Disgwyl i beilotiaid 'wella'n llwyr' ar ôl i awyren ddisgyn ym Môn

Roedd yr awyren wedi ffrwydro wrth iddi daro'r ddaear yn ardal Pencarnisiog ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae'r Awyrlu Brenhinol (RAF) wedi dweud bod disgwyl i ddau beilot wnaeth ddianc o awyren cyn iddi daro'r ddaear ar Ynys Môn "wella'n llwyr" o'u hanafiadau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Pencarnisiog ddydd Mercher ar ôl i awyren Hawk T2 oedd wedi hedfan allan o orsaf RAF Fali, syrthio i'r ddaear.
Cyn iddi ddisgyn, roedd y ddau beilot wedi parasiwtio i'r ddaear, gyda'r awyren yn plymio ar ei thrwyn i gae, gan ffrwydro wrth iddi daro.
Cafodd y ddau eu cludo i gael triniaeth yn Ysbyty Queen Elizabeth yn Birmingham, lle mae'r Ganolfan Frenhinol ar gyfer Meddygaeth Amddiffyn.
Y foment pan wnaeth y ddau beilot ddianc o'r awyren gyda pharasiwtiau
Dywedodd y Capten Gez Currie, Cadlywydd Gorsaf RAF Y Fali ddydd Iau bod y ddau beilot yn yr ysbyty yn cael gofal gan y gwasanaethau meddygol.
"Mae eu teuluoedd gyda nhw. Mae nhw'n siarad gyda'u teuluoedd, ac rydyn ni'n ffyddiog iawn y byddan nhw'n gwella'n llwyr."
Dywedodd mai peilot o dan hyfforddiant, ynghyd â hyfforddwr profiadol iawn oedd yn rhan o'r digwyddiad ddydd Mercher.
"Mae'r ymchwiliad yn ei ddyddiau cynnar, ac mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yma i wneud ymchwiliad trylwyr, oherwydd yn amlwg, fel awyrlu rydyn ni eisiau mynd at wraidd yr hyn ddigwyddodd.
"Ond mae'n llawer rhy gynnar i hyd yn oed awgrymu ar hyn o bryd beth ddigwyddodd."

Yn ôl y Capten Gez Currie mae'r peilotiaid yn cael gofal meddygol yn yr ysbyty, ac mae eu teuluoedd gyda nhw
Mae'r awyrlu wedi penderfynu oedi hyfforddiant ar gyfer jetiau ymladd Hawk T1 a Hawk T2 dros dro fel "mesur rhagofalus".
Ychwanegodd y Capten Currie mai diogelwch ydi prif flaenoriaeth pawb sy'n ymwneud ag RAF Y Fali, ac y byddai peilotiaid mewn argyfwng o'r fath, yn chwilio am le diogel i adael yr awyren, ac yn anelu'r awyren at yr hyn fydden nhw'n ei gredu sy'n dir agored er mwyn osgoi unrhyw adeiladau neu berson ar y ddaear.
Dywedodd, mewn cyfnod o ddwy flynedd a hanner yn gadlywydd gorsaf, a gyrfa 30 mlynedd fel rheolwr traffig awyr, mai "dyma'r tro cyntaf i mi brofi digwyddiad fel hyn".

Dywedodd y Cynghorydd Douglas Fowlie ei fod yn siŵr o fod yn "brofiad brawychus" i bawb oedd ynghlwm â'r digwyddiad, a'i fod yn meddwl amdanyn nhw
Dywedodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Môn bod ganddo "bob ffydd yn yr RAF a'u prosesau".
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig eu bod yn cael yr amser a'r lle i gynnal ymchwiliad llawn i'r digwyddiad", meddai.
Dywedodd hefyd ei fod yn ddiolchgar iawn na chafodd unrhyw un eu hanafu'n ddifrifol, a bod ei feddyliau gyda'r peilotiaid oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Ychwanegodd ei fod hefyd eisiau cydnabod yr effaith ar y tirfeddiannwr a'r gymuned leol, ac yn enwedig y plant ysgol lleol oedd yn dyst i'r hyn ddigwyddodd.
"Mae'n rhaid ei fod yn brofiad dychrynllyd iawn i bawb oedd ynghlwm â'r digwyddiad, ac rwy'n gobeithio bod pawb yn iawn", meddai.
'Brawychus iawn iawn'
Roedd Gareth Davies o Walchmai yn chwarae golff yn Rhosneigr pan welodd yr hyn ddigwyddodd.
"Yn sydyn fe glywais i glec uwch fy mhen.
"Edrychais i fyny, a'r peth nesa fe welais i'r ddau beilot yn dod allan ac yna'r awyren yn troi ar ei thrwyn ac yn plymio i'r ddaear.
"Roedd yna ffrwydrad anferth a llawer o fwg," meddai.
Dywedodd Ray Brook sy'n byw yn lleol, ac a dynnodd lun o'r digwyddiad bod yr awyrennau i'w gweld yn hedfan yn rheolaidd yno yn ystod yr wythnos, a bod y digwyddiad yn un "brawychus iawn iawn".
"Roedden ni i gyd wedi cael ein hysgwyd", meddai, "ac yn poeni i ddechrau y gallai rhywun fod wedi marw.
"Roedd yn rhyddhad mawr i weld y parasiwtiau", meddai.
Dywedodd arweinydd Cyngor Môn Gary Pritchard: "Oedd o'n sioc enfawr i bawb ddoe, a mae fy niolch i yn ddiffuant i'r gwasanaethau brys... yr heddlu, y frigâd dân, gan gynnwys hefyd wrth gwrs gwylwyr y glannau a thimau achub mynydd yr awyrlu brenhinol.
"'Dan ni i gyd mor ddiolchgar mai mân anafiadau sydd yna i'r ddau beilot ac yn ddiolchgar bod y ddau wedi gwneud eu gorau i sicrhau nad oedd yr awyren yn taro unrhyw beth heblaw am gae.
"Mae'n bwysig bod yna ymchwiliad yn mynd rhagddo, wrth gwrs, mae hynny'n arferol i ddigwyddiad o'r math yna.
"Mae'r llu awyr wedi bod yn y Fali ers rhai blynyddoedd, ac wrth gwrs yn un o gyflogwyr mwya'r ynys.
"Felly mae'n bwysig bod y staff yn ymwybodol o'r hyn sydd yn mynd ymlaen yno. Dwi ddim yn meddwl bod cadw'r awyrennau ar y llawr yn afresymol o gofio beth ddigwyddodd ddoe."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.