Lluniau: Ironman Cymru 2026
- Cyhoeddwyd
Daeth miloedd i Sir Benfro dros y penwythnos i wylio ras Ironman Cymru.
Mae'r gystadleuaeth yn her enfawr: nofio 2.4 milltir, beicio 112 milltir a rhedeg marathon o 26.2 milltir.
Un oedd yno yng nghanol y cyffro oedd y ffotograffydd lleol, Gareth Davies.
Dyma rai o ddelweddau Gareth o'r digwyddiad.


Anthem Cymru'n cael ei chanu gan y cystadleuwyr a'r dorf, cyn i'r triathlwyr redeg i'r môr

Dechrau'r cam cyntaf, nofio 2.4 milltir (3.8 km) oddi ar Dinbych y Pysgod

Cyrraedd y môr

Y nofwyr yn dychwelyd i'r lan

Digon o gyffro ar y lan

Wedi'r nofio roedd rhaid i'r cystadleuwyr rasio am 112 milltir ar y beic

Dringo'r elltydd ar gefn y beic

Dinbych y Pysgod yn y cefndir

Roedd tipyn o law ar y dydd, ond roedd yr awyrgylch dal yn drydanol

Roedd hi'n achlysur carnifal i ambell un yn y dorf

Gwnaeth anaf pen-glin ddim effeithio ar yr athletwr dewr yma

Yr emosiynau'n amlwg wedi gorffen y ras

Cefnogwyr ifanc yn annog eu rhieni

Cystadleuydd balch ar y llinell derfyn

Enillydd ras y dynion, Henrik Goesch o'r Ffindir, yn croesi'r llinell derfyn

Enillydd ras y menywod, Nikki Bartlett. Roedd Bartlett hefyd yn fuddugol yn 2023

Cwblhaodd Henrik Goesch y ras mewn amser o wyth awr, 31 munud ac 31 eiliad
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd17 Mai

- Cyhoeddwyd21 Medi 2025
