoliaeth yn yr Eidal wedi rhoi hyder iddo y gall gystadlu dros bellteroedd hirach hefyd.
Ei her nesaf fydd ras ym Malaga fis Hydref, cyn cystadlu mewn Ironman 70.3 arall yn Oman ym mis Chwefror.
Ei nod ydy parhau i hyfforddi a gweld pa mor bell all o fynd mewn camp sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'n bosib rŵan gwneud digon o bres - mae dros £100,000 ar gael os ti'n ennill pencampwriaethau'r byd ac mae 'na fwy o sponsors yn dod i'r gamp bob diwrnod," meddai.
"Mae'n tyfu'n hynod o gyflym ac yn edrych bod o'n sustainable hefyd sydd yn wych i fi.
"Dwi jest yn trio gneud y mwya' o hynny i fi allu trio gwneud gyrfa o rywbeth dwi'n wir yn mwynhau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi

- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2025

